Mae crefydd yn anodd ei drafod yn gall a synhwyrol. Yn y bôn mae rhywun yn credu neu ddim, a dyna ddiwedd arni, mae’n llwyr ymwneud â’ch daliadau personol ar y mater. Dyma pam fy mod prin yn ei drafod yma; mae’n sbardun i drafodaeth sy’n gwneud i’r ochr grefyddol weithiau swnio’n oramddiffynol ac, yn anffodus, dwl, a’r ochr anffyddiog yn wenwynig a chasinebus. Mae rhai o’r trafodaethau mwyaf dig a chwerw dwi wedi eu cael efo hyd yn oed fy ffrindiau yn ymwneud â chrefydd.
Fel y gallwch ddychmygu, mae rhywun fel y fi sy’n teimlo’n agosach at Babyddiaeth nag unrhyw enwad arall yn llawn gefnogi ymweliad y Pab â Phrydain. Mae llawer o feirniadaeth wedi bod o du anffyddwyr, fel y gellid ei ddisgwyl, a chanmoliaeth wedi dod o’r ochr nid yn unig Gristnogol ond crefyddol yn gyffredinol. Dwi’n gefnogol iawn i’r ymweliad.
Rŵan, dydi hynny ddim yn meddwl fy mod i’n meddwl bod y Pab yn berffaith. Mae ganddo gwestiynau eto i’w hateb o ran sgandalau cam-drin plant sy’n frith yn rhengoedd ei Eglwys, a dwi’m yn cytuno ar farn ei Eglwys ar sawl peth ond dof at hynny yn y man. Ond dwi yn credu ei fod yn ddyn diffuant ac o dan ei Babaeth mae’r Eglwys o’r diwedd yn mynd i’r afael â hyn. Roedd cwrdd â rhai o’r dioddefwyr yn gam mawr na fyddai nifer wedi’i wneud - prin y byddai ei ragflaenydd wedi. Ond mae o hyd waith i’w wneud, mae angen i’r Eglwys lwyrlanhau ei hun. Nid amddiffyn yr Eglwys ar y pwynt hwn ydw i ar unrhyw gyfrif, ond dylai pobl nad ydynt yn Gatholigion hefyd o leiaf gydnabod yr ymdeimlad anobeithiol, diymadferth a deimlir gan ddilynwyr y ffydd honno ynghylch y datgeliadau hyn. Mae’n brifo.
Gan ddweud hynny mae llawer mwy yn gyffredin rhwng fy naliadau i a daliadau’r Pab nag sydd o wahaniaethau – ac mae hyn yn wir am lawer iawn o anffyddwyr chwith o’r canol hefyd. Anwybodaeth fyddai dweud fel arall; mae ei farn ar yr amgylchedd, hawliau gweithwyr, cariad a phroblemau cymdeithasol yn debyg iawn i nifer yn y gymdeithas seciwlar honedig-oddefgar sydd ohoni. Y gwir ydi, mae nifer o’r bobl sy’n wrthwynebus i ymweliad y Pab jyst yn wrthwynebus i grefydd ffwl stop: mae Pabyddiaeth yn darged hawdd.
Fel y dywedais, mae Pabyddiaeth yn atyniadol iawn i mi. Y rheswm bod cymaint o Gatholigion yn parhau i ymwneud â’u Heglwys, o’u cymharu â dirywiad enfawr yr Eglwys Anglicanaidd ac yn arbennig y capeli, ac er gwaethaf y sgandalau afiach yn ei chylch, ydi ei bod yn parhau i ddiwallu anghenion ysbrydol ei dilynwyr. Aeth Protestaniaeth ar ôl materion cymdeithasol ac economaidd, ond fe gadwodd Pabyddiaeth yn driw at yr ochr ysbrydol. Onid dyna un o brif ddibenion crefydd?
Serch hynny, nid Pabydd mohonof am dri rheswm yn benodol. Y cyntaf ydi dwi’n anghytuno’n chwyrn â safiad yr Eglwys ar ordeinio merched. Yn ail, dwi’n meddwl bod yr agwedd at wrywgydiaeth yn anghywir. A dwi ddim yn llwyr gytuno â’i safiad ar erthylu. Ar wahân i hynny, ‘does fawr o wahaniaeth rhyngof i â’r Eglwys Babyddol ond gan fod yr uchod yn wahaniaethau digon sylfaenol ac anodd i mi’n bersonol eu hesgeuluso, mae’n anodd i mi wneud y naid.
Ond mae crefydd yn bwysig i gymdeithas. Mae cod moesol clodwiw Cristnogaeth yn sail i hunaniaeth a gwareiddiad y Gorllewin. Ac nid cyd-ddigwyddiad ydyw mai gwledydd mwyaf rhydd a democrataidd y byd yn gyffredinol yw’r rhai sydd â thraddodiad Cristnogol. Nod y gymdeithas seciwlar, ac anffyddiaeth, ydi dymchwel hynny waeth beth fo’r gost. Mi fydd y gost yn fawr, dwi’n amau, ac onid ydym wedi gweld cymdeithas ei hun yn dirywio law yn llaw â dirywiad Cristnogaeth?
Mae Prydain yn gyffredinol ymfalchïo yn ei natur oddefgar. Ond dydi’r goddefgarwch hwnnw ddim bellach yn ymestyn at bobl o ffydd. Mae ar ffydd ei hun fai am hyn, neu bobl sy’n eithafol o leiaf, ond os ydych yn datgan ffydd yn gyhoeddus ym Mhrydain heddiw rydych yn destun bychanu a dychan. All hynny ddim bod yn iawn nac yn deg ar unrhyw gyfrif. A dwi’n gobeithio y bydd ymweliad y Pab yn rhoi hwb i bobl, o ba ffydd bynnag y bônt, i eto deimlo’n ddigon hyderus i fynegi eu ffydd a sefyll drosti yn wyneb anffyddiaeth sy’n benderfynol o’i difa hi a’i gwerthoedd yn llwyr.
4 commenti:
Mae dy sylwadau yn ymddangos yn rhai goleuedig iawn HoR. Mae'r rhan fwyaf o Gatholigion hyd y gwela i yn arddel eu ffydd yn bennaf oherwydd fod yr Offeren yn diwallu eu anghenion ysbrydol. Mae'n gampwaith o wasanaeth a fireiniwyd dros genhedlaethau gan bobl triw iawn eu cymhellion. Ond beth yw agenda arall yr Eglwys?. Onid rheoli cymdeithas trwy harnesi gymaint o gyfoeth ac awdurdod ag sy'n bosib waeth bynnag sut.Sylwa sut ymatebodd y cardinal a gymharodd Prydain i wlad o'r trydydd-byd. Ddaru o (gwr sanctaidd ag ydyw) ymddiheuro yn syth bin a colli rhywfaint o'i hygrededd ynte defnyddio'i gowt fel esgus rhag ymuno a sbloet ymweliad y Pab?
Ew, sylwadau adeiladol mewn trafodaeth ar grefydd, braf gweld!
Byddwn yn dadlau nad nod yr Eglwys ydi rheoli cymdeithas, eithr rhoi arweiniad iddi ar lu o faterion. Mae o fyny i'r unigolyn p'un a ydynt isio dilyn yr arweiniad hwnnw ai peidio, dylai fod gan bawb yr hawl i ddilyn eu trywydd eu hunain wedi'r cwbl.
Mae achosion o'r Eglwys ei hun yn ceisio rheoli yn hytrach nag arwain yn y gorffennol wrth gwrs, ond dwi'n meddwl y gellid priodoli hyn i chwaethau Pabau unigol yn fwy na'r sefydliad ei hun. Er mae wedi camu i'r bwlch pan fo angen - roedd dylanwad yr Eglwys yn hanfodol wrth heddychu Ewrop yn yr Oesoedd Tywyll, er enghraifft.
O ran sylwadau'r cardinal, roedd galw Prydain yn wlad 'trydydd byd' yn anffodus iawn (er mae rhannau o'n gwlad sy'n erchyll dlawd). Mae gan rai yn yr Eglwys dueddiad anffodus i ddweud pethau adweithiol yn hytrach na meddwl am y peth cyntaf - sydd ddim yn annhebygol i rai anffyddwyr fel Dawkins neu Stephen Fry hyd yn oed. Y gwir ydi, ar y ddwy ochr, drwy fod mor adweithiol dydyn nhw ddim yn hyrwyddo eu hachos ond yn ei niweidio.
Ti weld yn cymlethu 'secular' efo 'anffyddiaeth'. Gall Cristnogion fod o blaid gwlad secular, a dweud y gwir, yr engraifft orau o wlad secular ydi'r UDA, sydd efo canran uchel o Gristion.
Nid dyna oedd y bwriad, dwi'n gwybod bod gwahaniaeth rhwng bod yn seciwlar a bod yn anffyddiwr. Ond dwi hefyd yn teimlo bod y gwahaniaeth rhwng y ddau beth yn gynyddol lai yn y Brydain sydd ohoni, a bod y garfan 'anffyddiog', fel petai, yn cymryd drosodd y ddadl.
Posta un commento