Y mae’n dweud y cyfan am True Wales mai eu gwrthwynebwyr sydd wedi gorfod bathu’r enw ‘Gwir Gymru’ ar eu cyfer, yn tydi? O ran y blog hwn, os nad ydyn nhw am ddangos dyledus barch i’r Gymraeg drwy fathu eu term eu hunain, dwi ddim am wneud hynny iddyn nhw chwaith. A hwythau heb gynnwys gair o Gymraeg ar y naill wefan neu’r llall, yr hyn sy’n amlwg ydi nid nad oes unrhyw Gymry Cymraeg yn erbyn yr ymgyrch ‘na’, ond eu bod yn grŵp bach mewnsyllol sy’n troi mewn cylchoedd cyfyng iawn.
Dywed yr Hen Rech mai tacteg ‘ddiddorol’ sydd i True Wales drwy beidio â wneud cais i fod yr ymgyrch ‘na’ swyddogol gan felly dawelu’r ddadl ynghylch rhagor o bwerau. Y mae’n dacteg ddiddorol sydd, ar un llaw yn sicr, yn dacteg dda. Sinigaidd, yn sicr, ond da. Fe ŵyr True Wales nad oes ganddyn nhw ddadl a’r ffordd orau o guddio hynny ydi drwy beidio â chynnal un. Os ydych chi wedi cymryd yr amser (ac os nad ydych, peidiwch) i ddarllen eu dadleuon fe wyddoch bod bob un wan jac ohonynt yn gwbl, gwbl amherthnasol i’r refferendwm sydd ar y gweill.
Dywed yr Hen Rech hefyd y gallant hawlio ar ôl refferendwm, y maen nhw bron yn sicr o’i golli, y llwyddodd yr ymgyrch o blaid gyda nifer isel o bobl yn pleidleisio. Dwi fy hun wedi mynegi fy mhryder ynghylch mandad unrhyw refferendwm – hynny yw, mi allwn ennill os pleidleisia bron neb, a rhydd hynny wrthddadleuon i elynion datganoli, a rhai digon effeithiol hefyd.
Serch hynny, camgymeriad ar ran True Wales byddai peidio â cheisio bod yn ymgyrch swyddogol o ran sicrhau’r canlyniad a ddymunant yn y refferendwm. Y gwir ydi, nid yn unig ydi’r polau yn eu herbyn, maen nhw’n unochrog felly. Hunanfodlonrwydd yw prif elyn unrhyw blaid neu ymgyrch, ond gallwn ddweud â chryn sicrwydd serch hynny pe cynhelid refferendwm heddiw, yr ymgyrch ‘ie’ âi â hi yn weddol hawdd. Os ydyn nhw am sicrhau pleidlais yn erbyn, rhaid i True Wales ymgyrchu’n galed dros hynny yn lle defnyddio tactegau gwter, a does ffordd arall o amgylch y peth.
Hynny nid a wnânt am ddau reswm sy’n amlwg i unrhyw un a fedda ar y craffter gwleidyddol lleiaf. Y cyntaf ydi’r amlycaf – does gan True Wales ddim hyder yn naill ai eu dadleuon nac ychwaith eu gallu i ennill refferendwm. Eu prif obaith yn wir ydi hunanfodlonrwydd ymysg rhengoedd eu gwrthwynebwyr.
Yr ail ydi, fel y crybwyllais uchod, yr hyn y maen nhw mi dybiaf yn canolbwyntio arno rŵan ydi, sef drwy beidio â bod yn ymgyrch swyddogol ac felly gynnal trafodaeth, sicrhau y nifer isaf posibl o bobl yn pleidleisio, gan felly ddefnyddio’r ddadl ‘dim mandad’ a chwyno’n chwerw ymysg eu hunain am y peth fel y mae’r nifer ostyngol o wrth-ddatganolwyr wedi’i wneud ers ’99, gan rywsut dwyllo eu hunain i feddwl mai nhw ydi’r ‘mwyafrif tawel’ ac y gwnânt yn y pen draw chwalu datganoli.
Yr unig ffordd o ddechrau’r broses o chwalu datganoli ydi drwy sicrhau pleidlais ‘na’ ar Fawrth 3ydd – a gallai pleidlais ‘na’ wneud hynny i raddau helaeth iawn – ond dwi’n rhywsut deimlo y byddai’n well gan aelodau True Wales golli ac am ddegawd arall ffugio fictimeiddio a chreu dadleuon dychmygol ymhlith eu hunain.
2 commenti:
Dadansoddiad diddorol o'r sefyllfa. Ond dwi yn meddwl eich bod yn gorbwysleisio'r ardrawiad petai dim mudiadau swyddogol yn bodoli.
Y gwir amdani yw bod yr ymgyrch Ie yn fait accompli o ran bod yn fudiad torfol ag iddi'r gallu i ddylanwadu'r bleidlais yn genedlaethol. Ni ellir dweud yr un fath am unrhyw ymgyrch Na. Ni fydd cael ein hamddifadu rhag statws swyddogol, os yw hynny yn digwydd, yn gwneud fawr o wahaniaeth i'r realiti hwn.
Wrth gwrs mae arian yn hanfodol i redeg ymgyrch, ond yn y pendraw mae cael gronfa sylweddol o gefnogwyr, gyda'r gallu i argyhoeddi dadl clir o blaid yr achos, yn bwysicach.
Yn hyn o beth, 'does yna ddim cymhariaeth rhwng y lefelau cefnogaeth a gweithgaredd sydd gan yr ymgyrch Ie, a'r hyn sydd gan y naysayers. Gyda hyd yn oed cyfryngau torfol Prydeinig oedd cyn heddiw yn wrth-Gymraeg yn dechrau rhoi pwysau tu ol i'r ymgyrch Ie (gweler The Mirror, 12.1.11), synnwn i ddim y bydd canlyniad 3.3.11 yn fwyafrif clir o blaid.
Gyda llaw, gwnes i yrru ebost at True Wales, gan gynnig cyfieithu rhannau eu gwefan nhw am ddim. Hynny oherwydd fy mod i eisiau gweld dwy ochr y ddadl ar gael yn Gymraeg.
Gwnaethon nhw gytuno mewn egwyddor ond dydyn nhw ddim wedi gyrru'r ffeiliau angenrheidiol ata i, er fy mod i wedi eu hatgoffa nhw sawl gwaith.
David, Gerlan
Posta un commento