martedì, gennaio 27, 2015

Proffwydo 2015: Llafur

O holl bleidiau Cymru, yr hawsaf a'r diflasaf i ddarogan ei chyfleoedd yn llwyddiannus ydi Llafur. Dwi am ddangos i chi fap yn syth o sut dwi’n gweld gobeithion Llafur yn 2015.



Fel y gwelwch, yn fy marn i, mae Llafur yn gwbl sicr o ennill 26 (65%) o seddi Cymru. O’r rhai dwi wedi eu nodi fel seddi ‘posibl’ i Lafur, dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud bod Llanelli bron yn sicr o aros yn goch, ac mai Llafur sydd yn ffefrynnau ym Môn, a dybiwn i fod pethau’n rhy agos i’w galw ym Mro Morgannwg ac Aberconwy. Fel y dywedais wrth ddarogan gobeithion Plaid Cymru, dwi ddim yn meddwl bod Arfon yn ddiogel.

Dyma olwg sydyn ar berfformiad Llafur mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru ers 1997.

 
Etholiad
Pleidleisiau
Canran
Seddi Cymreig
1997
886 935
54.7
34
2001
666 956
48.6
34
2005
594 821
42.7
30
2010
531 601
36.2
26

 

Does dwywaith am y ffaith fod cefnogaeth y blaid Lafur yng Nghymru wedi chwalu ar y lefel hon dros y blynyddoedd. Collodd Llafur dros 350,000 o bleidleisiau rhwng 1997 a 2010, gyda’i chanran o’r bleidlais yn gostwng 18.5%. Er cymhariaeth, mae’r dirywiad hwnnw bedair gwaith yn waeth na Llafur yn yr Alban dros yr un cyfnod (46% ym 1997; 42% yn 2010).

Wrth gwrs, bydd pethau’n wahanol yn yr Alban eleni, ond mae un rheswm mawr am hynny. Cryfder anferthol Llafur yng Nghymru ydi bod ei gwrthwynebwyr yn gwbl ranedig, i’r fath raddau byddai’n rhaid i Lafur ddisgyn i tua 30-31% o’r bleidlais yng Nghymru cyn iddi wirioneddol ddechrau colli seddi ... ac a dweud y gwir, gallai fod angen iddi wneud yn waeth na hynny. Yn yr Alban, yr SNP ydi’r unig wrthwynebiad clir i Lafur. Mae’r sefyllfa yng Nghymru’n gwbl wahanol. Ers 1997, ni fu ond pedwar achlysur pan gafodd plaid ond am Lafur dros chwarter y bleidlais yng Nghymru – Plaid Cymru ddwywaith ym 1999, y Ceidwadwyr yn 2010, ac UKIP yn 2014.

Yn syml, mae Llafur yn teyrnasu yng Nghymru nid am ei bod yn sylfaenol gryf na gwydn, ond am fod ei gwrthwynebwyr yn bur lipa. Fesul plaid, dyma mewn difri yw pa mor hawdd yw’r her sy’n wynebu Llafur eleni o'u tu:

 

1)     Y Democratiaid Rhyddfrydol: petaen nhw heb glymbleidio bum mlynedd yn ôl debyg y byddai’r Dems Rhydd yn herio Llafur mewn ambell sedd eleni. Ond nid felly a fu. Bydd Llafur yn cipio Canol Caerdydd ganddyn nhw’n ddidrafferth ac yn ennill miloedd o bleidleiswyr a fenthyciodd bleidlais i’r Dems Rhydd nid yn unig yn 2010 ond dros y degawd diwethaf. Mae’r bygythiad byrhoedlog wedi diflannu’n llwyr.

2)     Ceidwadwyr: gallai Llafur gipio hyd at bedair sedd gan y Ceidwadwyr yn fy marn i, a dydyn nhw ddim yn bygwth Llafur yn unman. Y gwaethaf all ddigwydd i Lafur o ran her y Ceidwadwyr yw y bydd yn colli digon o bleidleisiau i UKIP i beidio ag ennill rhai seddi gan y Ceidwadwyr.

3)     Plaid Cymru: cipio Afon yn bosib, colli Môn yn bosib. Tu allan i’r ddwy sedd hynny ni fydd unrhyw fath o fygythiad o du’r Blaid i Lafur – ar ôl meddwl yn ddwfn am y peth, dwi’m yn meddwl y bydd cynnwys Leanne Wood yn y dadleuon teledu o reidrwydd yn newid hynny.

4)     UKIP: ennill pleidleisiau gan Lafur yn eu degau o filoedd ond ddim digon i ennill seddi. Y cyfan wnaiff UKIP ydi amharu ar Lafur, wnaiff hi mo’i bygwth. Ac mi fydd hi’n destun cysur i Lafur y bydd UKIP hefyd yn effeithio ar y Ceidwadwyr ac, i raddau llai, Plaid Cymru. Y cyfan mae UKIP yn ei wneud ydi gwneud y gwrthwynebiad i Lafur yn fwy rhanedig.

 
Petasai un gwrthwynebydd cryf i Lafur yng Nghymru, dybiwn i y cilia’r blaid hyd yn oed yn fwy dramatig na Llafur yr Alban. O ystyried y blaid ar ei phen ei hun, dydi Llafur yng Nghymru ddim mewn lle da; nid o ran aelodau, gwirfoddolwyr, trefniadaeth. Ac eto, yn bersonol, alla i ddim gweld o ba gyfeiriad y deuai’r fath her iddi mewn gwirionedd – yr unig blaid allai o bosib gynnal her ydi Plaid Cymru ac mae hi wedi ei phrofi’i hun yn gwbl analluog o wneud hynny dro ar ôl tro. Y gwir plaen ydi, mae lle o hyd i Lafur barhau i ddirywio a pharhau i dra-arglwyddiaethu yng ngwleidyddiaeth Cymru ar yr un pryd.
 
Daw hynny â ni at y polau. Dair blynedd yn ôl, ym mholau Cymreig 2012, ni chynhaliwyd ond 5 arolwg barn ond cafodd Llafur dros hanner y bleidlais ym mhedwar o’r rheiny. Ar gyfartaledd cafodd 50.4% o’r bleidlais – ni fu ond tair arolwg barn yn 2013 ond dangosai’r rheiny cgfnogaeth o 48% iddi ar gyfartaledd. Felly llai na dwy flynedd yn ôl, ymddengys nad oedd y gefnogaeth i Lafur yng Nghymru fawr lai nag ym 1997. Wedi hynny mae’r gefnogaeth iddi wedi bod yn gyson ac yn gyffyrddus dan 40%.
 
Hynny ydi, ymddengys fod Llafur ar drai yng Nghymru, ond dwi'n ailadrodd, does neb i fanteisio ar hynny. Hyd yn oed ar y raddfa hon, bydd hi'n rhai blynyddoedd nes i ddirywiad Llafur yng Nghymru arwain at newid y tirlun gwleidyddol.
 
Serch hynny, dybiwn i y gwelwn ni ailadrodd, i raddau o leiaf, yr hyn a ddigwyddodd yn 2010, pan adfywiodd cefnogaeth Llafur ar ddiwrnod yr etholiad ei hun. Hyd yn oed yn 2015, mae’r bwgi bo Ceidwadol yn ddigon i ddenu’r hen gefnogwyr allan i fwrw pleidlais eto fyth dros Lafur. Efallai'n llai nag o'r blaen, ond mae'n hen dacteg lwyddiannus sydd heb â methu byth.
 
Mae’n rhy fuan i feddwl pa effaith a gaiff y dadleuon teledu ar obeithion Llafur na’r un blaid arall. Ond mae un peth yn sicr – mi fydd Llafur eto’n ennill mwyafrif helaeth seddi Cymru. A thra bod ei gwrthwynebwyr yn parhau i fod mor boenus ddi-glem ynghyd â sut i’w disodli, parhau fydd y sefyllfa honno heb i Lafur orfod poeni dim. 

Nessun commento: