Hoffwn i ymateb, yn gymharol fras achos fel mae’n siŵr dachi wedi sylwi dydi’r awydd i flogio ddim wedi bod arna i yn ddiweddar, i bost ar FlogMenai ynghylch canlyniad pwysicaf eleni, sef rhai’r cyfrifiad ar y Gymraeg. Cynhelir y cyfrifiad fis Mawrth. Y tro diwethaf fe gymerwyd dwy flynedd i gyhoeddi’r ffigurau ar yr iaith ar ôl cynnal y cyfrifiad ac wn i ddim faint a gymerith eleni.
Dwi’n un o’r rhai sy’n byth a beunydd yn darogan gwae i’r Gymraeg. Nid am fy mod isio, nac fy mod yn mwynhau ei wneud – mae’n destun torcalon i mi. Ond mae fy anobaith ynghylch sefyllfa’r Gymraeg yn gwbl ddiffuant. Wrth gwrs, mae anobaith yn beth peryg, ac fel y dywedodd Saunders Lewis, y mae cysur i gael ynddo – er yn bersonol dwi’m yn teimlo hynny!
Y mae BlogMenai o’r farn na fydd pethau mor ddu â hynny arnom o ran y cyfrifiad a bod angen edrych ar y ffigurau yn wrthrychol. Barn deg. Ond, gan wneud dim ond am ddyfalu, hyd yn oed yn wrthrychol, mi fydd yr ystadegau a gesglir eleni yn druenus, er fel noda Cai fydd pethau’n well yng Ngwynedd a hithau’n Gymreigiach na’r un rhan arall o Gymru – dyna’r ddamcaniaeth p’un bynnag. Mae pa mor well y bydd yn destun dadl. Rhaid cofio peidio â gorddibynnu ar ffigurau. Yr hyn a glywir ar lawr gwlad sydd agosaf ar wir sefyllfa’r Gymraeg. Mae pethau’n sicr yn well yn ardal Cai nag yn f’ardal i: dwi’n cofio dyfyniad arhosodd gyda fi a ddarllenais ar Faes E flynyddoedd nôl, “mae byw yng Nghaernarfon a dweud bod y Gymraeg yn fyw fel eistedd mewn popty a honni bod y byd yn boeth”. Rhywbeth felly – dwi’m yn cofio awdur doeth y geiriau!
Serch hynny, dyma ddarogan gwrthrychol ynghylch y ffigurau eleni, a chroeso i chi anghytuno a checru ac ychwanegu.
1) Bydd nifer y siroedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gan y mwyafrif yn haneru – bydd am y tro cyntaf leiafrif Cymraeg ei iaith yng Ngheredigion a Sir Gâr.
2) Bydd cwymp fawr yn y ganran sy’n siarad Cymraeg ar Ynys Môn – hyd nes fod yn fwyafrif bach iawn neu hyd yn oed yn lleiafrif.
3) Ni fydd cymuned y tu allan i’r pedair sir ‘draddodiadol’ Gymraeg a Sir Conwy gyda chymuned lle mae mwy na 60% yn siarad Cymraeg
4) Ni fydd unrhyw le y tu allan i Arfon lle mae mwy na 80% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac eithrio o bosibl Blaenau Ffestiniog. Mi fydd nifer y cymunedau lle mae mwy na 80% yn siarad yr iaith fwy neu lai’n haneru.
5) Gwelir cynnydd o hyd yn y rhan fwyaf o siroedd, ond nid ar yr un raddfa â 2001. Ni chyflawnir targed Iaith Pawb bod 25% o bobl Cymru yn medru’r iaith.
6) Gwelir cynnydd mawr yn nifer y Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd.
Hoffwn o waelod calon feddwl na ddaw’r 4 cyntaf o leiaf yn gywir. Yr hyn a brofir ydi, yn anffodus, fod yr ardaloedd Cymraeg a’r iaith ei hun wedi’u hesgeuluso gan ddatganoli. Ond, fel y dywedais, y geiriau a glywir gan y glust ac nid yr ystadegau a ddarllennir gan y llygad sydd fwyaf dangosiadol o sefyllfa’r iaith. I’r rhan fwyaf o bobl sy’n darllen y blog hwn, dwi’n amau mai’r canfyddiad o hynny ydi bod pethau mewn difri yn waeth na’r hyn a awgrymir gan yr ystadegau.
5 commenti:
1) Cytuno amlwg
2) Sir fon yn gymleth! Mi roedd y patrwm yn yr ardaloedd Cymreig ddigon tebyg i Gwynedd y tro dwetha - cwymp anferth yng Ngaergybi oedd y broblem. Dal i feddwl fydd o dipyn nes at 60% na 50%.
3) Fydd na ddim lot o adraloedd tu allan i Gwynedd a Mon drost 60%...
4) Angytuno! Fydd y nifer ddim yn haneru!
5) Cytuno!
6) Cytuno!
Be ma' pobol yn anghofio, ydi bod y ganran o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn yr oed 25-39 wedi mynd i fynu yn y Census dwetha.
Cofia mai Dyffryn Ogwen oedd hefo rhai o'r canlyniadau mwya siomedig...
Mae'n ddarlun digon du.
Rhaid anghytuno ar un point, serch hynny:
3) yng Nghyfrifiad 2001 roedd 75% o drigolion Cwmllynfell (Castell-nedd Port Talbot) yn medru'r Gymraeg. Does bosib y bydd y ganran wedi'n cwympo'n llai na 60% erbyn Cyfrifiad eleni?
Aled.
Un o broblemau Cyfrifiad 2001 oedd dehongli'r ffigurau, wrth gwrs. Yn ôl hwnnw gallai tua 16% siarad, darllen ac ysgrifennu'n Gymraeg, 21% ei siarad ac roedd gan 28% wybodaeth ohoni. Roedd yr holl beth yn ddigon amwys dwi'n meddwl.
Yr ail set o ffigurau sydd agosaf ati dybiwn i. Yng Nghwmllynfell felly, y ganran oedd 69% - rwan, dwi ddim yn gyfarwydd â'r ardal ond dwi ar ddeall fod y sefyllfa'r iaith yn y rhan honno o Gymru yn frawychus, felly mi all yn hawdd ddisgyn o dan 60%.
Wrth gwrs, ar y llaw arall, gallai Cwmllynfell fod yr eithriad!
Cwmllynfell 2001: 68.3% (-8.6% ers 1991). Mi fydd hi'n agos at 60%... tua 63% fyswn ni'n dyfalu.
LLandrillo - 64.5% (-6.1%) a Crymych : 63.5% (-5.3%) ydi'r ddau 'outside bet'.
Gyda llaw, un posibl arall ydi cymuned Gwyddelwern - 68% yn siarad yr iaith y tro diwethaf. Fodd bynnag, yn bersonol swni wir, wir ddim yn synnu petai'r fan honno, ynghyd â'r lleoedd eraill a enwyd, yn disgyn o dan y 60%.
Posta un commento