Sôn am deledu (mi wnes ddoe i raddau, dylech ddarllen yn amlach, gyfeillion) mae nos Iau yn arbennig iawn. Iawn, mae gêm heno (sef Croatia a’r Almaen os nad ydych yn dilyn y pêl-droed) yn dod â dŵr i’m dannedd (dyna ‘di ffwcin dywediad a hanner) ond mae gan nos Iau un temtasiwn anferthol na allaf ei hanwybyddu (na fy ffrind gwirion Ceren Roberts; nid yn anaml y seilir ein hamser gyda’n gilydd o amgylch y gwychder hwn). Efallai ei bod yn hysbys i chi yn barod. Efallai nad ydych wedi clywed amdani o’r blaen, wn i ddim. Ei henw yw Come Dine With Me. Dyma raglen wychaf y bocs ar hyn o bryd.
Os nad ydych yn gyfarwydd â’r fformat, beth sy’n digwydd ydi bod pedwar person yn mynd o amgylch tai ei gilydd, gan goginio ar gyfer ei gilydd, nes bod pawb wedi gwneud hynny. Maen nhw’n rhoi marciau allan o ddeg i’w gilydd am y noson, yr awyrgylch, ac yn bennaf y bwyd. Ddiwedd yr wythnos mae’r un sydd â’r mwyaf o bwyntiau yn ennill £1,000.
Os ydych chi fel y fi ac yn ymhyfrydu mewn dadansoddi a chwerthin ar ymatebion pobl i sefyllfaoedd gwahanol byddech chi wrth eich bodd â’r rhaglen hon. Mae pob math o bobl yn cystadlu; pobl grand, pobl tai cyngor, henoed, pobl ifanc, pob llun a lliw. Heb sôn am sylwadau gwirioneddol doniol yr adroddwr, mae sylwadau rhai pobl am fwyd ei gilydd yn wneud i mi rolio chwerthin ar adegau, a ‘sdim byd yn well na'r erchylltra yn llygaid pobl o weld bwyd maen nhw’n ei gasáu, neu fwyd crap, yn cael ei weini.
Ac wedyn maen nhw’n troi’n bitchy. Nid bitchy cas, ond chwilio am ffyrdd o ddilorni bwyd eu gwrthwynebwyr mewn ffordd slei. Un o’r rhai gorau, a welais sbel yn ôl erbyn hyn, oedd pan oedd dynes hynod, hynod oriog sy’n berchen ar westy yn Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd, yn chwarae rhan y gwesteiwr. ‘Doedd hi’n amlwg ddim yn hoff iawn o bobl yn gyffredinol, ac mi sgoriodd 13 pwynt (allan o 40 bryd hynny, ond 30 o bwyntiau gewch chi erbyn hyn gydag un person yn llai ar y rhaglen) am ei bwyd, gan ennyn sylwadau megis, “If I had that in a pub, I’d send it back. It was crap”.
Ta waeth, os nad oes gennych gynlluniau heno ac nad ydi Awstria vs Gwlad Pwyl at eich dant, gwyliwch Come Dine With Me.Ydi, mae o ‘mbach yn rhwysg, yn ymhongar, ond mae’n rhoi syndod ar y diawl i rywun weld pa mor ddoniol y gall pobl yn coginio ar gyfer ei gilydd fod.
2 commenti:
Wels i un unwaith gyda menyw cinio yn cynnig 'vanilla ice cream with rasberry coulis' i bwdin. Walls ice cream melyn odd e, ac ar gyfer y coulis, 'nath hi gymysgu bach o jam gyda dwr twym o'r tap. Odd hi'n hilarious!
mae'n wych pan fydd pobl yn gwrthod profi'r stwff - sôn am anghwrtais.
welaist ti'r un yn ddiweddar lle caeth y boi farciau isel achos fyddai'r lleill ddim yn credu fod e 'di gwneud y bwyd ei hunan?
Posta un commento