giovedì, marzo 12, 2009

Cadwch y Facebook yn bur

Unwaith y bydda i’n dweud NA dwi’n ei olygu. Fydda i’n disgwyl i rywun wrando ar hynny. Wna i ddim swnian ar bobl i wneud pethau fy hun (yn enwedig os nad ydw i isio iddyn nhw wneud rhywbeth) ac yn derbyn yr ateb cyntaf bob tro.

Yn ddiweddar fydda i’n cael negeseuon ar Facebook am bob math o bethau. Negeseuon preifat ydyn nhw, yn gofyn i mi ymuno â grwpiau a mynd i ddigwyddiadau. Dwi wedi cael tair neges o wahoddiad i Celtfest ond dwi’m yn blydi mynd. Dwi’n ychwanegu’r ‘blydi’ yn bennaf oherwydd fy mod yn syrffedu ar gael fy ngofyn yn hytrach na bod y syniad yn wrthun i mi.

Yn ogystal â hynny mae’n gas gen i dîm rygbi Iwerddon a dwi ddim yn rhywun sy’n licio gwylio gêm efo ffans y gwrthwynebwyr, gan nad pwy fônt. Ac mi ddyweda i hyn: ma’r Gwyddelod ‘na’n gallu bod yn griw coci pan ddaw at rygbi, sy’n chwara teg, mae’n siŵr, o ystyried eu bod nhw heb ennill y Chwe Gwlad ers oes y blaidd a’r arth (diolch i flogmenai am y dywediad bach del hwnnw).

Ond bydda i’n cael fy ngwahodd i bethau rhyfedd hefyd. Yn wahanol i rai pobl dwi ddim yn gweld pwynt ymgyrchu dros Facebook ac anfon negeseuon drwyddo. Er enghraifft mae’r grŵp Cymru Yfory yn rhoi llwyth o negeseuon i mi ar Facebook, a’r unig ymateb sy gen i ydi STOPIWCH. Dydi o ddim yn fy ymgysylltu, nac yn ennyn fy niddordeb mwy, achos dydw i ddim yn mynd ar Facebook er mwyn gwleidydda, ymgyrchu neu gael gwybodaeth. Dwi’n mynd yno i fusnesu ar fy ffrindiau a gweld a oes rhywun wedi fy nhagio mewn rhyw fân nos Sadwrn lun.

Bai fi ydi hi am ymuno efo’r grŵp yn lle cynta, mwn, ond mae’n rhaid i rywun ddangos ei ochr weithiau.

Yr unig beth mae’n ei wneud i mi ydi gwneud i mi GOLLI diddordeb, erbyn hyn fe fyddaf yn dileu negeseuon felly heb hyd yn oed eu darllen. Alla i mond ei gymharu â chwain mewn trôns - ma’n ffycin annoying. Dwi ddim yn meddwl bod y bobl sy’n ystyried Facebook fel ‘ffordd dda o gyfathrebu ac ennyn diddordeb’ (nid dyfyniad ydi hwnnw gyda llaw) yn dallt hynny.

Hefyd mae’n gas gennai’r bobl yma sy’n meddwl eu bod nhw’n gwneud rhywbeth da drwy ymuno efo grwpiau fel Support the Monks Protests in Burma, er enghraifft. Fydda i’n licio grwpiau fel I Hate Cats, achos dyna ydi pwynt Facebook am wn i, sef ffordd digon ysgafn o basio’r oriau hirion, a busnesu ar dy fêts. Nid pulpud mohono.

Os ydach chi isio colli cefnogaeth i unrhyw achos, bombardiwch rhywun efo negeseuon preifat ar Facebook. Mae ‘na le ac amser, bobol bach.

1 commento:

Rhys Wynne ha detto...

"Os ydach chi isio colli cefnogaeth i unrhyw achos, bombardiwch rhywun efo negeseuon preifat ar Facebook."

Amen wir.

Dw i wedi colli cownt o faint o wahodidadau i CeltFest dw i wedi dderbyn, un yn whaoddiad o grŵp 'Dewch a Sgorio'n ôl' (er nad ydy i'n un ohonynt, ond cyfran sylweddol o gefnogwyr pêl-droed yng Nghymru yn casau'r gêm rybi â chasineb perffaith) ond hefyd fel negeseuon preifat gan unigolion dw i erioed wedi clywed amdanynt. Maen nhw felly'n trawlio grwpiau Cymraeg a Chymreig ac yn spamio.

Hefyd, mae'n ymddangos bod lot yn gweld rhwybeth ofnadwy sy'n digwydd yn y byd, fel tlodi e.e. ac yn meddwl bod dechrau grŵp Facebook am y peth rhywsut yn mynd i ddod a'r peth i ben - 'Job done' fel petai.

Yr unig fantais o Facebook hyd y gwela i ydy dangos i ddyn pa mor dwp ydy rhai o'i ffrindiau.