Wythnos i ‘fory dw i’n dathlu fy mhen-blwydd. Wythnos i ‘fory mae’n rhaid i mi bwyso 11.6 stôn. Wythnos i ‘fory dw i am feddwi a gwneud bob math o bethau drwg a swnllyd nad ydi pobl dosbarth canol a chapelwyr yn hoff ohonynt. Ond mae amodau, ac elfen gref o betruster. Nid yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.
Dydw i ddim yn hoff o’r rhif 23. O fod yn 22, gall rhywun smalio ei fod yn 21 o hyd. Nid felly 23. Rŵan, dw i’n raddol gweld llawer o’m ffrindiau yn callio i raddau; licio arbed ychydig o arian, mynd allan am fwyd, sesiwns mawrion, gwyllt, anfoesgar yn diflannu cam wrth gam, a dw i’m yn licio. Ac mae rhyw ddisgwyl cyffredinol i rywun ddechrau callio rhywfaint ar yr oedran hwn. Dwi am wrthod, wrth gwrs, er gan deimlo y dylwn.
Dydi bod yn 23 yn ei hun ddim yn fy mhryderu’n ormodol, callio sy’n fy mhoeni i. ‘Does gen i ddim bwriad gwneud. Dw i eisoes yn chwerw fy mod i’n gweithio a ddim yn cael mynd i’r pyb drwy’r dydd, er yn fodlon iawn ar fy chwerwder parhaus, distaw sy’n bennaf nodwedd i mi. Ond dw i ar ddeiet ar y funud, a ddim isio bol cwrw, ac yn bwyta’n iach a gwneud ambell i weithgaredd!
Mi synfyfyriaf.
Anodd ydi cael cymeriad wedi’i bennu i chi; mae pawb yn ei gael ac yn aml iawn fe fyddwn oll yn actio i’r cymeriad hwnnw, yn raddol ymffurfio i fod yn gymeriadau ohonom ein hunain. Ydi rhywun yn driw i’w hun am fod yn gymeriad/bersonoliaeth y maent eisiau bod, a chwarae i hynny? Neu ai gwell ydi bod beth yr wyt ond ddim mor hoffus ohono? Neu a oes rhyw ganol hapus i’w cyfuno, neu a ellir newid i ba bwy bynnag neu le bynnag rydych? Os rydych chi fel y fi, fyddwch chi’n hoff iawn o ddadansoddi personoliaethau a phobl: dyn ag ŵyr, mae cyfran go dda o’m sgyrsiau yn cylchdroi o amgylch dadansoddi eraill.
Un o’r pethau rhyfeddaf o ddiddorol ydi pethau fel ‘tasa X yn fwyd/anifail, be fyddan nhw?’. Dwi’n cael pethau crap fel cwstard a broga o hyd. Broga’r Cwstard. Taswn i’n anifail, byddwn i am fod yn Froga’r Cwstard, yn ddiamheuaeth.
1 commento:
Petaset ti'n anifail buaset yn groesryw o doiledfuwch, cachgranc, sliwen fôr lydandrwyn a lleuen biwbaidd yr Oral.
Iason y fuwch toiledgachlydsliwenaiddpiwbwsoralis
Dyma dwi'n mynd i'th alw o hyn ymlaen!
Ti'n iawn Iason y fuwch toiledgachlydsliwenaiddpiwbwsoralis?
Posta un commento