Gwn y cwynais yn gynharach eleni (oedd hi fis yn ôl erbyn hyn, dŵad?) fy mod wedi alaru ar y Nadolig yn dod yn fuan flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond bryd hynny dim ond wedi gweld ambell i beth oeddwn i. I fod yn gwbl onest, dwi’n teimlo bod Dolig eleni wedi dod yn llawer hwyrach na’r arfer. Hynny yw, dwi’n siŵr roedd Cymru’n fwy Nadoligaidd yr adeg hon y llynedd nag ydi hi ar hyn o bryd. Dwi’n iawn?
Hidia befo am hynny, pan ddaw mi ddaw’n llanw (dwi actiwli yn siarad fel hynna ar lafar pan fo’r awydd yn codi, credwch ai peidio).
Ond neithiwr cafwyd noson tân gwyllt. Fel digon o bobl erbyn heddiw, dwi ddim yn meddwl bod methiant i ffrwydro’r senedd a brenin Lloegr yn destun dathlu, ond mi fydda i’n hoffi tân gwyllt. Gan ddweud hynny dwi heb fynd i weld tân gwyllt ar Dachwedd 5ed ers cyn cof, neu gyn coleg yn sicr.
Doedd noson tân gwyllt fawr o hwyl yn Rachub – roedd tua un roced, paced bach o dân gwyllt pitw a’r goelcerth wedi cael ei llosgi gan rywun ymhell cyn y dyddiad dathlu. Arferwn fynd i Fangor fel teulu, ac roedd hynny’n hwyl. Prin yw’r nosweithiau y dônt â’ch plentyndod nôl fel noson tân gwyllt: sŵn y sbarclers, yr olwyn catrin yn mynd yn wallgof, y rocedi mawrion, gwres y goelcerth, arogl bwyd a mwg.
Ychydig fel y Nadolig a phenblwyddi mae’n un o’r pethau hynny nad yw’n ennyn yr un cyffro mwyach, ac eto mor fyw ag erioed.
Nessun commento:
Posta un commento