Y peth gwaethaf y gall rywun ei ystyried a meddwl amdano yn ei wely yn ceisio cysgu ydyw’r bydysawd. Dw i’n gwybod bod hynny’n swnio braidd yn rhyfedd, ond mi grwydrodd fy meddwl i’r hwnnw gyfeiriad neithiwr. Mae’r peth i gyd mor gymhleth fel ei bod yn amhosib dweud dim amdano, yn dydi? O’r gwyddonydd enwocaf i’r uchaf esgob, mae gan bawb eu damcaniaeth am sut y’i crëwyd, a’r gwir plaen am y mater ydi bod pob eglurhad yr un mor debygol â’i gilydd.
Wrth i hynny fy nharo, penderfynais na fyddwn yn cysgu pe bawn yn meddwl am hynny, felly daeth y meddwl i lawr at y ddaear hon. Amser; y gelyn cyffredin. Anhygoel ydyw meddwl na fydd yr Wyddfa yn bodoli rhyw ddydd. Prin iawn y byddwn ni’r Cymry yno bryd hynny: dyn ag ŵyr pwy fydd.
A minnau wastad yn ddilornus o’r Saeson hynny sy’n symud i Gymru i fod yn agos at dir na fedrant ei ddallt byth, a bod “yn rhan o natur” drwy bethau gwirion fel mediteiddio, pan ein bod ninnau’n rhan annatod o’r tir hwn ers cof: mae’r tir hwn yn fam i ni, mewn gwirionedd, yn perthyn i ni, a fedr neb ddod yn perthyn i ddim drwy geisio. Rydych chi yn, neu dydych chi ddim.
Ond rhyfedd hefyd: rydym ni wastad yn ystyried mai eiddo’r Cymry ydyw Cymru, ac mai Cymru sy’n ein llunio, ond efallai nad ydym ni’n gywir wedi’r cwbl. Bu, mewn oes bell, bobl ar y tir a elwir yn Gymru heddiw nad Cymry’r oeddent – trigai eraill yma cynom ni, a thrig eraill arni ar ein hôl. Efallai mai’r Saeson a’u hiaith nhw fydd y nesaf, mae’n ddigon posibl, ond yn sicr nid y nhw ychwaith fydd yr olaf o gryn ffordd.
Rhyfedd hefyd ydyw meddwl bod Cymru’r genedl ond yn eiliad fechan yn hanes Cymru’r tir. Bu’r Carneddau’n sefyll yn wyliadwrus a’r tonnau’n herio’r clogwyni cyn y clywid cân dyn na chri’r eryrod. Nid oedd y Gymraeg, y’i ffurfiwyd gan y tir ym mhle y trigasai, yno o’r dechrau un, a daw dydd lle y bydd hithau’n angof - ynghyd â Chymru a’r Cymry, ond hefyd ynghyd â’r hen elyn o dros y ffin: ni chofir cerddi heddiw ym mha iaith bynnag y’u hyngenir, yn yfory amser. Tybed faint o wareiddiadau’r bydd sydd eisoes wedi diflannu’n gyfan gwbl, a faint o’r rheini yr oeddent yn credu’n gryf y byddent “yma hyd ddiwedd amser”? Pwy feiddiai dau fileniwm yn ôl ddarogan na fyddai Lladin i’w chlywed; pwy ond pedair ugain o flynyddoedd yn ôl byddai’n darogan fod Ymerodraeth Lloegr yn dod o derfyn?
Rydym ninnau’r Cymry rhywfaint i’r gwrthwyneb, bu gelynion yn proffwydo ein machlud yn ystod ein gwawrddydd, ond megis traeth sy’n gwrthod ildio i’r trai daw ein diwedd ninnau hefyd yn y pen draw. Yng nghyflawnder popeth, dydyn ni, na’r holl bethau rydym ni’n sefyll drostynt yn ddim. Daw’r dydd na fydd neb yn cofio dim ohonom.
Y tric mawr ydi mwynhau popeth tra eu bod yn para, ymhyfrydu ac ymdrybaeddu yn y pethau bychain a’r pethau mawrion, o bob cwrdd â chyfeillion i bob cerdd sy’n llonni; pob cinio Sul gyda’r teulu, a meddu ar bob chwarddiad nad atseinir ‘fory. Os gwnawn ni hynny, prin y byddai’r un ohonom yn edifar rhyw lawer.
Wn i ddim sut i orffen y blogiad hwn – felly mi adawn ni pethau’n fanno!
Nessun commento:
Posta un commento