Er bod lle i ddadlau ym mhob plaid wleidyddol werth ei halen, mae egwyddorion craidd y dylid cytuno arnynt. Ym Mhlaid Cymru, dyrchafu’r iaith ac annibyniaeth ydi’r ddau beth hynny. Dyna dwi'n ei feddwl eniwe. Dwi’n cytuno â’r rheiny o waelod calon, ond wedi amgyffred yn y gorffennol diffyg ewyllys ynghylch yr iaith ar adegau o du’r arweinyddiaeth. Rhyw deimlo oeddwn hefyd nad ydi’r drws yn agored ym Mhlaid Cymru i bobl sydd ar y dde wleidyddol. Tydw i ddim yn llwyr. O ran daliadau economaidd galla i bron â bod yn gomiwnydd, ond ar faterion cymdeithasol dwi’n geidwadwr mawr. Ddim at y graddau fy mod i isio saethu hipis ... dim ond rhoi slap iddynt a dwyn eu wîd.
Ond dydw i ddim isio trafod gwendidau na rhinweddau’r Blaid yma. Achos, yn y pen draw, 90% o’r amser mewn unrhyw etholiad, ymgeisydd y Blaid ydi’r un dwi isio iddo ennill. Ddim bob un tro, ond y mwyafrif llethol o weithiau.
A gan hynny, wrth gwrs mai Rhun ap Iorwerth ydw i’n ei gefnogi yn Ynys Môn, er nad oes gen i bleidlais. Roeddwn i’n un o’r rhai a amheuai’r sibrydion amdano’n ymgeisio, ond roeddwn i’n falch o glywed y byddai’n sefyll, ac ar ôl ei glywed ers hynny does dim amheuaeth ei fod yn ymgeisydd delfrydol i’r etholaeth honno. Ac yn ymgeisydd cryf. A, rhaid dweud, y math o ymgeisydd y dylai unrhyw blaid wleidyddol fod yn falch o’i gael. Y mae unrhyw un sy’n rhoi i’r naill ochr yrfa lwyddiannus – a chymharol hawdd, sori cyfryngis! – am yr hyn a dybiaf sy’n swydd anodd, ddiddiolch yn aml, ac am dâl llai mi dybiaf, yn union y math o berson y dylem eu croesawu yn y byd gwleidyddol. Ac mae Rhun ap Iorwerth y math o (ddarpar!) wleidydd sydd ei angen ar Blaid Cymru. Dim dowt. Dim dowt.
Y mae’r isetholiad hwn hefyd yn un pwysig tu hwnt – rhywbeth nad oes neb wedi rhoi dyledus sylw iddo. Mae’n penderfynu a gaiff Llafur fwyafrif yn y Cynulliad ai peidio. Mae’n brawf mawr o gymaint y mae’r gwynt yn hwyliau Plaid Cymru hefyd. Mae’n brawf i arweinyddiaeth Leanne Wood. Y mae hefyd, i raddau llai, yn brawf i’r Ceidwadwyr ac UKIP ac yn gipolwg (bach iawn) ar sut y gallai’r frwydr honno ddatblygu. Dyma isetholiad pwysig iawn.
 minnau felly ddim yn aelod o unrhyw blaid, gallaf wneud rhywbeth dwi’n licio’i wneud, sef mynegi fy marn yn rhydd, a chynnig safbwynt diduedd hefyd. Ga’i ganmol a beirniadu fel y mynnaf. Os ydych chi’n aelod o blaid wleidyddol, fodd bynnag, rhaid i chi fod yn fwy disgybledig.
Felly fel chi mi dybiaf, dwi’n anghrediniol o sut mae blog Syniadau wedi ymateb i ymgyrch Rhun ap Iorwerth dros yr wythnosau diwethaf. Dechreuodd drwy bwdu, yna dilorni, cyhuddo ymgeisydd ei blaid ei huno gelwydda ac, yn goron ar y cyfan, mae’n dweud heddiw y byddai’n drychineb pe câi ei ethol. Tydw i ddim erioed yn cofio aelod o blaid wleidyddol yn mynd ati’n gwbl fwriadol, mewn etholiad mor hanfodol bwysig â hwn, i danseilio’r ymgeisydd sy’n sefyll dros ei blaid ar bob cyfle posibl. Dim jyst unrhyw aelod ydi o chwaith, cyn belled ag y mae aelodau Plaid Cymru nas etholir yn y cwestiwn, does fawr amlycach dybiwn i. O ystyried y feirniadaeth lu y mae Syniadau wedi’i chynnig ar Dafydd Êl a’i ddiffyg disgyblaeth, y mae’n rhagrith o’r radd flaenaf.
A hyn i gyd dros un mater – Wylfa B – gwendid canfyddedig Plaid Cymru yn yr etholiad hwn y mae Llafur wedi bod yn pigo arno dro ar ôl tro. Pe na bai gan y Blaid ymgeisydd cystal, sydd wedi cyfleu ei weledigaeth yn glir ac yn onest, gallai Llafur fod wedi cael llawer iawn o sbort efo hyn. Yn lwcus, achos cryfder yr ymgeisydd hwnnw, mae’n ymddangos nad ydi Llafur wedi gwneud hynny. Yn wir, y mwyaf y maen nhw wedi sylwi na allan nhw danseilio ymgyrch y Blaid na Rhun ap Iorwerth drwy sôn am Wylfa B, y lleiaf y maen nhw wedi’i drafod.
Ond dyna ni, pam ceisio’i danseilio tra bod rhywun yn ei blaid ei hun yn gwneud hynny, gan ennyn sylw’r Western Mail a nifer ar Twitter yn y broses? Yn fy marn i, mae ymddygiad Syniadau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn warthus. Ychydig wythnosau y mae wedi’i gymryd imi fynd o fwynhau’r blog (er anghytuno ag o ar nifer o bynciau), i feddwl ei fod yn chwerthinllyd, yn blentynnaidd ac yn bwdlyd. Dwi'n eithaf sicr nad fi ydi'r unig un sydd wedi digio i'r diawl â fo.
A hefyd, mae’n sarhaus o’r ymdrech enfawr mae cynifer o aelodau’r Blaid – ac mi dybiaf rai pobl nad ydynt yn aelodau – wedi’i wneud dros yr wythnosau diwethaf i gefnogi ymgyrch y Blaid i gadw’r sedd. Y mae geiriau Syniadau gystal ymosodiad ar waith caled pob un wan jac ohonynt ag ydyw ar yr ymgeisydd ei hun.
Ta waeth...
Er fy mod i’n eithaf siŵr na fydd Rhun ei hun yn darllen, hoffwn ar lefel bersonol ddymuno pob hwyl iddo at yfory. Fo ydi’r ymgeisydd gorau i Fôn, ynys sy’n agos at fy nghalon innau hefyd. Bydd yn Aelod Cynulliad penigamp ac yn gynrychiolydd gwych i Sir Fôn – pobl Môn, nid Syniadau, a brofir yn iawn drwy ei ethol yfory.