sabato, ottobre 16, 2010

Barn agored ar S4C

Cynhelir noson gwylwyr gan S4C nos Lun, a ddarlledir yn fyw am 20:25. Buaswn yn awgrymu i bawb â barn ei mynegi, a gallwch wneud hynny yma. Newydd fy nharo y mae'n bersonol y gallwn i bob pwrpas golli'r sianel genedlaethol. Er gwaethaf ei ffaeleddau lu, pe deuai'r awr honno bydd yn ergyd drom ac o bosibl ddinistriol i'r Gymraeg.

Dwi wedi cyflwyno sylwadau, a hoffwn eu rhannu â chwi.

Hoffwn fynegi fy mod o’r farn bod arlwy S4C ar hyn o bryd yn gryf iawn ac fy mod yn ei mwynhau’n arw. Mae rhaglenni fel Pen Talar, Byw yn Ôl y Llyfr, Gwlad Beirdd a ‘Sgota wedi bod yn rhaglenni rwy’n eu gwylio’n rheolaidd yn ddiweddar; rhaglenni da o safon a ddylai fod yn destun balchder i’r sianel.

Ond y tu hwnt i ambell raglen gall arlwy’r sianel fod yn ailadroddus. Deallaf fod hyd yn oed yn awr gyfyngiadau ariannol ond mae cael Pobol y Cwm, er enghraifft, bum gwaith yr wythnos yn ddiflas ac yn gwneud i’r mwyafrif osgoi gwylio, ac mae tueddiad anffodus i ddefnyddio’r un hen wynebau ar gyfer yr un hen math o raglenni. Hefyd, problem ddiweddar yw bod enwau rhaglenni yn anatyniadol iawn, nid yw e.e. ‘Cyngerdd’ neu ‘Sioe’r Tŷ’ wir yn enwau gafaelgar nac ysbrydoledig.

Mae’n destun tristwch bod nifer o bobl heb godi llais dros y Sianel, ond mae rheswm penodol dros hyn. Y canfyddiad cyffredinol yw bod S4C bellach wedi’i rheoli gan glîc Caerdydd-ganolog hunanfodlon a hunanbwysig nad yw byth yn gwrando ar bryderon y gwylwyr cyffredin, ac sy’n diystyru unrhyw feirniadaeth hyd dirmyg. Mae arnaf ofn fy mod yn cytuno â’r farn hon – a phe câi fy marn ei chyfleu i’r bobl hyn mai anghytuno’n ddiystyriol y gwnânt; a pha syndod? Yr un hen stori ers blynyddoedd. Hyn, yn fwy na safon rhaglenni, sydd wedi dadrithio cymaint o’n sianel.

Erfyniaf arnynt i newid hyn, er lles y Gymraeg ac nid eu gyrfaoedd, ac am unwaith wrando ar feirniadaeth.

2 commenti:

Cai Larsen ha detto...

Cytuno efo pob gair

Emlyn Uwch Cych ha detto...

A dyma be ddwedais i:

Mae ambell i rhaglen dda yn cael ei darlledu gan S4C o hyd. Yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r arlwy yn ystradebol tu hwnt erbyn hyn.

Rwy'n cofio ystod rhaglenni'r 1980au yn dda: anrywiaeth dda iawn. Ond erbyn hyn, heblaw am anturiaethau di-ddiwedd Cwmderi, ble mae'r dramau? Mae Pen Talar yn ardderchog, ond ymddengys taw achlysur unwaith mewn degawd fydd hwn (heblaw am yr ail ddarlledi, wrth gwrs!).

Ble mae'r cyfresi comedi sefyllfa? Comedi dychanol ayyb? Addasiadau o nofelau a dramau clasurol?

"Digwyddiadau" a chwaraeon yw'r pethau sy'n cael eu darlledi hyd syrffed. A phan fydd rhaglen go iawn, fydd hi'n cael ei hail ddarlledi drosodd a throsodd, ambell waith yn agos iawn i'r amser wreiddiol noson neu ddwy yn ddiweddarach! Mi gyrhaeddodd y sefyllfa ei benllawnw abswrd yn yr haf pan y darlledwyd "uchafbwyntiau'r" Sioe Fawr yr wythnos canlynol! Sawl gwaith fedrwch chi wylio da byw yn cael eu beirniadu?

Clod i'r Sianel: mae arlwy Cyw yn ardderchog, felly mae plant dan 5 yn hapus. Ond beth am y rhai ohonom sy'n cael ein swyno gan amrywiaeth ystod BBC1, 2 a 4.

I grynhoi, mae'n rhaid i S4C fel yr unig wasanaeth deledu Gymraeg ddiwallu anghenion holl rychwant y gwylwyr sy'n Gymry Cymraeg. Mae digon o oriau yn y dydd, ond yn anffodus nid yw S4C yn llenwi'r oriau hynny yn effeithiol gydag amrywiaeth ddigonol o rhaglenni. Dyw oriau o Wedi 3, Wedi 7, Pobl y Cwm ynghyd â llu o rhaglenni dinod arall ddim digon da o bell ffordd.