Wrth i mi sgwennu hwn mae’n bur debyg y bydd John Toshack yn gadael ei swydd fel rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Ffaith ryfedd a ddarllennais yn y Western Mail oedd bod canran y gemau enillodd Toshack fel rheolwr, hyd yn hyn o leiaf, yn weddol uchel, sef 41% - sy’n sylweddol uwch na rheolwyr eraill Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys Mark Hughes a Terry Yorath. Mae’r farn arno yn ddigon cymysg hefyd. Byddai rhai yn dadleu ei fod wedi camu i sgidiau rheolwr hynod boblogaidd gyda thîm yr oedd ei sêr yn heneiddio – ac i fod yn deg dydi bod yn rheolwr ar Gymru ddim yn beth hawdd ar yr adegau hawsaf.
Ond yn y garfan arall ydw i, mae arna’ i ofn. Ac eithrio ambell i ganlyniad derbyniol nodweddwyd ei gyfnod diweddaraf fel rheolwr gan bêl-droed a oedd ymysg y salaf i mi ei weld – roedd y golled 0-2 yn erbyn Y Ffindir yng Nghaerdydd yn sicr yn isafbwynt. Yn wir, dydi hi ddim yn syndod i’r torfeydd arferai heidio i weld Cymru’n chwarae yng nghyfnod Hughes ddirywio’n enbyd. Dadleua rhai fod ‘na rŵan chwaraewyr ifanc addawol yn dod i’r amlwg, ond does â wnelo hynny dim â Toshack mewn difrif. Nhw sydd wedi bod yn ddigon da i ddod drwy’r system, a Flynn sydd wedi’u eu “magu” nhw.
Yn bersonol, dwi’n meddwl bod Toshack wedi mynd â’r tîm cyn belled ag y gall ers blynyddoedd bellach. Gwynt teg ar ei ôl o.
Ar y llaw arall mae’n fwyfwy tebygol y gallai Warren Gatland aros yn ei swydd am bedair blynedd yn ychwanegol, a’i fod o bosibl ar fin arwyddo cytundeb i’r diben hwnnw, flwyddyn cyn i Gwpan y Byd ddechrau. Rŵan, gall neb amau dawn a gallu Gatland fel rheolwr. Mae Cymru yn bethwmbrath o dîm gwell ers iddo gymryd yr awennau, heb sôn am ei gyflawniadau gynt. Ac, ar y cyfan, mae rygbi Cymru mewn lle da.
Ond ai fi ydi’r unig un sy’n anesmwyth gyda chynnig cytundeb iddo flwyddyn cyn Cwpan y Byd? Er gwaetha’r ffaith bod perfformiadau Cymru dros yr ychydig flynyddoedd ers y Gamp Lawn wedi bod yn dderbyniol, mae’r canlyniadau eu hunain wedi dod yn gynyddol dadrithiol. Roedd Chwe Gwlad eleni, a’r gêm ddilynol yn erbyn De Affrica yn sicr, yn siom fawr. Mae Gatland yn iawn i ddweud nad yw Cymru yn rhy bell o fod yn dîm “da iawn” – gall rhywun weld hynny - ond mae o wedi dweud hynny ers cyhyd y mae’r rhywun yn gorfod meddwl pryd y daw’n dîm o’r safon honno, os o gwbl.
Dyma fy mhrif gonsyrn. Petai Cymru’n cael gemau siomedig yn yr hydref, Chwe Gwlad annigonol, a Chwpan y Byd wael – o ran canlyniadau, sef y peth pwysig – fe allai rhywun ddadlau o bosib bod cyfnod Gatland wrth y llyw wedi bod yn anfoddhaol ar y cyfan, er gwaethaf y Gamp Lawn gychwynnol yn 2008. Ond erbyn hynny gallai fod wedi arwyddo cytundeb newydd a gallai Cymru fod yn styc efo rheolwr sydd ddim wedi gwneud y job gystal ac y dylai gyda’r adnoddau sydd ganddo. Byddech chi ddim yn synnu petai URC yn gwneud smonach o bethau ar ôl hynny, ac unwaith eto yr un hen stori fydd hi i rygbi Cymru.
Nessun commento:
Posta un commento