sabato, febbraio 03, 2007

Awch

Dw i’n fy ngwely. Chi’n gwybod, dw i wedi bod ar isel don yn ddiweddar, mae’n rhaid imi gyfaddef i chi. Heb fod yn fi fy hun; dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth i wneud efo gwaith. Dim byd i wneud efo’r gwaith i hun, wrth gwrs, mae hynny’n ffein, ond yr holl drefn sydd ynghlwm i waith. Penrhyddid ydi fy mheth i; un bora fe ddeffroir pawb a bydda i wedi mynd ar antur i ben draw’r byd. Cewch chi weld.

Fodd bynnag dw i’n edrych ymlaen at y Chwe Gwlad. Mae ‘na rhywbeth amdani sy’n wirioneddol codi cynnwrf ynof fi amser yma o’r flwyddyn (a hynny fel hogyn pêl-droed). Er, gan ddweud hynny, does teimlad gwaith na dydd Llun wedi colled yn y Chwe Gwlad. Mae’n amharu ar yr wythnos, ac yn bendant ar y nos. A dw i’m yn hapus fod y gêm ddydd Sul; mae gen i waith ar y Llun.

Hefyd, chi’n gwybod beth? Mae’r awch am y Gogledd wedi dyfod ynof drachefn. Dw i’n ei fethu yn ofnadwy yn ddiweddar. Wir. A dw i’m yn meddwl fedra’ i ei dawelu.

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Awchu am fy ngweld i wyt ti fe wyddwn! Fe awn i sgota pa ddyfod yn ol!

Hogyn o Rachub ha detto...

'Sgota? Onid wyt ti'n golygu gwario llwyth ar betrol ac abwyd, mynd i eistedd mewn congl anghysbell o Sir Fon gan rewi am bedair awr cyn mynd adra'n llwgu?

Anonimo ha detto...

ydw