Mi geisiaf fod yn gryno,
serch hynny. Fe wyddoch mai am Fagi y bydda i’n sôn yn y blogiad hwn. Tydw i
ddim am amddiffyn Magi, afraid dweud. Tydw i ddim ychwaith yn coelio’n
ddieithriad na ddylid siarad yn ddrwg am y meirw. Roedd Magi yn ddynes ffiaidd.
‘Sdim pwynt imi ymhelaethu ar hynny – os ydych chi’n darllen hwn debyg ein bod
yn gytûn ein barn arni. Er na fedra i helpu â theimlo edmygedd amharod iawn am
ei phenderfyniad hi, fel gwleidydd roedd Magi yn wrthun imi.
Tydw i’n sicr ddim efo ots
bod Magi wedi marw.
Ond tydw i’n sicr ddim yn
dathlu.
Na, fedr rhywun f’oed i ac o’m
cefndir i ddim llwyr amgyffred â Thatcheriaeth yn ei hysblander erchyll, ddim i’r
graddau â rhai pobl yn sicr. Does dim yn bod â chasáu Thatcher am yr hyn a
wnaeth, chwaith, o ystyried nid o reidrwydd yr hyn a wnaeth, ond y ffordd y’i
gwnaeth. Does dim yn bod efo dweud ei bod yn hen gont er ei bod newydd farw,
chwaith. Mi oedd hi.
Ond fedra i ddim, nid gronyn
yn fy mod, ddathlu marwolaeth unrhyw unigolyn waeth pa mor afiach, ffiaidd
(nodwch eich ansoddeiriau’ch hyn os mynnwch) oedden nhw. A does dim lot o bethau ychwaith yn fy ngwneud
i mor wirioneddol anghyfforddus i’m craidd. Mae’n anodd gen i goelio fy mod i’n
lleiafrif yn hynny o beth – hyd yn oed yng Nghymru – ond mae meddwl fy mod i yn
peri mymryn o fraw imi. Fel y gwelwch o ffynonellau fel Twitter, Facebook, ond
hefyd efallai yn eich gweithle neu wrth siarad â ffrind, mae ‘na lot o bobl sy’n
hapus bod Magi Thatcher wedi marw. Tydi ymhyfrydu ddim yn air rhy cryf,
chwaith. Maen nhw’n falch ei bod yn farw. Rhyngddon nhw â’u pethau, amwni.
Es i fanylder mawr wrth gloi
jyst rŵan, cyn ceisio cronni popeth yn
baragraff. A dyma’r diweddglo ar ei gryno ffurf.
Thatcher greodd ein
cymdeithas fodern ym Mhrydain, ac i raddau mawr mae’n unigol nid cymunedol, yn anofalgar,
yn faterol eithriadol, yn coelio bod popeth heb werth ariannol yn ddiwerth, ac mewn
ffordd ryfedd – yn gas. Wedi'r cyfan, dyma'r gymdeithas lle nad oes dim sanctaidd mwyach, gan gynnwys bywyd. Yn syml, hi feithrinodd gymdeithas lle daethai’n dderbyniol i
ddathlu marwolaeth rhywun; ac yn digwydd bod hefyd ei marwolaeth hi. Teg dweud
felly ei bod yn iawn dathlu marwolaeth Magi Thatcher, achos hi â'n harweiniodd ni at y fan hon, at y gymdeithas hon, a’i gwnaeth yn
iawn gwneud hynny. Ond cofier drwy wneud hynny mae ‘na un gwirionedd, sydd imi
o leiaf, yn iasoer. Mae’n dangos mai Magi lwyddodd.
Nessun commento:
Posta un commento