Dydw i ddim ond yn ysgrifennu hyn am fy mod wedi cael fy ngosod ar y rhestr ddirgel y soniais amdani yn y blogiad diwethaf, ond yn hytrach mae’n rhywbeth yr oeddwn am ysgrifennu amdano ond heb â chael cyfle i wneud. Dwi’n Rachub dirion ar hyn o bryd, a ddim yn mynd am Gaerdydd tan y p’nawn, felly ymlaen â fi.
Cododd Dyfrig bwynt a’m tarodd yn ei flogiad Gwlad a Bro wrth i rai ohonom ddadlau rhinweddau a diffygion plwyfoldeb a brogarwch. Yr hyn a godwyd oedd cenedlaetholdeb Cymreig namyn yr iaith Gymraeg, yn enwedig o safbwynt Cymro Cymraeg. Nid af ar yr union drywydd hwnnw.
Wrth i mi feddwl ac ystyried mae yn wir enghreifftiau o genedlaetholdeb, o sawl safbwynt, sy’n dangos ystod y daliadau o dan yr ymbarél genedlaetholgar, a pha mor eithriadol yw’r dasg o’u huno dan un faner. Nid sôn fan hyn am y chwith a’r dde ydw i, ond natur y mathau o genedlaetholdeb yng Nghymru.
Ymlaen llaw, rhaid dweud mai un peth sy’n uno cenedlaetholwyr o bob math yw’r egwyddor sylfaenol bod gan bob cenedl a gwerin yr hawl i reoli ei hun – boed hynny’n llwyr annibynnol neu’n ffurf ar ymreolaeth. O feddwl, a chofio hynny hefyd, mi fedraf nodi pedwar cenedlaetholdeb y Gymru fodern.
Cenedlaetholdeb Diwylliannol / Traddodiadol
Cymru fydd fel Cymru fu, yn glodus ymysg gwledydd
Fel y mwyafrif llethol o genedlaetholwyr Cymraeg eu hiaith, yr iaith ydi’r brif sbardun i’m cenedlaetholdeb i. Am wn i, mae hynny ynddo’i hun yn fy ngosod yn y categori cenedlaetholwr diwylliannol/traddodiadol yn y cyd-destun Cymreig. Yr ail brif nod yw annibyniaeth. A dyma pham.
Y brif rheswm dwi’n credu mewn annibyniaeth i Gymru ydi i ddiogelu’r Gymraeg a sicrhau dyfodol iddi; rhywbeth, mae arnaf ofn, nad sydd yn y Gymru sydd ohoni. O ystyried y safbwynt hwnnw, mae’n anodd gennyf weld beth fyddai fy nghymhelliant dros gredu mewn annibyniaeth pe na fyddwn yn Gymro Cymraeg. Dyna pam, er enghraifft, nad ydw i’n uniaethu â Phlaid Cymru yng Nghaerdydd a sawl rhan arall o’r wlad. Nid yr iaith sydd wrth wraidd y cenedlaetholdeb a arddelir.
Ac eto i’r cenedlaetholwr traddodiadol, parhad yr iaith drwy ba ddull bynnag ydi’r gwir nod – boed hynny o fewn fframwaith y Deyrnas Unedig neu Gymru Rydd. Dyma’r garfan sy’n galon i’r mudiad cenedlaethol – y rhai mwyaf penderfynol a diflino, ac eto’r garfan fwyaf ystyfnig a chul.
Y peth diddorol ydi, tan yn ddiweddar a monopoleiddio’r Gymraeg gan genedlaetholwyr (ysywaeth, dyma’r gwir), mae ‘na ddigon o enghreifftiau o eraill, boed hwythau’n Llafurwyr, yn Geidwadwyr neu’n Rhyddfrydwyr, y gellid eu galw’n genedlaetholwyr diwylliannol (os nad traddodiadol fel y cyfryw). Roedd adeg, cofiwch, nid cyn cof, yr oedd Llafur y Fro Gymraeg yr un mor ‘Gymreig/Cymraeg’ â Phleidwyr y Fro!
Faint o genedlaetholwyr Cymraeg eu hiaith sydd yno nad y Gymraeg mo’u prif ysgogiad? Ceir ambell un, ond maent yn lleiafrif. Mae cred y cenedlaetholwr traddodiadol wedi cario’r mudiad erioed, ond mae’r duedd i beidio ag edrych ‘y tu allan i’r bocs’ yn rhwystr fawr na ddylwn ei hanwybyddu.
Cenedlaetholdeb Ideolegol
Dros Gymru sosialaidd annibynnol
Mae cenedlaetholdeb yn naturiol weddnewid, a dyma’r wedd fwyaf newydd arno dwi’n credu. Os, yn draddodiadol, y gellid dweud mai’r iaith oedd prif gymhelliant y Cymry Cymraeg i droi at genedlaetholdeb, dydi hynny ddim yn gwbl wir rŵan. Cymer enghraifft Adam Price neu Bethan Jenkins. Dydw i ddim yn dweud nad ydi’r iaith yn gymhelliant ganddynt, ond yr agenda asgell chwith, y Gymru rydd sosialaidd ydi’r prif nod ganddynt hwy. Pa beth bynnag ydyw, mae’n wead arall ar genedlaetholdeb nad yw’n cyd-fynd â’m cenedlaetholdeb i. Bron y gellid galw’r cenedlaetholdeb hwn yn Genedlaetholdeb Ideolegol, hynny yw bod annibyniaeth yn fodd i arfer un ideoleg benodol.
O dop fy mhen, alla’ i ddim meddwl am unrhyw genedlaetholwyr rhyddfrydig na cheidwadol, neu y dyddiau hyn cenedlaetholwyr gwyrdd (sydd yn sicr yn wedd arall a welwn ymhen ychydig), sy’n dod i’r categori hwn. Mae hynny, mae’n siŵr, oherwydd bod gwleidyddiaeth Prydain yn asgell dde fel rheol, ac felly ni fyddai angen i genedlaetholwr ideolegol ar y dde fodoli yng Nghymru heddiw, i bob pwrpas.
Cenedlaetholdeb Economaidd
Diwedd y gân yw’r geiniog
Yn bersonol, dwi’n meddwl mai dyma’r math mwyaf diddorol o genedlaetholdeb yng Nghymru sy’n amlycach o lawer yn yr Alban nag ydyw fan hyn. Dyma’r rhai sy’n credu’n gryf y dylai Cymru gael ymreolaeth oherwydd y byddai Caerdydd yn sicrhau Cymru fwy llewyrchus nag y byddai Llundain. Byddwn i’n gosod y diweddar Phil Williams, D.J. Davies ac wrth gwrs Dafydd Wigley, yn yr adran hon.
Y broblem ydi mai dyma’r garfan leiaf ymhlith cenedlaetholwyr. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn credu y gallai Cymru reoli economi Cymru yn well na Llundain a thrwy hynny sicrhau Cymru fwy llewyrchus, ac eto nid dyna flaenoriaeth ein cred. Er gwaethaf popeth, dydi cenedlaetholwyr heb â chyflwyno dadl economaidd gadarn dros Gymru annibynnol. Allwn ni ddim beio pobl am ofni colli eu swyddi a byw mewn gwlad sy’n economaidd wan, waeth pa mor ddi-sail ydi’r ofnau hynny, a dyma’r ddadl sy’n rhaid ei hennill i argyhoeddi’r mwyafrif bod annibyniaeth yn ymarferol bosibl.
Nododd David Melding yn ddiweddar fod y ddadl economaidd yn gwbl amherthnasol, hynny yw rydych chi’n credu mewn annibyniaeth neu beidio. Alla’ i ddim cytuno. Yn anad dim y ddadl hon fydd yn penderfynu p’un a yw Cymru i fod yn rhydd o Lundain ynteu’n gaeth iddi. Nid yw dweud “byddai Caerdydd yn rhoi economi Cymru’n gyntaf mewn gwlad annibynnol” yn ddigon. Mae angen ymchwil ac astudiaeth bellach yn y maes hwn.
Pan ddaw’r drafodaeth anochel ar annibynniaeth, gobeithiwn y bydd y cenedlaetholwyr economaidd wedi deall y drefn ac y bydd dadl gref wrthlaw ganddynt. Ni ddylai’r un cenedlaetholwr osgoi’r baich hwn, ond hwn fydd yn sicrhau llwyddiant.
Cenedlaetholdeb Dinesig/Sifig
Os ydym i fod yn rhydd, rhaid inni ymddwyn fel pe baem eisoes yn rhydd
Yn olaf, dyma’r cenedlaetholdeb nas cynrychiolir yn etholedig mewn difri. Mae llawer yn y gorffennol, fel Saunders, D.J. Davies ac o bosibl Arglwydd Êl ein hoes ni, wedi arddel elfennau o’r cenedlaetholdeb hwn sydd, i bob pwrpas, yn dderbyniol mewn gwledydd annibynnol, a hefyd yn gyffredin mewn gwledydd di-wladwriaeth sydd â llawer o sefydliadau a symbolau cenedlaethol, fel yr Alban, Gwlad y Basg a Chatalonia. Dyma genedlaetholdeb newydd y werin.
Mae’n newydd i ni yng Nghymru – pobl sy’n ymfalchïo bod gennym Gynulliad, system ysgolion ar wahân, yr Eisteddfod, yr iaith ac ati heb o reidrwydd weld annibyniaeth yn nod, yn bennaf oherwydd ofnau economaidd. Ond tan yn ddiweddar nid oedd gennym fawr o reswm arddel y cenedlaetholdeb hwn gan nad oedd modd i ni wneud hynny.
Dyma’r rhai y byddai’r ddadl economaidd yn eu hargyhoeddi o Gymru annibynnol, a dyma genedlaetholdeb y Gymru ddi-Gymraeg a welir mewn llefydd fel Caerdydd a’r Cymoedd, ac i raddau sy’n cymryd lle cenedlaetholdeb diwylliannol ymhlith pobl ifanc ein gwlad. Efallai ei fod yn fwy ‘feddal’ na chenedlaetholdeb traddodiadol, ond efallai bod yr apêl yn ehangach.
‘Does gen i ddim amheuaeth ymhen ugain mlynedd dyma fydd prif genedlaetholdeb Cymru, pan fydd y genedl hon, gobeithio, yn fwy hyderus a chyda mwy o sefydliadau unigryw iddi. Ohoni y deillir nid yn unig rhai o fawrion cenedlaetholdeb Cymru, ond yr unigolyn a fydd yn ein harwain at Gymru annibynnol, pa ffurf bynnag fydd arni.
Fel y soniais uchod, mae cyfuno cenedlaetholdeb dan un faner yn dasg anodd, ond o dan y faner hon y gall cenedlaetholdeb wir uno.
O ran yr iaith, bydd un o ddau drywydd, sef trywydd llwyddiannus Catalonia neu Wlad y Basg, neu enghraifft ddifrifol yr Iwerddon. Fel Cymry, rydym yn edrych tuag at enghreifftiau penrhyn Iberia a’r ynys werdd, a dyletswydd y cenedlaetholwyr traddodiadol fydd sicrhau mai ar drywydd Iberia yr awn. Ta waeth, gwelwn ddatblygiad y ffurf hon ar genedlaetholdeb ar fyr o dro mi dybiaf; mi all fod yn ysgubol lwyddiannus os fe’i gwneir yn iawn, ond gallai hefyd fod yn hynod boenus i’r cenedlaetholwyr diwylliannol – fydd yn ddiddorol, o leiaf.
Dawelaf i rŵan rhag mwydro gormod, ond dyna frasolwg o’m syniadau brysiog aar sefyllfa cenedlaetholdeb yng Nghymru heddiw.
1 commento:
Diddorol dros ben. Liciwn i feddwl y cai gyfle i sgwenu ymateb. Ond ar y funud, dwi'n boddi mewn gwaith. Ac eisiau mynd i wrando ar bryderon rhai o etholwyr Rachub heno 'ma.
Posta un commento