giovedì, maggio 20, 2010

Hwyl fawr bawb!

Dyma ni felly. Roedd hi saith mlynedd yn ôl namyn pythefnos ers i mi ddechrau blogio. Mae’n rhyfedd i mi gofio mai prif bwynt y blogiad hwnnw ar blogcity oedd dweud fy mod wedi llwyddo rhoi fy nhrowsus arnodd y ffordd anghywir. Dwi’m yn meddwl fy mod wedi gwneud hynny ers gwers y diwrnod hwnnw. Dysgish rywbeth, mae’n rhaid!

Ta waeth, yn ddiweddar mae’r awydd i flogio wedi dirwyn i ben. Felly, dyma ni’n sywddogol (er mwyn gwneud iddo swnio’n bwysig) flogiad olaf Blog yr Hogyn o Rachub; mae saith mlynedd yn hen ddigon, ac mae’n amser rhoi Wil i’w wely. Fydda i ddim yn ei ddileu achos mae’n gofnod personol o’m mywyd i dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a gwaetha’r modd alla i ddim gaddo na fyddaf yn fy ôl ryw bryd os cwyd yr awydd!

Diolch am ddarllen dros y blynyddoedd, ond am y tro o leiaf, hwyl a fflag!

13 commenti:

Ioan ha detto...

Diolch am y difyrwch, a phob lwc yn y dyfodol!

Mari ha detto...

Wel siomedigaeth. Wyt ti am ddechrau trydar yn lle? x

Anonimo ha detto...

O diar! Dyna biti!

Nic ha detto...

Part-timer!

Byddi di nôl, betia i di. Ond pob lwc, beth bynnag ti'n neud.

Efrogwr ha detto...

Diolch am dy holl waith trlwyr a threiddgar! Gobeithio dy weld ti'n ol pan fo'r awen eto :-)

MH ha detto...

Byddwn ni'n gweld dy eisiau yn y byd rhithwir hwn, ond pob lwc yn y byd go iawn.

Anonimo ha detto...

Dyma golled i'r byd blogio Cymraeg.

Diolch yn fawr am dy holl erthyglau ar wleidyddiaeth Cymru. Er ein bod dy wleidyddiaeth di a 'ngwleidyddiaeth i'n wahanol iawn, rydw i wedi mwynhau'n arw dy waith a'th ffordd mor ddigri o fynegi pethau.

Pob lwc i'r dyfodol!

Oliver

Sion ha detto...

Siomedigaethus ond dealladwy. Wedi mwynhau darllen amryw o dy flogiau dros gyfnod a mae nifer o dy flogiau wedi gwneud cyfraniad pwysig at drafod gwleidyddiaeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diweddar. Pob hwyl i ti HoRach!

Cai Larsen ha detto...
Questo commento è stato eliminato dall'autore.
Cai Larsen ha detto...

O diar, o diar, o diar - mae'r blogodffer Cymraeg yn llawer llai yn fwyaf sydyn.

Unknown ha detto...

Diolch i ti am dy gannoedd postiadau difyr a digri dros y blynyddoedd diwethaf.

Nofel nesa?!

Iwan Rh.

Linda ha detto...

Hwyl fawr i'r Hogyn :)

Anonimo ha detto...

Biti garw. Pob lwc i ti a diolch am y mwynhad a difyrwch