Haia. Dw i’n flinedig iawn heddiw, wedi deffro fyny a chael bîns ar dost a mynd i gwaith yn flinedig. Hoffwn i ymadrodd rhywfaint i chi am y wicend ond yn anffodus mi benderfynodd Dyfed a minnau na ddylid ei thrafod gyda neb na dim byth bythoedd amen. Felly ni wnaf.
Wedi bod yn siarad efo’r cleient mwyaf annoying yn y byd gynnar o’r enw Robert. Mae o wedi torri fy ysbryd megis y peiriant ffacs. A does na’m Trial and Retribution ar y teledu chwaith rwan felly mae’r nos yn ddu heb anturiaethau amlwg Rosin a Mike a Satch. Trist yw bywyd yn wir.
2 commenti:
Ti'n gwneud i'r penwythnos na sowndio yn fishy iawn! Paid ag ysgrifennu petha i wneud i bobl amau fod perthynas rhyngom fel yr hoffet. Tin sgym!
Roedd o'n unrhyw beth ond "fishy" doedd!!
Posta un commento