Mae rhywbeth yn y gwynt yn wir, yn dilyn yr holl ffỳs efo’r Byd. Mae’n rhyfedd pan fydd pobl mor amlwg ag Adam Price yn dilorni’r ymgyrch i sefydlu papur newydd cenedlaethol; onid yw’n rhyfedd pam na ddywedodd rhai o fawrion y Blaid hyn CYN i’r penderfyniad cael ei wneud? Na, ddim rili, mae’n siŵr.
Yn ei flog yntau mae Rhys Llwyd yn gofyn am ddiwedd i’r glymblaid, ac er fy mod yn cytuno ar y cyfan, ni fyddai ymadael â’r glymblaid yn dod â diwedd i’r wir ddicter ymhlith nifer o aelodau a chefnogwyr y Blaid, ac ni fyddai’n newid y ffaith bod y Blaid wedi penderfynu cefnu ar lu addewidion parthed y Gymraeg mewn cyfnod o chwe mis. Nid tynnu allan o’r glymblaid sydd angen i Blaid Cymru ei wneud ond mae angen iddi ailymafael â’i chenedlaetholdeb craidd. Iawn, dim ond drwy glymbleidio â Llafur y gellir, mewn theori, ennill refferendwm (y dywed rhai o amlygion y Blaid nad oes ei angen cyn 2011), ond yn bersonol ni fyddwn yn fodlon ar hynny ar draul y Gymraeg. Saunders oedd yn iawn: mae’r iaith yn bwysicach na hunanlywodraeth. Gwell y galon gaeth na rhyddid dienaid.
Ond dw i’n teimlo’n gynyddol bod dicter tuag at Blaid Cymru yn gyffredinol. Er fy mod yn lled-gefnogol i gynlluniau Cyngor Gwynedd o ran ysgolion, er enghraifft, mae ‘na rhywbeth am yr ymgyrch i achub yr ysgolion bychain sy’n teimlo’n barhaol, sy’n teimlo fel rhwyg rhwng y Blaid Cymru barchus newydd a’r elfen mudiad protest. Mae rhywbeth yn fy mêr yn dweud wrthyf nad lleol mo’r anfodlonrwydd, ac er y taerir yn wahanol, bod elfen gref gwrth-Plaid Cymru yn perthyn i’r mudiad. Ond wn i ddim, teimlad yn unig yw hwnnw.
Mae’n drist nad oes i Blaid Cymru bellach Gwynfor neu Lewis Valentine neu DJ Williams bellach; Hywel Teifi daw agosaf at y rheini, ac mae gen i barch at Hywel Teifi. Mae’n genedlaetholwr go iawn, mae’r Blaid o hyd yn llawn cenedlaetholwyr. Dyna pan fues yn aelod, a dyna pam adawais.
Dim ots. Dw i’m yn credu y gwnaf flogio mwy am y sefyllfa mwy, mae o jyst yn rhy ddigalon. Ac un cenedlaetholwr ydw i, ac nid colled trwm mo fy mhleidlais i'r Blaid. Ond mae rhwyg yn y mudiad cenedlaethol - a phroffwydaf fan hyn y bydd yn un dwfn iawn.
Hogia bach, mai ar ben arnom.
1 commento:
Mae'r iaith YN bwysicach na hunan lywodraeth ond dyw Plaid Cymru ddim yn credu hynny erbyn hyn - bod mewn grym yw popeth iddyn nhw a naw wfft i sylfaenwyr y mudiad a'u consyrn dros yr iaith.
Dyddiau duon wir yr!
Posta un commento