martedì, aprile 16, 2013

Bro Siarad a Bro Sgiliau

Mae 'na rai pobl yn anghytuno â'r datganiad "mae 'na ardal Gymraeg graidd yn bodoli" (sef, wrth gwrs, y Fro Gymraeg) gan licio mynnu, fel y dywedodd rhywun imi o'r blaen, "mae Caerdydd yn rhan o'r Fro Gymraeg erbyn hyn!"

Tydw i ddim am ddadlau am ba mor angenrheidiol ydi Bro Gymraeg yn y blogiad hwn o gwbl - fel y gwyddoch, dwi o'r farn ei bod yn hanfodol i ddyfodol yr iaith. Ac mae rhai pobl yn meddwl nad ydi hi'n bwysig o gwbl. Na, y cyfan dwisho neud ydi dangos dau fap i chi.

Dyma ddau fap. Yn y cyntaf, coch tywyll yw 70%, coch yw 50%, oren yw traean a melyn yw 20%.
Y cyntaf ydi, yn syml, 'gallu siarad Cymraeg'.


Byddai rhywun yn disgwyl i'r 'Fro Sgiliau' fod yn llai daearyddol ei naws - hynny ydi y byddai pocedi i'w cael y tu allan i'r ardal graidd yn y map uchod, ond wele'r Fro Sgiliau...

(coch tywyll 70%; coch 50%; oren 40%; melyn 30%)


Mae hwn yn eithaf rhyfeddol - hyd yn oed o ran sgiliau yn y Gymraeg mae 'na ardal bendant iawn a rhaniad gorllewin-dwyrain (gan mwyaf) gyda dim pocedi o bwys - a dim o gwbl yn y de-ddwyrain. Hynny ydi, mae o hyd ffin glir iawn iawn rhwng y Fro Gymraeg draddodiadol a'r ardaloedd di-Gymraeg o ran gallu ieithyddol, hyd yn oed pan fyddwch chi'n cynnwys ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn wan (sef dim ond 30% â sgiliau yn y Gymraeg - nid 'siaradwyr' cofiwch)

Tydw i'm am ddadansoddi dim o ran hyn, ond tuedda i awgrymu bod Cymru o hyd yn wlad ranedig o ran gallu ieithyddol, a ddengys yn glir nid o ran y Fro Gymraeg ei hun, ond y Fro Sgiliau.

5 commenti:

Ioan ha detto...

Lle ges ti'r mapiau - diddorol iawn. Dwi'n dychmygu basa 'na wahaniaeth mawr os basa ti'n cymharu mapiau efo pobl <40oed o'i gymharu a pobl>=40 oed.

Hogyn o Rachub ha detto...

Helo Ioan - gwneud y mapiau wnes i. Efallai y caf i gyfle i wneud mwy ohonyn nhw i'r grwpiau oedran gwahanol

Ioan ha detto...

Ydi'r map gwreiddiol mewn format vector (e.g. .svg), neu ti'n llythrenol gwneud 'fill' yn y .png?

Hogyn o Rachub ha detto...

PNG ydi'r gwreiddiol ... tydw i ddim hyd yn oed yn gwybod be 'di .svg sori - fedrai'm neud hi-tech!

Cai Larsen ha detto...

Difyr was.

Mae'n debyg bod hyn oll yn gwneud synnwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sydd a sgiliau ag eithrio siarad y Gymraeg yn 'deall' yr iaith. I ddeall yr iaith rhaid ei chlywed yn aml, ac i'w chlywed rhaid bod mewn ardal lle caiff ei siarad - hy y Gorllewin.