domenica, luglio 06, 2014

Breuddwyd Nain

"Roedda ni am fynd ar ein gwyliau. Chdi a fi a dy chwaer a Blodwen. Dyma fi'n pacio fy siwtces ac roedd o'n fawr a 'ma fi'n cael traffarth fynd â fo i'r giât. Aros am y bws oedda ni yn Llansadwrn a dyma fi'n edrych yn ôl i fyny'r lôn wrth iddo fo gyrradd at Pros Kairon ac roedd y gath 'di dod lawr efo fi. Wel to'n i'm am fynd ar ngwyliau efo'r gath a dyma fi'n deud hynna wrthi ac wedyn o'i i'n poeni 'sa hi'n rhedag i'r lôn.

"Mae 'na drafferth efo'r anifeiliaid 'ma," meddwn i wrth Blod.

"Wn i," medda hi, "mae gen i iâr ac mae honno'r un fath".

A dyma ni'n mynd ar y bws wedyn ar ein holidês."

7 commenti:

Cai Larsen ha detto...

Lle di Pros Kairon Jason?

Hogyn o Rachub ha detto...

Fferm yn Ardal Llansadwrn - hen fferm y teulu lle magwyd fy Nain a'i brodyr a'i chwiorydd. Heb fod yno ers blynyddoedd maith iawn.

Cai Larsen ha detto...

Roedd perthnasau i mi efo ty o'r un enw yn C/narfon. Roedd gwraig y ty yn dod o ochrau Pesda.

Hogyn o Rachub ha detto...

Teulu Sir Fôn fi ddim i wneud â Pesda - mae na ambell i Bros Kairon o amgylch y lle, ma'n golygu rhywbeth mewn hen Roegeg, enw difyr ar fferm yng Nghymru os felly!

henafr ha detto...

"Am amser" neu "Am amser byr" ydi "pros kairon".

Enw da am B&B yng Ngriccieth (yn wir!), ond enw theolegol iawn am fferm.

henafr ha detto...

Nghriccieth!

Anonimo ha detto...

Mae yna ardal o'r enw 'Procairon' yn Wisconsin, wedi ei enwi ar ol cartref rhywun a fudodd o Deiniolen tua 1850. Yr oedd o'n sefyll wrth ymyl lle mae eglwys Llandinorwig rwan.