Heb isio mynd yn ôl gormod mewn hanes – dyma sut mae’r Ceidwadwyr wedi gwneud ers trychineb 1997.
Etholiad
|
Pleidleisiau
|
Canran
|
Seddi
|
1997
|
317,145
|
19.6
|
0
|
2001
|
288,623
|
21.0
|
0
|
2005
|
297,830
|
21.4
|
3
|
2010
|
382,730
|
26.1
|
8
|
Dwi’n meddwl ei fod yn deg dweud, erbyn 2010, roedd y Ceidwadwyr yn agos at wneud cystal ag y gallen nhw ddisgwyl ei wneud yng Nghymru y dyddiau hyn. Ar yr un olwg mae ystadegau 2010 yn rhai calonogol iddynt ond byddai hynny braidd yn gamarweiniol. Rhaid cofio, hon yw’r blaid gafodd hanner miliwn o bleidleisiau yng Nghymru, bron ar ei ben, mewn pedwar etholiad o’r bron rhwng 1979 a 1992. Erbyn heddiw, mae’n anodd iawn gweld y Ceidwadwyr yn gwneud cystal yng Nghymru byth eto.
Er, tydi’r patrwm yn y tabl uchod ddim yn unigryw. Mae’r bleidlais Geidwadol wedi cryfhau’n gyson yn etholiadau’r Cynulliad hefyd, gan godi o lai na 16% ym 1999 i bron 23% yn 2011. Y mae’r craidd Torïaidd i’w weld eto’n un gweddol gadarn, er nid yn un enfawr.
Ond o ran heddiw, yn hytrach na ddoe, roedd 2010 yn ganlyniad da i’r Ceidwadwyr, er yn bosib hoffen nhw fod wedi gwneud fymryn yn well o ran seddi. Serch hynny, mae’r Ceidwadwyr mewn llywodraeth ers bron pum mlynedd erbyn heddiw. A dydi hon ddim yn glymblaid boblogaidd. Mae’r blaid leiaf ynddi’n cael ei waldio yn y polau. Felly byddai disgwyl i’r Ceidwadwyr fod ar drai dirfawr yn y polau.
Wele dabl, wele ddifyrwch.
|
Ceidwadwyr
|
UKIP
|
Llafur
|
Etholiad 2010
|
26.1%
|
2.4%
|
36.2%
|
Polau Cymreig 2012-2013
|
22.9%
|
8.3%*
|
49.9%
|
Polau Cymreig 2014
|
23.4%
|
13.0%
|
40.9%
|
Mae’r gefnogaeth i’r Ceidwadwyr, fel sydd wedi cael
ei ddweud mewn blogiau eraill o’r blaen, wedi bod yn rhyfeddol tu hwnt o
sefydlog. Cefnogaeth Llafur sydd i’w gweld yn chwalu, gydag UKIP ar gynnydd.
Roedd cefnogaeth UKIP ym mhôl olaf eleni 8% yn uwch na’r un adeg y llynedd,
gyda Llafur 10% yn is, a’r Ceidwadwyr 2% yn uwch. A dyna’r duedd a fu yn mholau
Cymreig eleni o ddechrau’r flwyddyn hyd ei therfyn; UKIP ar gynnydd, Llafur ar
drai, y Ceidwadwyr yn dal eu tir. Y mae’r rhyng-gysylltiad, fel petai, rhwng sgorau
pôl y tair plaid hyn yng Nghymru yn rhyfeddol o ddifyr. Pan ddywedodd Nigel
Farage, “There’s something happing in Walesthat I don’t fully understand”, dwi’n unfarn â fo.
Yr awgrym cryf ydi bod gogwydd mawr o Lafur i UKIP
yn digwydd yng Nghymru, a bod y gogwydd oddi wrth y Ceidwadwyr yn llai,
efallai’n wir yn sylweddol lai. Ond wrth gwrs, fel y crybwyllais uchod, problem
y Ceidwadwyr ydi bod eu seddi nhw’n llawer, llawer mwy tebygol o gael eu colli,
yn syml am fod y mwyafrifau’n llai, a bod demograffeg rhai o’r seddi a gadwant
yn eithaf ffafriol i UKIP amharu ar eu gobeithion o’u cadw.
Sedd
|
Mwyafrif
|
Ail blaid yn 2010
| |
Mynwy
|
10,425
|
22.4%
|
Llafur
|
Gorllewin Clwyd
|
6,419
|
16.8%
|
Llafur
|
Preseli Penfro
|
4,605
|
11.6%
|
Llafur
|
Bro Morgannwg
|
4,307
|
8.8%
|
Llafur
|
Aberconwy
|
3,398
|
11.3%
|
Llafur
|
Gorll. C’fyrddin a De Penfro
|
3,423
|
8.5%
|
Llafur
|
Trefaldwyn
|
1,184
|
3.5%
|
Democratiaid
Rhyddfrydol
|
Gogledd Caerdydd
|
194
|
0.4%
|
Llafur
|
O edrych yn fras ar yr uchod, mae’n anodd dadlau,
dwi’n meddwl, mai’r Ceidwadwyr ydi’r ffefrynnau clir iawn mewn pedair – Mynwy,
Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro a Threfaldwyn (a hynny am resymau penodol yn
ymwneud â’r etholaeth honno). Mae’r mwyafrif ym Mynwy yn rhy fawr i Lafur ei oresgyn fel y saif pethau, a thybia rhywun y bydd David Jones, Stephen Crabb a
Glyn Davies oll yn ddiogel diolch yn bennaf i bwy ydyn nhw. Dwi’n hapus y funud
hon i alw pob un o’r seddi hynny i’r Ceidwadwyr.
Ar yr un pryd, does ‘na ddim wir amheuaeth y bydd y
Ceidwadwyr yn colli Gogledd Caerdydd – roedd pôl etholaeth yr Arglwydd Ashcroft
ym mis Mai yn awgrymu bod y Ceidwadwyr ar ei hôl hi 40 i 33 pwynt canran i
Lafur. Teimla rhywun, er bod Llafur o hyd yn gwanychu yn y polau Cymreig, nad
oes ffordd yn ôl yma.
Mae Ashcroft yn eithaf handi pan ddaw i edrych ar
etholaethau unigol – rhyddhawyd pôl arall (sydd â manylion hynod ddifyr
ynddo os ewch chi drwy’r ffigurau) fis yma, ond hynny am Orllewin Caerfyrddin a
De Penfro. Awgryma gwymp sylweddol ym mhleidlais y Ceidwadwyr, a chynnydd
sylweddol i UKIP, ond gyda’r gefnogaeth i Lafur yn segur (yn wir, fymryn yn is
nag yn 2010) yno, maen nhw’n edrych fel cadw’r sedd. Fodd bynnag, ym mis
Rhagfyr rydyn ni hefyd wedi gweld Llafur yn ymestyn y bwlch dros y Ceidwadwyr
yn y polau Prydeinig. Sedd arall ydi hon sy’n gwbl, gwbl ddibynnol ar oddi ar
bwy mae UKIP yn denu eu cefnogaeth.
Gadewa hynny ddwy sedd arall, sef Bro Morgannwg ac
Aberconwy, dwy sedd lle byddwn i’n tybio bod UKIP am ddenu mwy o bleidleiswyr
Ceidwadol na Llafur. Yn ôl yn 2007, safodd UKIP ym Mro Morgannwg gan ennill
dros 2,000 o bleidleisiau, a thybiodd lawer bryd hynny, heb eu hymyrraeth nhw,
mai’r Ceidwadwyr fyddai wedi mynd â hi (os cofiwch chi, Llafur enillodd o 83
pleidlais).
Mae hefyd bleidleisiau i UKIP yn Aberconwy – mae demograffeg
y sedd yn awgrymu hynny’n ddiamheuaeth. Dybiwn i fod gobeithion y Ceidwadwyr o
gadw’r ddwy sedd hyn yn cymharu rhywfaint â Gorllewin Caerfyrddin – maen nhw am
golli miloedd o bleidleisiau i UKIP, ond os gall UKIP hudo hyd yn oed rai
cannoedd gan Lafur, gallai fod yn ddigon.
Dybiwn i fod Aberconwy’n fwy diogel na Bro
Morgannwg ar y funud. Mae pleidleisiau i’w hennill a’u colli i bob cyfeiriad yn
Aberconwy, ond ras rhwng dau ydi Bro Morgannwg, fydd efallai’n gwasgu ar
bleidleisiau fymryn yn fwy. Cawn weld.
Mae UKIP, fodd bynnag, yn broblem fawr i’r
Ceidwadwyr yng Nghymru. Os bydd UKIP yn denu digon o bleidleisiau ganddynt yng
Ngorllewin Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Aberconwy a hyd yn oed, ar ddiwrnod da
iddynt, Gorllewin Clwyd, gallai’r seddi hyn gael eu colli. Dydi’r gwrthwyneb
ddim yn wir o ran Llafur – bydd Llafur yn colli degau o filoedd o bleidleisiau
i UKIP hefyd, ond ni welaf unrhyw sedd yng Nghymru lle mai’r Ceidwadwyr sydd
debycaf o fanteisio ar hynny.
Petaem ni’n byw mewn hinsawdd wleidyddol
gyffredinol, mae ‘na ambell sedd arall y tu allan i’r wyth sydd ganddynt lle
gallai’r Ceidwadwyr fod yn gystadleuol. Ond fel ag y mae hi, hyd yn oed petaent
yn cadw pob un o’r seddi uchod, dim ond un sedd y gallen nhw gobeithio ei
chipio eleni, sef (fel y trafodais wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol)
Brycheiniog a Maesyfed. Awgryma Ashcroft nad ydi hynny am ddigwydd. Dwi’n
tueddu i feddwl, yn y sedd benodol honno yn yr etholiad penodol hwn sydd ar y
gorwel, mai job y Ceidwadwyr ydi cynnal eu pleidlais graidd. Job syml, anodd
fydd hynny, ond gallai fod yn ddigon a throi Powys gyfan yn las.
Serch hynny, fel hyn dwi’n ei gweld ar y Ceidwadwyr
y tro hwn. O’u hwyth sedd bresennol, ond eu hanner sy’n ddiogel, maen nhw’n
debygol o ennill mewn dwy (Aberconwy a Gorll. C’fyrddin), yn debygol o golli un
(Bro Morgannwg) ac yn sicr o golli un (Gog. C’dydd). Os ydyn nhw’n dal eu tir
yn y polau Cymreig – efallai’n ennill rhyw ganran neu fwy yn genedlaethol nag
sy’n cael ei awgrymu yn y polau – gallai hynny fod yn ddigon i gadw 7 o’u seddi
a chipio un.
Pa beth bynnag eu ffawd yn 2015, mae dyddiau duon
’97 a ’01 yn hen, hen hanes erbyn hyn. Y mae’r blaid Geidwadol yma i aros am
sbel.
Yn y flwyddyn newydd byddaf yn dadansoddi
gobeithion Plaid Cymru.
1 commento:
Cytuno â llawer o'r dadansoddiad ond o'r farn bod David Jones yn fwy o faich nac o fantais i'r Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd.
Posta un commento