Efallai y
gwyddoch fy mod i’n hoff iawn o ystadegau. Heddiw, dydw i’m yn eu licio nhw lot.
Os ydych chi’n darllen hwn, mae’n bur
debyg eich bod, fel fi, yn teimlo’n weddol ddigalon. Gwelwyd gostyngiad yn
nifer y Cymry Cymraeg. Os mae’n unrhyw gysur, doedd yr ystadegau ddim yn
chwalfa lwyr ar lefel Cymru gyfan, ond i raddau helaeth dyna’r unig gysur sydd,
briwsionyn go iawn.
Pryderai nifer ohonom yn 2001 am ddirywiad
y Fro Gymraeg, ond gan lwyddo cysuro ein hunain am y twf yn Ne Cymru. Y tro
hwn, ni chafwyd twf o’r fath i orbwyso colledion y gorllewin; yn wir, ategu’r
dirywiad a wnaeth ystadegau’r de. Ar wahân i ambell i eithriad prin iawn, dirywiad
a gafwyd yng Nghymru benbaladr. Yr unig le a gafwyd wir dwf oedd yng
Nghaerdydd, ond roedd y cynnydd o 4,000 o siaradwyr eithr diferyn mewn sir sydd
â thros 320,000 o drigolion. Profwyd un peth – dydi cynnydd yn ne’r wlad methu
â gwneud yn iawn am ddirywiad cymunedau Cymraeg. Does ‘na ddim lot ohonyn nhw i’w
cael mwyach.
Mae ‘na wydnwch i’r Gymraeg ym Morgannwg,
fentrwn i ddim â phechu a dweud fel arall, ond mae’r gwydnwch hwnnw ers
degawdau wedi’i ategu gan Gymry Cymraeg y gogledd a’r gorllewin, a byddai’n
annheg peidio â chydnabod hynny. Nid oes mwyach y cadernid yn yr ardaloedd
hynny i ategu twf y de-ddwyrain ac ar yr un pryd cynnal y cymunedau Cymraeg,
fodd bynnag.
Ond ai ni sydd wedi’n twyllo’n hunain i
feddwl y byddai’r canlyniadau fel arall?
Roedd y twf a welwyd yn 2001 yn y de o
ganlyniad i addysg Gymraeg a pharodrwydd, neu awydd, rhieni i nodi bod eu plant
yn siarad Cymraeg. Dw i’n meddwl mai’r hyn a welwn y tro hwn ydi darlun mwy
realistig o sefyllfa’r Gymraeg yn ne Cymru na’r hyn a welwyd ddegawd yn ôl. Y mae’r
rhai sy’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol, dim ond i’w colli iddi ar ôl gadael, yn
bryder difrifol. Mae o hyd her fawr yn wynebu’r iaith yn ne Cymru ac ni allwn
gymryd yn ganiataol dwf yn yr ardaloedd hyn – yn amlwg, wnaethon ni gamgymeriad
mawr drwy wneud hynny dros y ddegawd ddiwethaf.
Ond os mai her sy’n ei hwynebu yn y de,
mae pethau’n dduach o lawer yn yr ardaloedd Cymraeg. Roedd canlyniad Sir Gaerfyrddin
yn drychinebus. Bosib mai ardal Llanelli oedd yn gyfrifol am lawer o’r dirywiad
hwnnw ond mae’n anodd gweld unrhyw ran o’r sir yn dal ei thir pan gawn yr
ystadegau ward. Yng Ngheredigion gwelwyd hefyd ddirywiad – er efallai yno ei
bod yn rhyddhad mai dim ond 5% oedd y gostyngiad. Mae’n siŵr mai digalon fydd y
ffigurau ward i’r ardaloedd cyfagos, fel Gogledd Sir Benfro, hefyd.
Ro’n i’n meddwl y buasai’n waeth ym Môn –
lawr i 57% - ond ni ddaliodd gadernid Gwynedd. Roedd Gwynedd yn siomedig tu
hwnt mewn difri; a hithau’n gadarnle’r Gymraeg dydi 65% ddim yn ystadegyn
cadarn iawn. Diddorol ydi nodi mai dim ond 66% o bobl y sir a aned yng Nghymru,
ac er na ellir gwneud cymhariaeth uniongyrchol, prin fod amheuaeth bod yn y
Pedair Sir Gymraeg (neu’r ddwy sir erbyn heddiw) y mewnlifiad o Saeson yn newid
holl gymeriad y cymunedau hyn. A all Plaid Cymru barhau i anwybyddu hyn, os am
achub ei chroen ei hun os dim arall?
Bydd y canlyniadau ward yn ddiddorol yn y
ddwy sir, ac yng Nghonwy wledig hefyd. Fydd ‘na fawr ohonom yn gwenu am y
rheiny.
Hoffwn i orffen ar nodyn cadarnhaol, ond
yn anffodus roedd heddiw’n ddiwrnod digysur – dydi’r ystadegau ddim yn
anobeithiol, ond rhaid inni fod yn onest – does ‘na ddim byd da amdanyn nhw
chwaith. O gwbl. Y peth tristaf ydi na fydd y Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud
dim amdani – mae’r ffigurau hyn yn newyddion gwych i’r blaid Lafur. Efallai y
gwnaethom ni gryn gamgymeriad yn trosglwyddo grym o San Steffan i Lafur Cymru
yn y lle cyntaf...
Dydi’r Gymraeg ddim ar ei gwely angau
heddiw ond mae’n bryd ffonio’r ambiwlans. Yn y de, mae angen sicrhau bod plant
ysgolion Cymraeg yn dal ati efo’r iaith ar ôl gadael ysgol, ymddengys mai dyna’r
prif broblem yno. Yn y gorllewin, does ‘na fawr o amheuaeth mai’r mewnlifiad
ydi’r prif broblem, a bod angen ymgyrchu yn erbyn y mewnlifiad hwnnw – ymgyrch chwerw
iawn, dybiwn i, ond un gwbl angenrheidiol. Mae gan yr iaith fwy o hawl i fyw
nag sydd gan Saeson i gael tŷ neis.
A rhaid rhoi i’r naill ochr ein hobsesiwn
gyda statws yr iaith, ac i raddau llai, addysg Gymraeg. Dywedais ar y blog hwn
o’r blaen – nid achubodd statws yr un gymuned Gymraeg, nac addysg adfer yr un. Rhaid
i’r pwyslais newid, ac efallai ein dulliau hefyd. Fydd gan Seimon Glyn
berffaith hawl heddiw i ysgwyd ei ben a dweud enw’r boi Japanîs sy’n gwybod bob
dim.
Ond o ddifrif, diwrnod du – diwrnod a
allai fod wedi bod yn waeth, ond diwrnod du serch hynny sy’n arf go sylweddol i’r
lleisiau cynyddol sydd eisiau gweld diwedd i’r iaith.
4 commenti:
Rydw i'n credu bod modd dadlau yn erbyn y mewnlifiad oherwydd ei fod yn rhan o anhwylder economaidd Cymru yn ogystal a phroblemau'r iaith Gymraeg. Mae nifer fawr o'r bobol sy'n symud yma wedi ymddeol - dydyn nhw ddim yn cyfrannu unrhyw beth, dim ond rhoi pwysau ar wasanaethau. Ar yr un pryd mae nifer o bobol yn cael eu symud yma oherwydd eu bod nhw'n sal neu yn ddi-waith, a'i fod yn rhatach eu cadw nhw yma nac yn Lloegr er enghraifft.
Y pryder yw bod Prydain yn cael ei wahanu'n ddwy - rhwng dinasoedd i bobol ifanc a chyfoethog fel Llundain a 'retirement home' Cymru.
Beth sydd angen yw plaid adain-dde cenedlaetholgar fydd yn rhoi'r pwyslais ar hybu economi Cymru a gwybrwyo dinasyddion y wlad yn hytrach na gwario arian ar freebies fel presgripsiynau am ddim sy'n gwneud y wlad yn lle braf i ymddeol iddi.
Amser am annibyniaeth i Wynedd?
Gwlad uniaith Gymraeg tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yw'r ateb.
I M J,
Yn y tymor byr, mae'r rhai sy'n ymddeol yma yn rhoi arian i mewn i'r economi oherwydd eu bod yn prynnu tai ac wrth gwrs, rhoes hyn gyflogaeth am rywfaint i rhai bu'n adeiladu'r ty ac ati. Ond mae yna bethau negyddol megis Seisnigeiddio, straen ar wasanaethau lleol, cystadlu yn erbyn y brodorion am dai ac felly'n gwneud yr ifanc i symud iffwrdd am well tal fel eu bod hwy yn gallu prunnu ty. Byddai'n dda petai rhywun yn gallu gwerthuso cyfraniad y rhain. Ond wrth gwrs, sut elli di werthuso iaith a diwylliant unigryw sy'n cael ei sathru gan y rhan fwyaf ohonynt?
HOR
Fi wnaeth ysgrifennu'r neges ar flog MH Syniadau yn dweud fy mod i dros y Gymraeg on fy mod i'n meddwl fod hawliau pobl i symud le a fynant er mwyn cael try rad ayyb blah blah. Na....dwi ddim yn meddwl hynny ond dwi eisiau dangos mor bathetig yw safbwynt M Hacket. Achos dyna yw ei safbwynt. Dwi wedi dweud fel arall ar ei flog droeon ac fel arfer may e'n diddymu fy sylwadau. Dw'n meddwl fy mod yn gwneud fy mhwynt yn well efallai fel hyn gan ddangos mor bathetig yw ei safbwynt ef. O leia, ni fydd e'n gallu diddymu fy sylw neu sylwadau.
Posta un commento