giovedì, aprile 14, 2011

Proffwydo 2011: De-ddwyrain Cymru

Gyda’r ymgyrchoedd yn anweledig yn y rhan helaethaf o Gymru, mae’n anodd gwybod sut mae pethau’n mynd mewn sawl rhan o’r wlad – yr unig ymgyrchu gweledol hyd yn hyn, hyd y clywaf i, ydi yng Ngorllewin Caerfyrddin. Wn i ddim a ydi hynny’n ffeithiol gywir. Ta waeth, gall y de-ddwyrain fod yn ardal ddiddorol y tro hwn am resymau gwahanol.

Yr Etholaethau

Ddechreuwn ni â’r cwestiwn, pa etholaethau allai newid dwylo yn 2011? Dwy sedd Casnewydd? Annhebygol. Merthyr neu Dorfaen? Dim ffiars. Islwyn? Annhebygol iawn. Mynwy? Dwi’m yn meddwl. Sy’n gadael dwy sedd – Blaenau Gwent a Chaerffili.

Er gwaethaf y ffaith bod Trish Law wedi cael dros hanner y bleidlais bedair blynedd yn ôl, fydd hynny ddim yn digwydd y tro hwn gan nad yw’n sefyll. Ac mae’r gwrthryfel gwrth-Lafuraidd ar ben yma – yr unig ymgeisydd y tu allan i’r pedair prif blaid yw ‘Ceidwadwr Annibynnol’ – phob lwc iddi! Dwi’n amau y bydd mwyafrif Llafur yma ymhen mis hyd yn oed yn fwy nag oedd y llynedd a synnwn i petai unrhyw blaid arall yn cael 20% o’r bleidlais.

Y sedd arall dan sylw ydi Caerffili. Petai’r sefyllfa Brydeinig ddim yn gysgod dros yr etholiad hwn, teg dweud mai Ron Davies a Phlaid Cymru fyddai’r ffefrynnau. Daeth y Blaid yn ail y tro diwethaf a Ron Davies yn drydydd agos. Ond roedd pleidlais gyfunol y ddau yn llawer mwy na phleidlais y Blaid Lafur. Serch hynny, mae’n anghywir dwi’n meddwl cymryd yn ganiataol y bydd pawb a bleidleisiodd dros Ron Davies y tro diwethaf yn fodlon pleidleisio dros Blaid Cymru y tro hwn. Ac er bod gan Blaid Cymru fwy o gynghorwyr lleol na Llafur yma, aeth rhywbeth wirioneddol o’i le yn 2010 a daeth y Blaid yn drydydd, y tu ôl i’r Ceidwadwyr.

Dwi’n llai bodlon na rhai i anwybyddu’r polau piniwn Cymreig, ac ar y funud mae arnaf ofn nad ydw i’n meddwl y bydd Ron Davies yn ennill yma – mae’r backlash Llafuraidd yn ormod. Serch hynny, mae tair wythnos i fynd, ac os bydd sefyllfa’r Blaid yn gwella hyd yn oed fymryn yn y polau gall hon fod yn sedd i’w gwylio. Mae Llafur Cymru yn anifail clwyfedig ac ar ei pheryclaf ar hyn o bryd, ac ni fydd Ron Davies yn gallu ei wrthsefyll.

Proffwydoliaeth:

Llafur 7 (+1)
Ceidwadwyr 1 (-)


Y Rhestr


Mi fydd Llafur unwaith eto’n ennill y rhestr yn hawdd yma, a synnwn i ddim petai’n gwneud hynny â thros hanner y bleidlais, efallai 55% a hyd yn oed fwy. Bydd y Ceidwadwyr fwy na thebyg fymryn ar eu colled, Plaid Cymru yn hofran ar tua 10%, ond mi allai’r Democrataid Rhyddfrydol golli hanner eu pleidlais, ac fel ambell un arall dwi’n dyfalu mai pumed y daw hi, fwy na thebyg y tu ôl i UKIP – mae hynny oherwydd bod pleidleiswyr Gwyrdd a BNP yn eithaf tebygol o gefnogi Llafur y tro hwn. Serch hynny, mae’n anodd gweld UKIP yn cael llawer mwy o bleidleisiau na’r Democratiaid Rhyddfrydol – dywedwn y caiff y Dems Rhydd 6% ac UKIP 7%.

Beth ydi goblygiadau hynny felly?

Mi all fod yn ganlyniad eithaf syfrdanol. Dylai’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ennill y ddwy sedd gyntaf, ond mi fydd y frwydr am y ddwy sedd arall yn ffyrnig. Bydd hi’n frwydr agos rhwng UKIP a Llafur am y drydedd sedd – dwi’n ei galw i UKIP o drwch blewyn – ac fe âi’r bedwaredd i Lafur. Byddai hynny’n anhygoel – byddai ennill saith etholaeth a sedd restr yn gamp, ond mi all ddigwydd yma.

Petai Ron Davies yn ennill yng Nghaerffili, mae’n gwbl bosibl o ystyried y polau diweddaraf na fyddai Plaid Cymru yn ennill sedd restr yma o gwbl ... ond y Ceidwadwyr, nid y Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n ennill honno yn ôl pob tebyg. Ta waeth, cawn weld – mae llawer iawn yn dibynnu ar ba mor uchel y bydd y bleidlais Lafuraidd yn cyrraedd. Dwi’n dueddol o feddwl bod y polau positif i’r blaid honno yn deillio o bleidleisiau yn pentyrru mewn ardaloedd fel Merthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen yn hytrach nag ennill tir enfawr yn y gorllewin, ac o ran y rhestr gallai hynny sicrhau sedd yma.

Proffwydoliaeth


Ceidwadwyr 1 (-)
Plaid Cymru 1 (-1)
UKIP 1 (+1)
Llafur 1 (+1)

Nessun commento: