giovedì, febbraio 17, 2011

Iolo ac Indiaid America

Fel un sy’n mwynhau rhaglenni dogfen yn fawr ar y cyfan roedd yn braf gweld cyfres gystal ag Iolo ac Indiaid America ar S4C, a ddaeth i ben neithiwr. Ar y cyfan, mae rhaglenni dogfen yn un o gryfderau’r Sianel - er i mi gofio un eithaf dibwrpas ar asprin flynyddoedd yn ôl - ac nid siom mo’r gyfres hon.

Do’n i ddim yn siŵr ai Iolo Williams oedd y person perffaith i gyflwyno’r daith o amgylch llwythau brodorol America – ac er fy mod i o hyd heb f’argyhoeddi yn hynny o beth rhaid dweud iddo wneud joban dda ohoni. Gellid dadlau mai dyma’r math o raglen y byddai’n dda cael wyneb newydd yn ei chyflwyno, ond chwilio am dyllau ydw i yn dweud hynny.

Roedd y gwaith camera a’r cynhyrchu yn wych ar y cyfan, a dwi’n meddwl i gymysgedd da o lwythau gael eu dewis, o sefyllfa druenus braidd y Blackfoot, i sefyllfa gref y Cree a’r Mi’kmaq. Roedd yn amlwg yn bosibl gwneud cymariaethau â Chymru â phob llwyth, yn dda neu’n ddrwg. Roedd rhai, fel y Blackfoot a’r Navajo, bron wedi colli eu hiaith, tra bod Cree a Mi’kmaq yn ieithoedd cymunedol. Roedd rhai wedi fwy neu lai golli eu diwylliant, ac eraill yn dal i gadw’n driw ato (yn aml mae’r rhai a gadwant eu hiaith wedi anghofio eu traddodiadau i raddau helaeth). Ta waeth, gwelwyd trawsdoriad da, nid oedd y cyfan yn fêl nac yn gymylau duon.

Yn fwy na hynny, roedd hi’n rhaglen ddifyr o’n safbwynt ni ac yn llawn gwybodaeth newydd. Prin iawn ydi’r rhai ohonom sy’n gyfarwydd â llwythau’r Indiaid Cochion, a llai sy’n deall sefyllfa ‘llawr gwlad’ y llwythau – nid gwybodaeth gyffredin mo’r pethau hyn. Yn hynny o beth cafwyd chwa o awyr iach. Mae cyfresi dogfen S4C – Natur Cymru, Tywysogion ac ati – wedi bod o safon uchel ond bob tro yn ymwneud â Chymru (yn ddigon teg felly amwni), ac roedd yn braf cael rhywbeth a oedd yn gwbl wahanol.

Ac, wrth gwrs, un o arwyddion cyfres ddogfen dda ydi faint mae’r gynulleidfa yn ei ddysgu. Lot, dybiwn i, ydi’r atab. Roedd hi’n llawn gwybodaeth, ond llwyddodd gymysgu hyn â chipolwg o fywyd pob dydd yr Indiaid cyfoes.

Yr unig bwynt negyddol, fel a godwyd gan shitclic fel mae’n digwydd, oedd bod yr isdeitlau Cymraeg a oedd ar y sgrîn i gyfieithu’r ieithoedd Indiaidd yn eithaf crap ar y cyfan, sy’n biti achos heblaw am hynny roedd safon y rhaglen yn uchel iawn. ‘Swn i’n cael ffwc o ffrae taswn i’n sgwennu rhai o’r pethau ysgrifennwyd!

Heblaw am hynny does ond un peth i’w ddweud: da iawn S4C!

4 commenti:

Anonimo ha detto...

Heb weld pob rhaglen ond roedd un neithiwr ar y Cree yn hynod ddiddorol - a chalonogol!

Base wedi bod yn ddifyr gwybod, ac efallai gallai Iolo wedi holi, a oedd natur gymharol lewyrchus y Cree o ran iaith oherwydd eu bod yn rhan o dalaith Quebec. Hynny yw, oedd y ffaith fod dadleuon dros hawliau ieithyddol a'r ffaith fod dwy iaith yn Quebec, yn ei gwneud yn haws ac yn fwy naturiol i'r Cree gadw eu mamiaith a bod yn ymwybydol ohono?

Byddaf yn meddwl yn aml nad gofrod siarad iaith arall (Saesneg) yw problem fwyaf y Gymraeg ond y ffaith mai ond un iaith arall rydym yn siarad. Byddai'n well i ni petai bod yn 3 ieithoeg oedd y norm yng Nghymru.

Ond ie, cyfres dda iawn. Pwnc mawr wedi rhoi golwg naturiaethol a Chymreig unigryw. Da iawn Iolo Williams ac S4C.

Macsen

Hogyn o Rachub ha detto...

Dwi ddim yn gwybod, ac efallai fy mod i'n anghywir ond dwi'n meddwl efallai nad dyma'r achos. Mi bleidleisiodd Quebec ar annibynniaeth yn y 90au, ac roedd y bleidlais yn agos iawn, ac o be dwi'n ddallt pleidleisiodd mwyafrif helaeth y Cree yn erbyn annibynniaeth oherwydd y credid y byddai Quebec annibynnol fwy na thebyg yn fwy gelyniaethus tuag at eu hiaith na Chanada - ychydig fel Ffrainc a dweud y gwir.

Efallai fy mod i'n anghwyir ond dwi'n siwr mai dyma'r achos!

Anonimo ha detto...

Dwi'n meddwl dy fod yn iawn Hogyn. A dweud y gwir, dwi'n credu fod Quebec wedi gwneud camau bras ers hynny i geisio tynnu y bobl frodorol i fewn a chydnabod eu pryderon.

Y pwynt oeddwn i'n ceisio ei wneud, yn lafurus braidd, oedd hyn. Efallai fod yr holl drafodaeth ar wleidyddiaeth iaith o fewn Quebec wedi gwneud y gymuned Cree o fewn y dalaith honno, yn fwy ymwybodol ac hyderus i drafod gwleidyddiaeth iaith eu hunain. Byddai'n ddiddorol clywed os oedd ymwybyddiaeth ieithyddol ac hyder ieithyddol mor gryf o fewn y cymunedau Cree sydd ar draws taleithiau eraill Canada.

Yr ail bwynt oedd hyn. Os yw'r Cree yn gorfod dysgu i siarad Saesneg a Ffrangeg, yna, mewn ffordd amlwg iawn dydy siarad iaith (leiafrifol) arall - Cree yn yr achos yma - ddim mor 'an-normal' ag y byddai siarad yr ail iaith (Cree. Navaho, Blackfoot) yn rhannau eraill o Ogledd America.

Hynny yw, efallai trwy fwriad neu beidio, fod natur ddwyieithog Quebec yn arwain at amrywiaeth ieithyddol iachach nag sydd mewn rhannau uniaith o Ganada - rhywbeth nad yw pledwyr Canada unedig yn aml yn nodi.


Macsen

Si ha detto...

O safbwynt damcaniaethol, mae Macsen yn gywir. Gwelir sefyllfa tebyg yng Nghymru, Catalunya ayyb. Mae dwyieithedd yn ei gwneud hi'n haws cynnal amlieithedd, am fod cymaint o bwyslais ar iaith fel 'gwerth' cymdeithasol mewn cymunedau a hunaniaeth ieithyddol gref.