Efallai i chi gofio imi
grybwyll yn gyflym yn ddiweddar ei bod yn bosibl bod gan ein hiaith ramadeg sy’n
“anorfod gymhleth”. Fydda i’n tueddu i feddwl bod ‘na broblem gan iaith os ydi’r
llyfr sy’n egluro ei gramadeg yn fwy trwchus na’r rhan fwyaf o’i geiriaduron.
Wrth gwrs, cyfeirio at Gramadeg y Gymraeg
ydw i, sydd ddim fy hoff lyfr o bell ffordd beth bynnag, ac mae canllawiau
llawer mwy dealladwy a symlach ar ramadeg yr iaith i’w cael. Ond mae’r ffaith bod
cymaint o reolau gramadegol gennym i lenwi cynifer o dudalennau yn, wel, os nad
ydi hynny’n broblem, dydi o ddim exactly yn
fanteisiol.
Rŵan, dydi’r rhan fwyaf o
bobl ddim yn gwbl gyfarwydd â rheolau gramadeg yr iaith, er eu bod nhw’n gwybod y
rheolau ar glyw. Er enghraifft, byddai’n hollol annaturiol i siaradwr iaith
gyntaf ddweud ‘y merch a’i ci’, er efallai
nid mor annaturiol i nifer sy’n ail iaith. Felly dim dweud cael gwared ar dreigladau na
phethau sylfaenol felly ydw i.
Ni fyddai’r rhan fwyaf
ohonom chwaith yn dweud ‘dau ferch’
neu ‘tri dafad’ – mae cenedl enwau yn
bethau digon cyfarwydd i siaradwyr iaith gyntaf ar y cyfan, ac unwaith eto,
efallai yn llai cyfarwydd i siaradwyr ail iaith. Nid bod hynny’n ormod o
broblem wrth gwrs, dw i’n bendant iawn o’r farn bod yn well i rywun ddweud ‘dau ferch’ na ‘two girls’.
Er, dydw i ddim yn erfyn ar
i gyfieithwyr a phobl sydd ag iaith o safon uchel i anwybyddu gramadeg – ddylen
ni gadw ato, waeth beth ydi safon iaith pobl (sydd yn lot uwch nag y mae lot o bobl yn ei feddwl eu hunain, yn fy marn i). Ac nid cyfeirio at eiriau hyll
fel darparu neu gwirio – dau air o blith nifer sy’n cropian fyny mewn cyfieithiadau
sy’n hollol, hollol anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg – ydw i. Na,
nid terminoleg sydd dan sylw heddiw. Dadl arall ydi honno – un ddiflas ond
nad ydych chi’n gyfieithydd, mi dybiaf!
Na, gramadeg sy’n dwyn fy
sylw y tro hwn. Ac fel dw i’n dweud, mae angen gramadeg er mwyn gosod safon,
sydd eto’n angenrheidiol – ac i’r rhai sy’n anghytuno, yn gryno: dachi'n rong. Yn hanesyddol mae ieithydd sydd heb eu safoni yn llawer, llawer mwy tebygol o farw
na rhai sydd wedi’u safoni.
OND...
oes ‘na rai rheolau gramadegol sydd, erbyn
hyn, jyst yn ddiangen?
Hynny ydi, ydi o’n bryd inni
ailystyried rhywfaint o ramadeg yr iaith er mwyn ei symleiddio?
Fel y dywedais, dydi’r
ffaith bod y Gymraeg mor gymhleth yn ramadegol ddim yn fanteisiol – os rhywbeth,
mae o ‘mbach o faich arni. Gadewch i mi roi un enghraifft berffaith i chi –
pum/saith niwrnod. Am reol fach
wirion. Pwy ddiawl sy’n dweud pum niwrnod?
Dw i’n gwybod be fydd rhai ohonoch chi’n gweiddi ar y sgrîn "OND BETH AM DDAU DDIWRNOD?" Wel,
mae ‘na wahaniaeth. Mae pobl yn dweud ‘dau ddiwrnod’. Dydw i ddim yn meddwl imi
erioed, yn fy mywyd cyfan, glywed neb yn dweud ‘pum niwrnod’.
I fod yn onest, i’r clustiau
hyn, mae pum/saith diwrnod yn swnio’n
fwy naturiol beth bynnag! Ond yn ôl ein gramadeg ni, dydyn nhw ddim yn gywir.
Oes wir angen rheol o’r fath
felly? Oni chawn ni ei rhoi i’r naill ochr?
Un enghraifft (dda, yn fy
marn i) ydi honno o reol ddiangen. Mae mwy i’w cael – dwi’n siŵr bod gennych
chi rai! Wrth gwrs, y broblem wrth adolygu gramadeg yr iaith ydi lle i stopio? Enghraifft
dda o’r broblem honno ydi’r ateb llafar i’r cwestiwn Ble wyt ti? a phan fo’r lle hwnnw’n dechrau efo ‘b’. Byddai rhywun
bob amser ym Methesda, ond eto yn Blaenau (Ffestiniog) – ac i ychwanegu
at y broblem byddai llawer iawn o bobl yn
Fangor...
Yn yr un modd byddai rhywun
yn aml yn Gaerdydd ond byth yn Gaersws – dim ond yng Nghaersws neu efallai yn Caersws!
Felly rhyw joban fach anodd,
ddiddiolch a thrwsgl fyddai ailystyried rhywfaint o’n gramadeg ni. Ond dwi’n
rhyw deimlo bod angen gwneud ychydig o dwtio, yn enwedig gyda rheolau nad ydi
fawr neb yn eu defnyddio nac yn ymwybodol ohonynt. Fel y dywedais i, dydi
gramadeg gorgymhleth ddim yn fuddiol i’r iaith. Mae’r gagendor enfawr sy’n
bodoli rhwng yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig yn wirion braidd – dwi o’r
farn mai’r iaith ysgrifenedig ddylai wneud y cam cyntaf at geisio lleihau’r
bwlch hwnnw, achos waeth i ni fod yn realistig, dydi o ddim am ddigwydd y ffordd arall.
Dydi hynny ddim yn meddwl
ffarwelio ag iaith lenyddol, fawreddog – nac ydi wir, prin fod yna ffurf
brydferthach i’w chael ar y Gymraeg. Nac ychwaith iaith safonol. Ond mi ddylen
ni hefyd fod yn agored i’r ffaith fod yn rhaid i iaith newid. Fel cyfieithydd,
fydda i’n ceisio osgoi geiriau fel darparu
a gwirio, ac mi wn i fod ‘na ddigon o
gyfieithwyr yn gwneud yr un peth. Ond nid dim ond geirfa gymhleth ac yn aml
anghyfarwydd sy’n her i’r iaith, ond cymhlethdod anorfod ei gramadeg.
Siŵr o fod y gallwn ni
luchio o leiaf rai o dudalennau Gramadeg
y Gymraeg i’r bin?
4 commenti:
Beth am sumyleiddio sillafu - u yn lle y pan 'each chi'n dweud u. Sumyleiddio ee. Edruch yn od- ond dwi'n siwr basa ni'n dod i arfer...!
Dylen ni ystyried pethau fel'na - nath rhywun ddweud wrtha i dros Twitter neithiwr mai un rhyfedd ydi'r 'n' ddwbl sydd ddim yn rheol mae pawb yn gyfarwydd â hi.
Ond - a dyma rhan o'r broblem - mae symleiddio yn enghraifft dda o air na ddylid cael ei newid oherwydd tafodiaith - bydda ni'n 'sgwennu "sumleiddio" a'r hwntws yn sgwennu "simleiddio" felly mae angen un gair ar gyfer y cyfan!
Fellu "sumyleiddio" amdani - gogs bod tro'n iawn, a hwntws 50/50. Fel mai rwan, gogs 50/50, a hwntws 1 mewn tri...
Y mae'r ddadl yn ddiddorol, ond mae'n seiliedig ar gam gwag cychwynnol. NId yw hyd na chymhlethod Gramadeg y Gymraeg gan Peter Wynn Thomas yn awgrymu dim oll ynghylch 'cymhlethdod gramadegol y Gymraeg' - yn hytrach, dyma feirniadaeth ar ddewis iaith a strwythur y llyfr hwnnw. Y feirniadaeth ydyw ei fod yn llyfr rhy gymhleth i'r rhan fwyaf ohonom ei ddeall a'i ddefnyddio, ac mae hynny'n wir. Eto, gellid llunio llyfr tebyg am ramadeg unrhyw iaith, ac yn wir gellid bod wedi ymhelaethu eto fyth, a chreu gwaith dwy/tair/pedair gwaith y maint.
Y mae modd disgrifio'r pethau symlaf mewn ffyrdd manwl iawn - ystyrier y cyfrolau o ddisgrifiadau gwyddonol y gellid eu cynnig o unrhyw wrthrych ffisegol yn y gegin neu'r ardd: gwyddom oll mewn ystyr ymarferol yr hyn yw cadair, neu'r hyn yw olew olewydd, ond byddai'n bosibl traethu am oriau ynghylch pob agwedd hanesyddol/morffolegol/ontolegol o'r unrhyw wrthrychau. (Byddai nifer yn ystyried y fath ddisgwrs yn un ddiflas ar y naw, ond eraill yn cael modd i fyw ohoni!)
Ychydig o 'straw man' hefyd yw cynnig y 'rheol' ynghylch 'saith niwrnod'. Yn wir, un o rinweddau Gramadeg y Gymraeg, er gwaethaf (meddai rhai) ei ieithwedd astrus, manwl, yw'r iddo yn eithaf cyson wahaniaethu rhwng yr hyn sy'n dderbyniol mewn gwahanol gyweiriau'r iaith, o'r tra ffurfiol, trwy'r ffurfiol i'r anffurfiol a'r tafodieithol. Y mae gwahaniaethu rhwng 'safonol' ac 'ansafonol', neu'r 'cywir' a'r 'anghywir' yn gofyn am gategorïau gwahanol iawn. Rhwydd hynt i bawb ysgrifennu (neu ddweud, os mynnir!) 'saith niwrnod', cyhyd a'i b/fod yn cofio ymha gywair y mae'n traethu. Ar y cyfan wrth gwrs, mewn sefyllfaoedd beunyddiol, defnyddied 'saith diwrnod'.
Erbyn hyn, go brin bod llawer ohonom yn gweld dim o'i le ar 'gwirio', nac ar sawl gair tebyg. Mae'n rhyfedd sut mae'r ddadl laissez-faire "mae pob iaith yn datblygu", a ddefnyddir amled i awgrymu na ddylid poeni ynghylch cynnal safonau, yn tueddu i fod yn ddall i'r syniad y dylai geirfa'r iaith hefyd ddatblygu. Yn lle 'gwirio', beth? 'Tsiecio'? Efallai'n wir, a chroesawn y gair hwnnw yn ogystal - mae lle i sawl opsiwn a sawl cywair yn yr iaith.
Nid llai o reolau sydd ei hangen, ond - os rhywbeth - rhagor ohonynt, a ninnau'n deall [heb efallai ddeall y 'rheolau'!] nad yr un ydyw iaith y buarth ac iaith y ford ginio; iaith y dafarn ac iaith y ddarlithfa; da fyddai (fel yr ydych chi'n ei awgrymu mewn mannau eraill) inni beidio â checru ymysg ein gilydd ynghylch 'uned, a chenedl, a safon o hyd', ond yn hytrach dderbyn bod amrywiaeth yn rhan o safon, a haenau yn rhan o brydferthwch. Dysgwn sut i symud rhwng yr haenau, er mwyn tyfu'n greaduriaid - yn genedl - yn iaith - fwy diddorol!
A darllenwn Gramadeg y Gymraeg - mae'n werth yr ymdrech!
Posta un commento