martedì, agosto 11, 2009

Bro vs. Cenedl

Mae’r Hen Rech a Blogmenai wrthi’n dadlau am rinweddau a phroblemau brogarwch/plwyfoldeb a’r ffordd y maent yn cyd-fynd â chenedlaetholdeb. Rŵan, tai’m i fentro i mewn i’r ddadl hon yn uniongyrchol, ond fe hoffwn gynnig ambell i sylw, os y caf, Syr.

Mae’n gwbl hysbys i unrhyw sydd wedi darllen pwt gwleidyddol ar y blog hwn nad ydw i’n gefnogol i Lais Gwynedd, ‘does gen i ddim da i ddweud am y blaid honno mae arna’ i ofn, ond mae brogarwch ac i raddau helaeth plwyfoldeb yn rhan annatod o’m cyfansoddiad, fe welir hynny o deitl y blog hwn ei hun. Iawn, dwi’n byw yng Nghaerdydd am y tro, ond yn fy hanfod dwi’n ‘fab y mynydd oddi cartref yn creu cân...’ Un o Ddyffryn Ogwen fydda i, a dwi gymaint o un o Ddyffryn Ogwen ag ydwyf o Gymro.

Yn draddodiadol, mae brogarwch yn rhan annatod o ddaliadau’r cenedlaetholwr Cymreig; D.J. Williams fyddai’r amlycaf o’u plith mae’n siŵr. Mae eich bro, gan amlaf, yn cronni’r hyn rydych yn ei garu am eich gwlad, i mi yr iaith, y dirwedd, y bobl. Pe na charwm Ddyffryn Ogwen ni a charwn Gymru. Mae honno’n ffaith. Mae’r dyhead i weld parhad y pethau hynny sy’n unigryw a chraidd i’m bro yn gwbl ynghlwm wrth y pethau hynny sy’n llywio fy nyheadau ar gyfer cenedl y Cymry.

Efallai nad ydi brogarwch erbyn hyn yn rhan mor hanfodol o genedlaetholdeb Cymreig. Mae hynny’n beth trist. Dydi cenedlaetholdeb lwyr genedlaethol ddim yn rhywbeth dwi’n cytuno ag ef. Peth personol ydi hynny, dwi ddim yn genedlaetholwr sifig eithr cenedlaetholwr diwylliannol i bob pwrpas.

Ond er mwyn i genedlaetholwyr ymafael mewn grym rhaid edrych ar Gymru fel uned, yn gymuned genedlaethol. Yr her ydi gwneud hynny ac ymladd y frwydr genedlaethol, heb adael bwlch o ran brwydrau lleol. Mae’n anodd dadlau, mi gredaf, i Blaid Cymru lwyddo yn hynny o beth ym Meirionnydd, a gwelwyd yn sgîl hynny dyfodiad Llais Gwynedd. Wn i ddim a ydi’r Blaid wedi ail-wreiddio, ond mae’n hanfodol i adennill Gwynedd i’r gorlan werdd.

Mae brogarwch yn bwysig i’r Cymry Cymraeg. Os na all Plaid Cymru gyfleu’r dyheadau hynny, mae ganddi broblem gyda’i chefnogaeth greiddiol. Rhaid iddi beidio â chymryd y gefnogaeth honno yn ganiataol, ac fedra i ddim ond helpu â theimlo bod arweinyddiaeth Plaid Cymru yn gwneud hynny o hyd, hynny yw y dysgwyd gwersi yn lleol (am wn i) ond nad ydi’r gwersi hynny wedi cyrraedd y brig – ond fy argraff i o’r sefyllfa ydi hynny.

Pwynt a wnaeth Blogmenai oedd bod cefnogi’r pleidliau rhanbarthol yn wrth-genedlaetholgar. Rŵan, dwi’n meddwl bod hynny’n sweeping statement i raddau helaeth iawn, ond nid pwynt annheg mohono. Dydi Llais Gwynedd, er enghraifft, ddim am ddod â rhagor o bwerau i’r Cynulliad, ac o ran hynny pwerau dros bethau fel tai ac addysg a all fod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu’r pethau hynny y mae nifer yn Llais Gwynedd yn sefyll drosynt: ysgolion lleol, gwasanaethau lleol, yr iaith Gymraeg (er bod ambell un yn LlG yn malio dim am yr iaith, dwi’n llwyr fodlon dweud).

Drwy ymdynnu o un mudiad cenedlaethol, er gwaethaf ei wendidau (a dwi fy hun wedi cwyno droeon yma am wendidau’r Blaid), gwanychir yr achos cenedlaethol. Os gwanychir hwnnw ‘does dwywaith am un peth, ni chawn y grym ar lefel genedlaethol i fedru ddiogelu yn pethau hynny y mae rhai yn Llais Gwynedd yn ceisio eu harbed; drwy wanhau’r prif fudiad cenedlaethol, fe allai niweidio’r hyn y mae’n brwydro drosto yn y pen draw. Byddai dirywiad cenedlaetholdeb ar y lefel genedlaethol yn cael effaith andwyol iawn ar frogarwch, a hefyd plwyfoldeb yn ei holl ffurfiau. Yng Nghymru, ac yn y Gymru Gymraeg yn benodol, ni ellir arwahanu brogarwch a chenedlaetholdeb, ac mae brogarwch yn naturiol yn arwain at genedlgarwch.

Dwi ddim yn dweud, roedd, ac mae dal i raddau, angen cic yn din ar Blaid Cymru yng Ngwynedd. Mae’r plwyfoldeb a fu’n rhan o ddaliadau y Blaid ar lefel leol o hyd yn berthnasol yn y rhan honno o’r wlad. Ond os ydym yn chwarae brogarwch a chenedlaetholdeb yn erbyn ei gilydd, credwch chi fi, fydd y ddau beth allan o’r gêm yn sydyn reit.

3 commenti:

menaiblog ha detto...

'Dwi ddim yn anghytuno efo'r rhan fwyaf o hyn a dweud y gwir.

Problem pleidiau rhanbarthol ydi mai'r rhanbarth ydi ffocws eu gwleidyddiaeth - 'does yna ddim dimensiwn cenedlaethol mewn gwirionedd.

Ar un olwg mae cymryd y safbwynt wleidyddol yma yn gwneud pethau'n hawdd i'r blaid ranbarthol - 'dydyn nhw ddim yn gorfod cydbwyso buddiannau gwahanol rannau o'r wlad - ond mae'n eu gwneud yn bleidiau all genedlaetholgar.

Dyfrig ha detto...

Y drafodaeth orau ar y blogosffer Cymraeg ers tro byd. Dwi wedi gwneud fy nghyfraniad ar fy mlog i http://stwnsh.com/ymfgfn

GWILYM EUROS ROBERTS ha detto...

Ti'n codi llawer o bwyntiau dilys a threiddgar iawn yn yr ysgrif hwn. Yn naturiol fedrai ddim cytuno gyda bopeth sydd ynddo ond ti'n bendant wedi taro ambell i hoelen ar ei phen. Diolch.