Y penwythnos fu, roedd yn 17 wythnos ers i mi gael penwythnos di-alcohol. Digwydd edrych yn fy nyddiadur i weld beth oedd y sefyllfa a wnes, ac yna cyfrif am yn ôl a sylwi y cafwyd 16 wythnos yn olynol o yfed. Nid o reidrwydd sesh – efallai potel fach o win, howsparti (fi ydi’r person gwaethaf posibl i gael mewn howsparti, dwi’n absoliwt ffycin hunlla), peint slei – ond penwythnos dialcohol nis cafwyd ers sbel go dda.
Yn rhyfedd mi ges freuddwyd neithiwr ei bod eto’n nos Sadwrn ac fy mod wedi yfed gan felly adael fy hun i lawr. Uffernol yn de. Rhaid fy mod yn teimlo’n euog am yfed cymaint yn ddiweddar neu ni fyddwn yn cael breuddwyd mor rhyfedd. Ta waeth, mae hyn yn sicr wedi cyfrannu at daro’r boced yn galed yn ddiweddar. Dwi’n siomedig efo fy mherfformiad cyllidebol y mis hwn, er bod talu £60 i adael fy hun nôl mewn i’r tŷ ar ôl cloi fy hun allan yn sicr wedi cyfrannu.
Ta waeth, mae gen i ddehongliad digon syml i’r cyfryw freuddwyd yn does? Ond mae un freuddwyd a gaf sy’n ailadroddus a dwi’n ei chael yn weddol aml. Dwi’n nôl yn ‘rysgol, ac yn mynd i ddosbarth Ffrangeg, ond dydw i heb fod am fisoedd i ddosbarth Ffrangeg ac mae’r arholiadau’n dyfod a dwi’n gwybod dim. ‘Sgen i’m clem o ddim byd a dydi’r athrawesau yn poeni fawr ddim amdanaf.
Dwi’n meddwl mai gwraidd y freuddwyd honno ydi fy mod i’n eithaf digalon fy mod wedi anghofio cymaint o Ffrangeg ar ôl gadael ysgol – wedi’r cyfan, dyna sy’n digwydd i rywun pan fo’ch rheswm dros siarad iaith yn dod i ben, anghofio wnewch chi. Mae Ffrangeg yn iaith brydferth yn fy marn i. Ceir ambell iaith brydferth arall, megis Eidaleg a Rwsieg, dwi’n meddwl. A gall Cymraeg fod yn brydferth tu hwnt, ond mi all fod yn weddol uffernol hefyd ac, er fy mod yn anghytuno’n chwyrn, dwi’n dallt pam bydd rhai yn dweud “Welsh is an ugly language”.
Y peth da am y Gymraeg o ran hynny ydi bod y geiriau drwg, ar y cyfan, yn swnio’n hyll e.e. gwrach, mellten, afiach, hunllef, melltith, Rhagfyr ac ati; tra bod y geiriau am bethau da bywyd yn wirioneddol brydferth eu sain e.e. tylwyth teg, mêl, heulwen, bendith, torlan. Wn i ddim am unrhyw iaith arall y mae sŵn y gair yn cyfleu’r ystyr yn well na Chymraeg.
Credaf fod ambell iaith hyll, cofiwch, a dyma pam dwi’m yn mynd yn flin os bydd rhywun yn dweud hynny am y Gymraeg, achos byddwn i’n eithaf rhagrithiwr wedyn. Mae rhai o ieithoedd canoldir Asia, fel Uzbek, neu Fongoleg, yn erchyll i ‘nghlust i, a dwi ddim yn ffan o Arabeg. Dydi’r Saesneg ddim yn iaith hyll, hen iaith ddiflas ydi hi sy’n llawn haeddu’r teitl ‘yr iaith fain’.
Fedra’ i sgwennu’n weddol ddeallus pan fydda i ddim yn yfed, wchi, ac mi a ysgrifennwn am iaith drwy’r dydd pe cawn. Ond mae gen i bethau eraill i’w wneud! (sy’n ymwneud ag iaith, yn eironig)
3 commenti:
"hen iaith ddiflas ydi [y Saesneg] sy’n llawn haeddu’r teitl ‘yr iaith fain’"
Personally, I'd rather speak a thin language than a thick one.
Ô.N. rwyt ti wedi gadael allan yr Almaeneg, dyma un o'r enghreifftiau amlycaf o iaith hyll yn fy marn i.
Da iawn di-enw cynta. Fedra i'm deud bod fawr o ots gen i chwaith de.
Dwnim am Almaeneg chwaith. Cytuno efallai ei fod yn 'hyll' i raddau ond mae'n iaith dreisgar, galed a dwi'n eitha ei licio fy hun!
Posta un commento