Fydda i ddim yn wir yn hoffi
ysgrifennu am rywun na fu i mi erioed gwrdd â nhw rhag imi swnio’n arwynebol
neu’n ffuantus. Ond heddiw bu farw
Gerallt Lloyd Owen, a dwi’n teimlo rhyw reidrwydd i ddweud pwt.
Dwi’n cofio’n iawn dysgu am
farddoniaeth Gymraeg yn yr ysgol. Dwi’n siŵr nad oedd pawb yn licio
barddoniaeth i’r un graddau â fi (a dwi ymhell o fod yn arbenigwr o unrhyw fath
ar farddoniaeth cofiwch) ond ro’n i wrth fy modd yn bersonol. Ond cofiaf pan
ofynnai athro pwy oedd ein hoff fardd o’r hyn a astudiem, roedd ateb y dosbarth
yn gwbl unfrydol bob tro: Gerallt Lloyd Owen.
Egin genedlaetholwr
oeddwn i pan ddarllenais Fy Ngwlad am y tro cyntaf erioed. Ro’n i wedi
gwirioni arni. Roedd o fel petai’n adrodd rhywbeth wrthyf a anghofiais ond na wyddwn erioed amdano. Go
brin fod unrhyw linell unigol yn holl lenyddiaeth y Gymraeg sydd drwy ryw fodd
yn deffro’r Cymro greddfol yn rhywun na Wylit, wylit, Lywelyn ... a
hynny heb, ar ei phen ei hun, olygu unrhyw beth o gwbl.
Mae rhywbeth am gerddi Gerallt
sydd rywsut yn deffro rhywbeth ym mêr yr esgyrn. Fedra i ddim hyd heddiw roi fy
mys ar y peth. Arddelant genedlaetholdeb y pridd – y gwladgarwch greddfol a rhyfedd
hwnnw sydd i’w gael ymhlith ni’r Cymry Cymraeg – nid un yn seiliedig ar resymeg oeraidd na maniffesto
nac, efallai, synnwyr cyffredin llawer o’r amser, ond y cariad dwfn hwnnw y
gall dyn ei deimlo at ei dir, ei bobl a’i iaith sydd mor naturiol â charu mam.
Nid bod yn perthyn i rywbeth nac uniaethu ag ef ond ymdoddi iddo.
A, rhag i mi gamgyfleu fy
hun, mae hyn yr un mor wir am ei gerddi nad ydyn nhw’n rhai gwladgarol neu
genedlaetholgar. Mae’r naws ynddyn nhw hefyd. Ond i mi ei gerddi am Gymru bob
amser ydi’r rhai dwi’n troi atynt dro ar ôl tro.
Mae beirdd dirifedi wedi
llwyddo i gyfleu cariad at Gymru a’i phethau, ond nid oes yr un ohonynt wedi gwneud
yr hyn a wnaeth Gerallt. Do, gwnaeth hynny. Ond nid drwy fawlganu iddi Hi wlad
y gân neu Walia wen. Nid drwy ei throsi’n winllan na dweud mai yma fydd Hi hyd
Ddydd y Farn.
Yr hyn lwyddodd Gerallt i’w
fynegi oedd y boen ddofn, fyw honno sy’n aml yn cyd-fynd â bod yn Gymro Cymraeg.
Bod yn rhan o hen hil ar gyrion. Ac mor braf ydi’r gydnabyddiaeth honno yn lle
cael ein llesteirio’n gyson â meddwl bod popeth yn iawn. Roedd yn rhyddhad
clywed gwirionedd moel. Roedd yn rhyddhad darllen y gwewyr hwnnw ar bapur. A thrwy
hynny, nid gyrru neb i bwll o anobaith a wnaeth, ond atgyfnerthu eu gwydnwch.
Bydd y teimladau a ysgytia
cerddi Gerallt yn dragwyddol, hyd yn oed os, ar ddiwedd ein cân, na fyddwn
ninnau.
Am golled i Gymru Gymraeg
ydi Gerallt Lloyd Owen. Ond, Iesgob, roedden ni ar ein hennill o’i gael.
Nessun commento:
Posta un commento