lunedì, maggio 26, 2014

Sylwadau bras am etholiad neithiwr yng Nghymru

Y mae etholiadau Ewrop yn haeddu blogiad, cyfres o flogiadau efallai, manwl, ond dwi ddim am gynnig hyn y funud hon. Ond mi wna i gynnig sylwadau bras iawn, yn bennaf am berfformiad Plaid Cymru.

 

1)      Dylai’r Blaid gyfaddef nad oedd neithiwr yn ganlyniad da er bod sawl un eisoes yn ei gweld hi fel buddugoliaeth o ryw fath. Roedd y cyd-destun gwleidyddol efallai’n anffafriol ond y gwir ydi dihangfa gafodd hi, a waeth iddi gydnabod hyn (hyd yn oed jyst yn breifat). Mae’r Blaid yn arbenigo ar ei hargyhoeddi ei hun fod popeth yn iawn pan dydi o ddim, sydd jyst yn gwneud iddi edrych yn stiwpid, i fod yn hollol onest.

2)      Roedd y ddihangfa er gwaetha’r ffaith ei bod yn wybodaeth gyffredin y gallai golli ei sedd Ewropeaidd. Tuedda pleidiau i wneud yn well na’r disgwyl pan fônt yn y fath sefyllfa "cefn yn erbyn y wal". Hyd yn oed yn y fath sefyllfa, prin lwyddodd Plaid Cymru i argyhoeddi ei chefnogaeth graidd i fwrw pleidlais drosti, ac mae hynny'n arwyddocaol. Yn fwy arwyddocaol nag y bydd unrhyw un yn y Blaid yn fodlon ei gyfaddef yn gyhoeddus, yn sicr.

3)      Mae’n hollol deg dweud fod y Blaid yn cael trafferth ennyn sylw yn y wasg. Ond pan gafodd sylw wnaeth hi fawr ddim argraff. Dylai ailedrych ar ei naratif a’i hymgyrch dros y ddeufis ddiwethaf achos wnaeth hi ddim taro tant â phobl o gwbl.

4)      Ysgrifennais bwt ar y dacteg o ymosod ar UKIP yma. Dyma wnaeth PC bob cyfle a gafodd, fel plaid a hefyd fel ymgyrchwyr unigol (dwi’n colli cownt o faint o weithiau y gwelais geiriau Leanne Wood  am UKIP ar ddechrau’r ymgyrch yn gwneud y rownds ar y cyfryngau cymdeithasol). Roedd o’n gamgymeriad llwyr am amryw resymau a fu bron yn gostus tu hwnt.

5)      Yn dilyn o’r pwynt hwnnw, mae cwestiynau dwfn iawn yn codi am safon a doethineb arweinyddiaeth bresennol Plaid Cymru – y rhai sy’n pennu strategaeth y Blaid, y rhai sy’n llywio’r ymgyrch, ia, ond yr arweinydd ei hun hefyd. Cafodd ddegawd o arweinyddiaeth wan dan lywyddiaeth IWJ, a arweiniodd y Blaid drwy gyfnod bron yn ddi-dor o ddirywiad, a pharhau mae'r un patrwm heddiw. Heb fod isio codi gwrychyn neb, na sarhau neb ychwaith, yr argraff gref dwi’n ei chael gan bron pawb dwi’n siarad â nhw am hyn ydi nad ydi Leanne Wood yn ffit i’r job. Dynas dda, egwyddorol, hoffus – mae yn sicr ei heisiau yng ngwleidyddiaeth Cymru - ond dydi hi ddim yn arweinydd plaid wleidyddol. Dyna ni, dwi wedi’i ddweud o.

6)      Rhaid i’r Blaid hefyd gydnabod fod lefel y dadrithio ymhlith ei chefnogwyr yn gwbl gyffelyb â’r hyn sy’n effeithio ar y pleidiau eraill hefyd. Ni all feio neb arall am hyn ond am ei hun.

 
O ran y pleidiau eraill:
 

7)      Noson dda iawn i UKIP yng Nghymru. Dwi ddim yn siŵr a ydw i’n cytuno â’r ddamcaniaeth a arddelwyd neithiwr gan rai mai mewnfudwyr o Saeson sy’n gyfrifol am hyn, er does dim amheuaeth fod UKIP wedi ennill mewn rhannau o Gymru lle mae canran y bobl a aned yn Lloegr yn uwch. Gan ddweud hynny, ddaethon nhw’n ail yn y  Cymoedd hefyd – welodd neb mo hynny’n dod.

8)      Doedd o ddim yn noson dda i Lafur. Er gwaetha’r ffaith iddi ennill ryw 8% yn fwy nag etholiad ’09 roedd hynny o lefel hanesyddol isel. Hefyd, ac eithrio 2009, hwn oedd perfformiad gwaethaf y blaid Lafur yng Nghymru ers ymhell cyn yr Ail Ryfel Byd, sy’n werth cofio.  


2 commenti:

Richard ha detto...

Rhaid dweud fy mod i'n anghytuno ar eich dadansoddiad o'r ymgyrch. Darllenwch yr hyn mae Lee Waters a Mabon ap Gwynfor wedi'u hysgrifennu. Ar UKIP roedd Leanne yn hollol gywir i ymosod arnynt. Edrychwch am y feirniadaeth o fewn y Blaid Lafur achos methiant y blaid honno i wneud hynny.

Roedd hefyd neges clir a positif am bwysicrwydd yr UE i Gymru a'n economi. Da iawn i Jill, Leanne a'r holl dîm PC.

Hogyn o Rachub ha detto...

Dwi am ymateb i hyn yn llawn.

Wnaeth ymosod ar UKIP ddim i Blaid Cymru ... na'r un blaid arall. Mae 'na resymau am hyn, a dwi wedi'u hamlinellu o'r blaen: cadarnhau pleidlais UKIP ddaru pob ymosodiad. Awgryma'r ffaith i bleidlais i Blaid ostwng, er y cynyddodd y nifer a bleidleisiodd fymryn, fod y dacteg o apelio at Dems Rhydd a Gwyrddion heb weithio chwaith.

Perfformiad cryf UKIP, a hynny'n unig, sicrhaodd sedd i Blaid Cymru, drwy atal Llafur. Doedd hynny ddim yn rhan o'r strategaeth fyth! Tasa Nhw heb wneud cystal fyddai gan PC ddim sedd. Dihangfa ydi hynny, dim llai.

Mae'r patrwm hefyd yn bwysig. Ar ei lawr y mae'r Blaid ers blynyddoedd - boed hwn yn etholiad 'eithriadol' ai peidio. Dylai hyn beri lot mey o ofid nag y mae iddi, a hynny yn annibynnol ar ffactorau fel diffyg sylw yn y wasg. Dydi'r pydredd unwaith eto heb ei atal.

Dwi dan yr argraff gref fod yr arweinyddiaeth (nid yr arweinydd ei hun yn annibynnol o bawb arall) yn rhan fawr o'r broblem. Dwi'n dallt fod hyn ddim yn beth gwyddonol i'w ddweud, ond mae mwyafrif llethol y bobl dwi'n eu nabod yn pleidleisio i'r Blaid. Y mae mwyafrif llethol y rhai dwi wedi trafod gwleidyddiaeth â nhw heb unrhyw ffydd yn yr arweinyddiaeth bresennol o gwbl,dwi ddim yn ei chofio mor ddrwg yn nyddiau IWJ hyd yn oed.

Dyma gefnogwyr y Blaid gyda llaw, nid aelodau, ac maen nhw'n drawsdoriad digon eang o bobl.

Mae angen arweinyddiaeth gref iawn ar blaid fechan. Does gan PC ddim o'r fath beth ers blynyddoedd maith.