Yn wahanol i sawl person dwi’n eu hadnabod, a hwythau gwyddant pwy ydynt, nid yw fy mywyd yn cylchdroi o amgylch teledu, er fy mod i’n ddiog ac yn treulio’r nosweithiau o flaen y cyfrifiadur a’r teledu a dim arall yn lle gwneud pethau fel ymarfer corff ac ysgrifennu’r Stori Fer dragwyddol anorffenedig ond ffwc o ddoniol serch hyn.
Sôn am ddoniol dwi’n licio gweld pa fath o hiwmor sydd gan bawb, a sut fath o hiwmor y bydd rhywun yn ei gyfleu. Fydda i’n hoff o feddwl (yn gwbl gelwyddog) fod gen i hiwmor eangfrydig, ond a dweud y gwir hiwmor sy’n gyfuniad o fod yn swrreal, sarhaus a stiwpid-blentynnaidd sy gen i, sy’n cylchdroi o amgylch cymariaethau. Mae’n od mai Blackadder a Bottom yw fy hoff gomedïau, sy’n gwbl wahanol i’w gilydd, ond dwi methu er fy myw mynd i mewn i Family Guy na The Office. Dwi ddim yn ‘cael’ Family Guy, a dwi ddim yn chwerthin ar The Office.
Ta waeth, bod yn fwy cynhyrchiol y gwnaf. Dyna bwynt y blogiad hwn. Rhaid i ‘Diwrnod ym Mywyd yr Enwog Syr Ian’ gael ei gorffen. Beth i wneud efo peth o’r fath wn i ddim. Ond mi ffendia i rywbeth cos dwi’n grêt.
2 commenti:
Dwi'n rowlio chwerthin wrth wylio Family Guy, sy'n golygu mod i'n anaeddfed a hollol sick - er mae'n debyg bod jocs y Simpsons ar ben diwylliant Americanaidd yn tipyn mwy cynil
Tra dwi ddim yn gwylio lot o deledu (o'i gymharu a llawer), dwi wedi dod i wylio lot o gomediau yn ddiweddar, llawer o rai Seisnig (yn hytrach nag Americanaidd). Pethau fel Peep Show, ac yn ddiweddar Inbetweeners. Pleser pur yw eu gwylio.
Ymddiheuriadau os fwydrais i chi gyd nos Wener, roeddwn braidd yn feddw, siwr bod gan Rhys Owen gywilydd fy ngwahodd allan.
Na phoener, roeddwn i'n mwydro cymaint â neb dwi'n amau dim!
Posta un commento