Un o fy mhrif broblemau â Phlaid Cymru ydi ei safbwynt ar annibyniaeth i Gymru. Rŵan, fe wyddoch bid siŵr fy mod i’n gefnogwr di-sigl mewn annibyniaeth. Gallem drafod rhinweddau a phroblemau posibl y nod hwnnw drwy’r dydd, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol. Un o wreiddiau fy nghred ynddi ydi os nad ydi cenedl y Cymry yn fodlon cymryd cyfrifoldeb arni ei hun yna ‘does hawl ganddi gyfeirio at ei hun fel cenedl o gwbl, ac waeth iddi ymuno ag eraill genhedloedd diflanedig y byd yn y llyfrau hanes a safio lot o ofid ac ymdrech i ni gyd.
Prin fydd y rhai sy’n cytuno â hynny mae’n siŵr. Wrth gwrs, un peth dwi’n rhannu’n gryf â’r Blaid (er nad ydi hi’n gred gref gan bob elfen yn y Blaid) ydi y dylai Cymru fod yn annibynnol. Y broblem sy gen i ydi’r agwedd ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ y mae’r Blaid yn ei dilyn. Sut y mae diffinio ‘hirdymor’? Mae Cymru eisoes wedi’i rheoli o’r tu allan i’w ffiniau ers dros 700 o flynyddoedd - dwi’n sicr ddim yn gallu disgwyl 700 mlynedd arall!
I’r graddau hynny, dwi’n credu y dylai Cymru fod yn annibynnol rŵan, y funud hon. Dydw i ddim yn rhannu gofidiau eraill am yr economi, chwaith. Pan gawn blaid o Gymru yn rheoli Cymru fydd hi fawr o amser ar y sefyllfa’n gwella, dwi’m yn amau hynny ronyn – dydi pethau heb wella mewn difrif ers oes datganoli oherwydd mai un o’r pleidiau sy’n wasaidd i Loegr sydd wastad wrth y llyw. Pa well ffordd o gadw hunanhyder y Cymry’n isel na’u cadw’n dlawd dragwyddol a thrwy hynny sicrhau eu teyrngarwch? Ysywaeth, nid rhydd mohoni. Rhaid i mi dderbyn hynny.
Mae sôn mawr yn ddiweddar am USP Plaid Cymru, ond fawr ddim am ei USP mwyaf sef ei chred mewn Cymru rydd. Y broblem ydi, drwy fythol ddatgan annibyniaeth fel nod hirdymor mi all y Blaid ddistewi ofnau’r rhai sydd yn erbyn annibyniaeth, gan dwyllo pleidleisiau ganddynt, tra hefyd dwyllo ei phleidlais graidd i feddwl ‘sticiwch gyda ni, fe gyrhaeddwn y nod yn y pen draw’ heb wneud hynny. Mae angen ar y Blaid, er mwyn bod yn gwbl agored ar y pwynt hwn, ‘fap’ i annibyniaeth. Nid o ran amser, fel y cyfryw, dwi’n cyfaddawdu ar hynny, ond yn sicr o ran y broses ddatganoli. Er enghraifft, gallwn ddweud bod sefydlu’r Cynulliad yn cyflawni Cam 1. Ennill y refferendwm - os cawn ni un, a dwi ddim yn siŵr y cawn - ydi Cam 2. Gallai datganoli Darlledu fod yn Gam 3, pwerau dros drethi ac ynni fod yn Gam 4, datganoli’r System Gyfiawnder a’r Heddlu yn Gam 5, Senedd lawn ar fodel yr Alban yn Gam 6, Senedd â phwerau tebyg i ranbarthau’r Almaen yn Gam 7 ac annibyniaeth lawn yn Gam 8.
Awgrym ydi’r uchod o’r drefn, wrth gwrs, ond dwi’n credu’n gryf bod angen hyn ar y Blaid, oherwydd os na chaiff hynny dwi’n rhagweld hyd yn oed mewn ugain mlynedd mai ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ fydd ei hamcan, ac na welwn mohoni fyth. Twyllo ydi hynny, nid mwy na llai.
Wrth gwrs, mae un peth wedi’i gyflawni ers datganoli eisoes. Ddeng mlynedd yn ôl roedd gan bobl Cymru ofn o annibyniaeth - roedd hi’n eithafol, yn afrealistig. Bellach mae’r lliaws yn anghytuno â’r syniad ond eto’n derbyn ei fod yn gred wleidyddol deilwng. Newid sylfaenol o fewn degawd. Wrth i ni raddol ennill pwerau mi fydd y farn yn parhau ar duedd ffafriol, ond rhaid i’r Blaid sicrhau bod y cyfansoddiad o hyd ar yr agenda - hi yn unig all wneud hynny. A rhaid iddi wthio’n galed ac yn ddi-baid dros ennill pwerau i Gymru.
Weithiau, dwi’n meddwl mai’r rhai sydd fwyaf ofn annibyniaeth ydi Plaid Cymru ei hun. Di-sail ydi’r pryder hwnnw, dwi’n siŵr, ond credaf yn gryf bod yn rhaid ymrwymo i’r syniad, llunio camau tuag at annibyniaeth, a glynu atynt doed â ddêl. Nerys Evans ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid gweddnewid Cymru, wel, dyma ffordd o roi’r gweddnewidiad hwnnw ar bapur, a thrawsnewid Cymru am y gorau. Os gall ond wneud hynny os ydi hi’n gwbl ymrwymedig i annibyniaeth, ac weithiau mae rhywun yn teimlo nad yw.
Nessun commento:
Posta un commento