Cefais syndod, cofiwch chi, wrth galw draw i’r blog hwn heddiw. Ar gyfartaledd tua 23 o bobl sy’n ymweld â’r blog hwn y diwrnod, sydd wrth gwrs yn nifer eithaf pitw, a ‘does fawr amheuaeth mai’r un 23 o bobl sy’n gwneud bob dydd, ond am ryw reswm ddoe roedd dros deirgwaith hynny wedi bod yma.
O edrych ar hyn mae’n debyg bod llwyth o bobl wedi canfod eu ffordd yma drwy Twitter. Wn i ddim o le ar Twitter, chwaith – rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n ffan o’r peth. Gan ddweud hynny prin fy mod yn ymweld, ond dydi’r holl syniad ddim yn apelio ata i yn y lleiaf.
‘Doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd Twitter tan i mi gael sgwrs ryfedd yn y Cornwall ryw bryd yn ystod cyfnod y Chwe Gwlad eleni – yr oll ydi’r peth ydi brawddeg yn dweud rhywbeth. Fedra i ddim gael fy mhen rownd pam y byddai rhywun isio’u darllen.
Efallai mai fi sy’n hen ffasiwn gan lynu at flog, ond na, dydw i ddim yn licio Twitter.
3 commenti:
Dyma chdi lle mae nhw yn dod o. A ti'n methu allan... http://twitter.com/mwydro/status/3687072512
Yffach dan Hogyn -ti'n cal 23 y dwyrnod. Odd Menaiblog yn rhoi ei rifau lan ar ei flog 'ed ac odd e'n cal llwyth.
Fi'n lwcus i gal 6 y diwrnod a hwnnw ers y dechrau. Bydd raid ifi gal gair a Lynn ar flog Dogfael i weld faint ma fe'n ei gal. Os yw e'n cal llwyth, dyw e ddim yn rwpath yn erbyn pobol y de wedyn - jyst bo fi'n amhoblogaidd iawn, Shit!!
Wi ond yn gobitho bo fi'n cal mwy o fisits na Cristnoblog - ond fi'n siwr bo nhw'n cal mwy na fi - ma'r ffycars 'na yn dueddol o stico gida'i gilydd.
I fod yn deg ti heb flogio ers y nesaf peth i dri mis!
Posta un commento