lunedì, aprile 25, 2011

Proffwydo 2011: Gogledd Cymru

Mae gen dros wythnos i ffwrdd rŵan ac mi fydda i’n defnyddio’r rhan fwyaf ohoni ar ‘sgota ac ymlacio, gan gadw draw o bawb nes y penwythnos os fedra i helpu’r peth. Ond wrth gwrs mae o hyd etholiadau arnom. Cyn i unrhyw bôl arall gael ei gyhoeddi dwi am edrych ar Ogledd Cymru heddiw. Fel pob un o’r dadansoddiadau hyd yn hyn dwi’n cadw’r hawl i newid nes y diwrnod ei hun – ond dwi’n raddol dod i’r casgliad efallai nad ydi pethau gystal ar Lafur ag awgrymiadau’r polau.

Yr Etholaethau

De Clwyd, Delyn, Dyffryn Clwyd, Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy – pum sedd ddiogel i Lafur, er bod gan ambell un fwyafrif tila. Galwaf hefyd Arfon i’r Blaid yn gymharol ddiffwdan, er y bydd gogwydd at Lafur. Mae Ynys Môn, mi dybiaf, am fod yn agos y tro hwn, i’r fath raddau y gallai Ieuan Wyn Jones gael eithaf braw pan ddaw’r canlyniad i’r amlwg, er nad ydw i’n siŵr o ba gyfeiriad y daw’r her fwyaf iddo. Serch hynny, bydd y Blaid yn cadw Môn ... y tro hwn.

Sy’n gadael dwy sedd. Gadewch i mi ddechrau â Gorllewin Clwyd. Mae hon yn sedd Geidwadol ar bob lefel erbyn hyn ac mae’n bur amlwg yn San Steffan o leiaf fod uchafswm pleidleisiau’r Ceidwadwyr yn uwch na Llafur. Y peth rhyfedd am y sedd hon ar lefel y Cynulliad ydi ei bod yn ddigon tebygol, o ystyried ei natur, fod nifer o bobl sy’n pleidleisio i’r Ceidwadwyr ar lefel San Steffan yn ne’r sir efallai’n fwy tebygol o gefnogi Plaid Cymru mewn etholiad Cynulliad. Dim ond 3% o ogwydd sydd ei angen ar Lafur yma, ac er fy mod i’n meddwl y gallai pleidlais Llafur a’r Ceidwadwyr gynyddu yma, ar hyn o bryd dwi’n rhyw deimlo (er bod sïon sy’n gwrthddweud hyn) y bydd Llafur yn ailgipio’r sedd o fwyafrif bach.

Beth ellir ei ddweud am Aberconwy? O ystyried y polau a’r hinsawdd wleidyddol, yn ogystal â nifer o ffactorau eraill, Aberconwy ydi’r sedd anoddaf yng Nghymru i’w darogan. Ceidwadol yn San Steffan, Plaid Cymru yng Nghaerdydd, Llafur efo cyfla da o ennill. Dwi’n teimlo bod angen post cyfan er mwyn dadansoddi hon, ond dwi am ymwrthod â’r demtasiwn!

Dwi ddim am eich diflasu â’r fathemateg, ond o ystyried y bydd y niferoedd sy’n pleidleisio efallai tua 50% eleni yma mae’n rhywbeth tebyg i hyn. O ran y ganran, caiff Llafur gynydd parchus yn ei phleidlais, bydd Plaid Cymru ar ei lawr, bydd y Ceidwadwyr yn cynyddu mymryn a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli eu hernes. Dal efo fi?

I’r rhai sy’n darllen y postiau gwleidyddol, ‘does rhaid i mi bwyntio’r holl ffactorau fydd ar waith yma na chyd-destun yr etholiad, ond yn fathemategol, er gwaetha’r cynnydd mawr arfaethedig sydd i Lafur, dylai hon fod yn ras agos iawn, iawn rhwng Plaid Cymru â’r Ceidwadwyr. Dwi ddim yn ymddiried llawer yn y ffaith bod y Blaid yn ‘hyderus’ yma – roedden nhw’n hyderus iawn llynedd o’r hyn a ddeallais i! Ta waeth, ar y funud, dwi’n galw Aberconwy i Blaid Cymru o drwch adain gwybedyn.

Proffwydoliaeth

Llafur 6 (+1)
Plaid Cymru 3 (-)


Y Rhestr

Unwaith eto, ar ôl ychydig o symiau, ychydig o ystyried, mymryn o reddf a chan gymryd yr uchod yn ganiataol, deuthum at ganlyniad diddorol iawn ar gyfer y rhestr yng Ngogledd Cymru.

Dwi’n disgwyl i bleidlais rhestr y Blaid ddisgyn mymryn, i Lafur gynyddu ond nid i’r un graddau â gweddill Cymru, ac i’r Ceidwadwyr gynyddu mymryn ond nid llawer. Y cwestiwn mawr yn y Gogledd mewn difrif ydi a fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael llai o bleidleisiau na’r BNP. Synnwn i ddim petai’r BNP yn aros ar ei hunfan, ond mi wneith y Dems Rhydd golli pleidleisiau ... a hynny jyst ddigon i ddod tu ôl i’r BNP. Sy’n gadael y posibilrwydd o sedd i’r BNP yn y Cynulliad.

Neu ydi o? Petai gan Lafur chwe sedd yma, a Phlaid Cymru dri, mae’r goblygiadau ar gyfer y rhestr yn hynod ddiddorol. Yn ôl pob tebyg fe fyddai’r Ceidwadwyr yn ennill pedair sedd restr, ac i’r diben hwnnw byddai colli Gorllewin Clwyd a pheidio ag ennill yn Aberconwy neu efallai Dyffryn Clwyd o fudd i’r blaid oherwydd fe fyddai ganddi sedd yn ychwanegol oddi ar 2007!

Dim ond dwy sefyllfa arall y gall rhywun eu rhagweld yma – sef dim newid, neu’r Ceidwadwyr hefyd yn cipio Aberconwy. Yn fras, y goblygiadau fyddai:

Dim newid yn yr etholaethau: Ceidwadwyr i ennill tair sedd, a Llafur yn ennill y bedwaredd.

Ceidwadwyr yn cipio Aberconwy: Ceidwadwyr yn ennill y ddwy sedd restr gyntaf, Plaid Cymru yn ennill y drydedd a Llafur yr olaf.

Ta waeth am hynny, dyma’r broffwydoliaeth gyfredol o’m rhan i.

Proffwydoliaeth:

Ceidwadwyr 4 (+2)


Gyda Gogledd Cymru y rhanbarth olaf yng nghyfres fer Proffwydo 2011, petawn i’n hollol gywir (sy’n gwbl annhebygol) fel hyn y safai’r Cynulliad ar 6ed Fai:

Llafur              32 (+6)
Ceid                13 (+1)
PC                   11 (-4)
DRh                2 (-4)  
UKIP               1 (+1)

Ar yr olwg gynta’, mae’r uchod, yn benodol anffawd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn edrych yn annhebygol, ond o gyfuno ffigurau, polau, tueddiadau a lwmp o reddf yn ogystal â digon o fathemateg, dyma sut mae hi rŵan. Wrth gwrs, fydda i’n diweddaru’r uchod dros yr wythnos i ddod ac yn dod i broffwydoliaeth derfynol maes o law. Ond tan hynny felly saif Cymru Rachub hyd yn hyn!

9 commenti:

BoiCymraeg ha detto...

Dwi'n credu y daiff UKIP o flaen y BNP yn yr etholiad yma. Er iddyn nhw ddod y tu ol i'r BNP yn 2007, maen nhw'n ymgyrchu'n galetach o lawer na'r BNP yma ac mae yna dueddiad i'r BNP wneud yn well pan mae Llafur ar i lawr, tra bod UKIP yn gwneud yn well tra bod y Ceidwadwyr ar eu lawr.

Maen nhw'n cael eu gweld yn fwy derbyniol, llai eithafol gan y cyhoedd hefyd; sy'n golygu bod yna fwy o bobl fyddai'n medru dychmygu pleidleisio drostynt na'r BNP. Maen nhw wedi cael llawer mwy o gyhoeddusrwydd, a cyhoeddusrwydd da gan fwyaf, na'r BNP yn ddiweddar oddi ar ganlyniadau'r etholiad Ewropeaidd diwethaf.

Dwi i ddim yn disgwyl iddyn nhw ennill sedd yma (nac yn y De-Ddwyrain chwaeth) ond maen nhw'n fwy tebygol o gwneud na'r BNP.

Cai Larsen ha detto...

Mae'r BNP ar chwal tros Brydain - fyddan nhw ddim yn ennill seddi yng Nghymru y tro hwn - UKIP efallai, ond nid y BNP.

Cai Larsen ha detto...

Mae hi'n bosibl i'r Toriaid gael 4 allan o 4 sedd rhanbarthol os na fyddant yn ennill sedd uniongyrchol, ond byddai'n rhaid i pob dim syrthio i'w lle iddynt o ran pleidlais PC a Llafur.

Er enghraifft os byddai'r Toriaid ar 25% tros y Gogledd, byddai'n rhaid iddynt obeithio bod Llafur yn y 40au cynnar iawn a PC yn y 20au cynnar iawn, tra bod y Lib Dems ac UKIP yn tan berfformio a'r seddi uniongyrchol yn syrthio mewn ffordd arbennig.

'Dydw i ddim yn gweld hyn oll yn digwydd ar yr un pryd - byddai'n ffliwc o'r radd flaenaf.

Hogyn o Rachub ha detto...

Diolch am eich sylwadau. Hwyrach eich bod yn gywir am y BNP, er bod honno'n ddadl academaidd i bob pwrpas achos mae'n annhebygol y caiff y BNP, UKIP na'r Dems Rhydd ddigon o bleidleisiau rhanbarthol i ennill sedd.

Rwan, o ran proffwydo'r seddau rhanbarthol ma'n rhaid proffwydo'r etholaethau. Yn fy marn i yr unig newid ar hyn o bryd fydd Gorllewin Clwyd yn syrthio i ddwylo Llafur.

At y diben hwnnw o ran y rhestr, dwi'n disgwyl i Blaid Cymru fod tua 20% - 21%, y Ceidwadwyr tua 27-28% a Llafur yn y 30au uchel - 38% ddywedwn ni. Dwi'n credu felly bod y symiau'n gywir o ran darogan 4 sedd i'r Ceidwadwyr yn y sefyllfa honno.

Cai Larsen ha detto...

Ond pam ti'n cymryd y bydd y bleidlais Doriaidd yn cynyddu - mae'r polau yn awgrymu y byddant yn syrthio mwy na 2%.

Ti'n cymryd bod y polau'n gywir - ac mae hynny'n ddigon teg - ond pam y byddai'r Toriaid yn perfformio'n well yn y Gogledd nag yng ngweddill y wlad?

Hogyn o Rachub ha detto...

Damia! Mi bostiais ateb hir a chall yma jyst rwan a methu ei adael! Yn fras dywedais hyn: mae 'na elfen o ddamcaniaethu yn mynd ymlaen fan hyn, yn bennaf parthed dirywiad tebygol yn y bleidlais yn y De a dal tir neu weld cynnydd yn y Canolbarth a'r Gogledd. Soniais hefyd yn fras am y ffaith y gallai'r Ceidwadwyr ar bapur ennill sawl sedd yma ac felly byddai dyn yn disgwyl iddynt ymgyrchu'n frwd yn y seddau hynny, er heb â dwyn ffrwyth.

Ta waeth wnes i hefyd ychydig o symiau. Cymerwn yn ganiatol bod y damcaniaethu etholaethol yn gywir yma. Hyd yn oed o ddisgyn i tua 24% mae'n gwbl bosibl (os nad 'tebygol' fel y cyfryw) y bydd y Ceidwadwyr yn ennill pedair sedd, er byddai llai na hynny'n debygol o roi'r bedwaredd i rywun arall.

Cai Larsen ha detto...
Questo commento è stato eliminato dall'autore.
Cai Larsen ha detto...

Wel - cymerer bod y Toriaid ar 24%, PC ar 22% a Llafur ar 43% a l2% rhwng y gweddill.

Sedd 1 Llafur 43% / 6+1= 6.14%
PC 22% /3+1= 5.5%
Tori 24& /0+1= 24%
Tori

Sedd 2 Llafur 43% / 6+1= 6.14%
PC 22% /3+1= 5.5%
Tori 24& /1+1= 12%
Tori

Sedd 3 Llafur 43% / 6+1= 6.14%
PC 22% /3+1= 5.5%
Tori 24& /2+1= 8%
Tori

Sedd 4 Llafur 43% / 6+1= 6.14%
PC 22% /3+1= 5.5%
Tori 24& /3+1= 6%
Llafur

Byddai'r Toriaid angen i Lafur fod yn is na 43% ac i PC fod yn is na 24% ar yr un pryd - ac i'r un o'r man bleidiau gael mwy na 6%.

Posibl? - ydi.
Tebygol? - nag ydi.

Hogyn o Rachub ha detto...

Aha, dwi'n gweld un broblem - mae ffigurau Wikipedia yn anghywir! Dwi wedi cymryd bod Llafur yn uwch o lawer a Phlaid Cymru yn is. Ond o ailddadansoddi...

Dim ond 26.4% o'r bleidlais ranbarthol gafodd Llafur y tro diwethaf. Alla i ddim mo'i gweld yn cael mwy na 40% yn y Gogledd, ac felly mae'n annhebygol o ennill sedd restr (heblaw os na fydd yn ennill Gorllewin Clwyd).

O ystyried yr uchod, buaswn i'n damcaniaethu'r Blaid ar tua 24% a'r Ceidwadwyr ar 26-7%. Yn y sefyllfa honno dwi'n credu y buaswn i'n iawn yn dweud y byddai'r Ceidwadwyr o hyd yn ennill y pedair sedd.