giovedì, febbraio 03, 2011

Geiriau doeth Peter Hain

Heb unrhyw amheuaeth, mae Peter Hain yn uchel ar fy rhestr o gas wleidyddion. Er gwaetha’r ffaith ei fod wastad wedi honni ei fod yn gefnogwr mawr i ddatganoli, prin iawn y mae ei eiriau wedi adlewyrchu hynny. Am rywun a frwydrodd a hynny’n deilwng dros ryddid bobl dduon yn Ne’r Affrig, mae ei agwedd tuag at ryddid y Cymry i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain yn wrthgyferbyniol. Ond dyna ni, mae digon o enghreifftiau o bobl yr ymladdasant dros achosion teilwng yn bodloni ar swydd fras, foethus yn y pen draw.

Ymddengys ei fod o hyd yn gefnogwr brwd o’r system drwsgl, aneffeithiol a roddwyd mewn lle ganddo yn 2006, a’i fod ymhlith yr unig rai sy’n meddwl hynny. Yn wir, os galla i weld pa mor uffernol ydi system yr LCOs, dylai unrhyw un allu gwneud oni ei ddellir gan ei drahâ a’i hunanbwysigrwydd ei hun. Dyna un cyhuddiad dwi’n mwy na bodlon ei luchio at gyfeiriad Peter Hain.

Ond mae ei eiriau diweddaraf yn ei fradychu ei hun o ran ei wir agwedd tuag at ddatganoli. Yn anffodus, mae Peter Hain yn llais y mae pobl yn gwrando arno. Mae o’n un o’r rhesymau y gwnaeth Llafur gystal yng Nghymru y llynedd, a buaswn i’n mentro dweud ei fod yn gwybod hynny. O ystyried mae’n anodd gweld ei eiriau fel unrhyw beth ond am ymgais bwriadol i ddadsefydlogi’r ymgyrch o blaid – dydi Hain, yn ôl tôn ei lais a’i osgo, byth yn or-frwdfrydig pan ddaw at ddatganoli.

Y mae dweud mai ‘bai’, i bob pwrpas, y Blaid hefyd yn gwneud i’r ymgyrch o blaid swnio’n ymgyrch genedlaetholgar, ac nid cenedlaethol. Y gwir ydi bod hynny’n fêl ar fysedd yr ymgyrch yn erbyn.

Mae hefyd yn sarhaus ar allu’r Cynulliad i graffu, ond yn fwy na hynny mae’n bradychu agwedd ddiystyriol, ffroenuchel San Steffan tuag at ein llywodraeth ni. Nid lle San Steffan ydi craffu’r LCOs, wrth gwrs, ond penderfynu a oes angen y grym ar y Cynulliad. Syml. Ymddengys yn ymdrech dila i amddiffyn y system da-i-ddim a grëodd. Ar nodyn calonogol, mae’n ymddangos bod agwedd Llafur Cymru a Llafur Llundain yn ymbellháu yn hyn o beth - yn arwynebol dwi'n amau dim.

Sut bynnag, rhaid cwestiynu amseru ei eiriau a’r sbaner bach bwriadol a lunchiwyd i beirianwaith yr ymgyrch o blaid.

1 commento:

Aled GJ ha detto...

Beth bynnag ddudi di am Peter Hain, mae'n wleidydd o'i gorun i'w sawdl. Rhagweld y turn-out gwael ar gyfer y refferendwm y mae o( yn bersonol dwi'n meddwl y byddan ni'n lwcus iawn os aiff 40% i fwrw pleidlais) ac am drio ennill mantais wleidyddol i Lafur ar gyfer mis Mai yn sgil hynny. Mae'r narratif mai Plaid Cymru "wthiodd" am refferendwm mor fuan yn lein gyfrwys iawn i'w bedlera mewn cyfnod lle bydd yna gryn rinican dannedd am y turn-out isel- a hynny'n siwr o dynnu'r sglein oddi ar fuddugoliaeth yr ochr IA i raddau helaeth. Mae yna berig mawr mai "pyrrhic victory" go iawn fydd y refferendwm i Blaid Cymru; ennill y dydd o ran pwerau ynchwanegol, ond cael eu
cysylltu hefyd hefo methiant y refferendwm i danio dychymyg yr etholwyr. Gallai'r syniad yma o "bleidlais anghynrychioladol" a rhoi'r bai ar PC am hynny fod yn fanteisiol iawn i Lafur ym mis Mai.