Mae’r Blaid wedi penderfynu ailafael yn strategaeth etholiad 2010, sef dweud gan fod senedd grog yn yr arfaeth y bydd ganddi o bosibl ran i’w chwarae wrth ddylanwadu ar liw’r llywodraeth nesaf. Rŵan, dydi hynny ddim yn anwir, er y gwir plaen ydi na weithiodd y dacteg o gwbl tro diwethaf – y mae’r Blaid yn draddodiadol yn gwneud yn dda pan mae pethau’n mynd o chwith i Lafur ond yn 2010 cafodd ei chanran isaf o’r bleidlais mewn etholiad cyffredinol ers 1997, ac enillodd hi fwy o seddi bryd hynny.
Rŵan, mae deinamig etholiad 2015 ychydig yn wahanol. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ar drai. Yn eu lle, mae UKIP yn gwneud yn dda iawn yn y polau Prydeinig, ac mae’n bosibl y caiff yr SNP ddegau o seddi. Lle mae hynny’n gadael y Blaid? Mae hwn yn gwestiwn dyrys iddi. I fod yn onest, dwi ddim yn siŵr beth ydi’r ateb.
Rhaid bod yn realistig. Y mae chwe sedd y gallai Plaid Cymru, petai’n cael etholiad eithriadol o dda, eu hennill. Yn rhai o’r seddi hynny mae’r ymgeiswyr i’w gweld yn hynod o optimistaidd, ond dwi heb goelio’n ddi-gwestiwn optimistiaeth ymgeiswyr ers rhai blynyddoedd; maen nhw’n tueddu i fod yn anghywir.
Er hynny, roedd fy marn pan ddechreuais lunio’r blogiad hwn yn wahanol i’r hyn ydyw rŵan, hynny ydi, dwi'n fwy optimistaidd ar ei rhan hi. Mae ‘na bethau digon rhyfedd wedi digwydd ar y marchnadoedd betio ers hynny, ymddengys fod y Blaid yn gweld ei ods hi’n gwella mewn sawl sedd. Eto dydi hi ond yn ffefryn mewn tair, sef y tair sydd ganddi.
Daw hyn â ni at y map.
Fedra i bron teimlo pleidwyr yn anghytuno â’r uchod. Ond dwi am roi ychydig sylwadau ar seddi unigol. Dwi ddim yn meddwl y byddai neb yn dadlau fod gan Blaid Cymru unrhyw obaith o gwbl y tu allan i’r chwe sedd y byddaf yn cynnig sylwadau arnynt.
Dwyfor Meirionnydd
Oce, wna i ddim rhoi sylwadau ar y sedd hon. Liz Saville fydd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru.
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Doedd mwyafrif Jonathan
Edwards ddim mor fawr ag yr oeddwn i wedi tybio y byddai yn ôl yn 2010 – a
dweud y gwir roedd yn sylweddol lai. Ond dylai lwyddo i gadw’r sedd hon, ac
yntau hefyd yn AS eithaf amlwg am 5 mlynedd erbyn hynny.
Arfon
Dwi ddim yn meddwl bod rhai
pobl yn gwerthfawrogi pa mor agos oedd Arfon y tro diwethaf. Mae’n ffaith mae
ambell bleidiwr yn hoffi ei hanwybyddu. Mewn difri, dylai Plaid Cymru ei chadw,
ond mae hynny’n bennaf am fod Llafur yn gwneud yn weddol wael ar lefel
genedlaethol o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl, heb sôn am y ffaith fod Llafur yn
lleol yn siop siafins. Er hynny, dwi’n disgwyl, wrth nesáu at yr etholiad, y
bydd cefnogaeth Llafur yn adfer o leiaf fymryn, ac felly byddwn i’n tybio nad
ydi Arfon yn sedd sicr i’r Blaid. Mewn ffordd, Arfon ydi’r sedd bwysicaf i
Blaid Cymru yn yr etholiad hwn. Byddai ei cholli yn ganlyniad cwbl drychinebus;
ei chadw’n arwydd o wydnwch.
Yr hyn ddylai wneud y Blaid
yn anesmwyth yma ydi pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol – roedd o’n 14.1% yn
2010. Mae’n annhebygol y bydd digon o’r rhain yn troi at Lafur y tro hwn i
gipio’r sedd, ond os bydd gogwydd cyffredinol atynt yma, dydi o ddim yn
amhosibl.
Ynys Môn
Ynys Môn ydi best bet Plaid Cymru o gipio sedd (fel
arfer, am wn i!). Ond mae pethau’n ffafriol y tro hwn mewn sawl ystyr. Mae
Plaid Cymru wedi cael dwy flynedd dda yma, gan wneud yn dda yn etholiadau’r
cyngor sir, cyn i Rhun ap Iorwerth fynd ymlaen i sicrhau buddugoliaeth
wirioneddol enfawr yma y llynedd yn yr isetholiad Cynulliad. Y ddau dro hynny, gwnaeth Llafur – sy’n dal y
sedd wrth gwrs – yn rhyfeddol o wael.
Dydi hynny ynddo’i hun ddim
am sicrhau’r sedd i’r Blaid wrth gwrs. Fydd yna ddim mo’r llu wirfoddolwyr yn
dod i helpu fel yn 2013. Ac mae Albert Owen yn AS poblogaidd, ac wedi llwyddo i
gipio a chadw’r sedd, yn amlach na pheidio yn erbyn y disgwyl, ers dros
ddegawd.
Gobaith mawr Plaid Cymru
yma, yn syml, ydi UKIP. Yn ôl pob sôn a phob si mae disgwyl i UKIP wneud yn dda
yn ardal Caergybi ac Amlwch (ac mae tystiolaeth – anecdotaidd gen i yn anffodus
– eu bod wedi yn 2013 a 2014), sef cadarnleoedd Llafur Ynys Môn. Os ydyn nhw’n
gwneud cystal yn yr ardaloedd hyn ag y mae rhai’n disgwyl iddynt ei wneud,
mae’n bosibl y bydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau i golli’r sedd. Ond
peidiwch â meddwl bod hynny’n ddigon – mae’n rhaid i Blaid Cymru hefyd
amddiffyn ei phleidlais, er i raddau llai. Efallai ei bod yn anghysurus i rai Pleidwyr
ei glywed, ond mewn sedd fel Môn mae ‘na o leiaf rai cannoedd dybiwn i o
gefnogwyr arferol y Blaid fyddai o leiaf yn ystyried pleidleisio dros UKIP. Greddf
sy’n dweud hynny i mi yn fwy na dim, gyda llaw, ond dwi’n gwybod bod ‘na
Bleidwyr sy’n cytuno â fi yn hyn o beth.
Byddwn i dal yn tybio mai
Llafur sy’n ffefrynnau yma. Ond dydi Môn ddim y tu hwnt i Blaid Cymru o bell
ffordd.
Llanelli
Mae ymgyrch y Blaid yn
Llanelli yn cael rhywfaint o sylw – ymddengys yn un fywiog a gweithgar. Ar yr
un olwg dydi mwyafrif Llafur yma ddim yn enfawr, ac mae’r Blaid ar y cyfan yn
cryfhau yn yr ardal ers degawd a mwy erbyn hyn. Ac wrth gwrs, dros y mis
diwethaf mae Ladbrooks wedi lleihau’r ods ar fuddugoliaeth i Blaid Cymru yma o 16/1
i 5/1, sy’n symud mawr.
Fel ym Môn, mae rhai yn gobeithio y bydd UKIP yn hudo digon o Lafurwyr i’w corlan i adael y Blaid i mewn “drwy’r canol”, ac mae llawer o sôn fod UKIP yn denu cefnogaeth eithaf cadarn yma. Dwi’n tueddu i feddwl fod ‘na elfen fawr o or-optimistiaeth yn hyn o beth. Geisia i egluro pam yn gryno iawn.
Mae’r Blaid wedi denu Llafurwyr ati dros y blynyddoedd diwethaf yma, ond y gwir ydi dyma’r union bobl mae UKIP hefyd yn eu denu (yn enwedig yn y dref ei hun). Hynny ydi, yma hefyd, mae elfen nid ansylweddol (er nad enfawr) o gefnogaeth Plaid Cymru yn agored i fygythiad UKIP, a gallai hynny fod yn fwy na digon i sicrhau buddugoliaeth i Lafur. Fel sy’n digwydd yn rhai o seddi’r Ceidwadwyr, gall y blaid sy’n dal y sedd yma golli miloedd o bleidleisiau, a’r cyfan sydd ei angen arnynt ydi i’r blaid sy’n ail golli rhai cannoedd i UKIP. Synnwn i ddim o gwbl mai dyma fydd yn digwydd yn Llanelli.
Dydw i ddim yn gwybod faint o effaith gaiff y newyddion diweddar y bydd Siân Caiach yn sefyll yma eleni ar bleidlais unrhyw un o’r pleidiau, ond dybiwn i y bydd hynny o effaith a gaiff yn anfanteisio’r Blaid yn fwy na Llafur. Mae’n ergyd fechan.
Efallai fy mod i bach yn hallt yn lliwio Llanelli’n llwyd yn y map – dydi hi’m cweit yn sedd ‘dim gobaith’ i’r Blaid – ond y gwir ydi anodd mewn difrif ydi gweld Llafur yn ei cholli eleni.
Ceredigion
Dwi wedi dweud, wrth drafod
y Democratiaid Rhyddfrydol, mai nhw fydd yn ennill yma yn 2015, ac y bydda i’n
edrych ar Geredigion yn fanylach mewn post ar wahân. Does dim eto wedi fy
argyhoeddi mai fel arall fydd hi, er nad oes yna unrhyw amheuaeth y bydd pethau’n
agosach o lawer na’r tro diwethaf, pan gafodd y Blaid gweir yma.
Y tu allan i’r seddi
hynny, dwi ddim yn gallu go wir gweld Plaid Cymru yn gwneud fawr ddim – a dwi’n
amau mai dyna’r farn fewnol gyffredinol yn y Blaid. Mi dybiwn i mai ei phrif
nod ydi cadw’r ail safle mewn nifer o seddi - a allai fod yn anoddach na’r
disgwyl, hyd yn oed mewn llefydd fel y Cymoedd. Byddwn i’n synnu dim petai UKIP
yn goddiweddyd y Blaid fel yr ail blaid yn nifer o’r seddi, hyd yn oed mewn
ambell un lle mai’r Blaid sydd fel rheol yn ail rheolaidd.
Ydi, mae polau Ashcroft yng
Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro,
Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd a Gogledd Caerdydd oll wedi awgrymu y
gwelwn gynnydd ym mhleidlais y Blaid ynddynt yn 2015. Tra bod hynny’n rheswm i
fod yn obeithiol, yn y seddi hyn amrywiodd ei phleidlais rhwng 2.5% a 10.4% yn
2010 felly efallai nad ydyn nhw mor arwyddocaol â hynny iddi mewn difrif. Ac ni ellir anwybyddu'r ffaith, ym mholau'r Welsh Barometer, aros yn ei hunfan y mae'r Blaid wedi gwneud.
I grynhoi; yng nghyd-destun etholiadau cyffredinol dydi Plaid Cymru mewn fawr gwell stad nag yr oedd hi gryn amser yn ôl. Er ein bod yn sicr am weld seddi’n syrthio’n llu i’r SNP yn yr Alban, ac UKIP yn ennill pleidleisiau yn eu miliynau, mae’n anodd gweld unrhyw ogwydd enfawr at Blaid Cymru yng Nghymru y tro hwn. Gallai cadw ei thir fod yn ddigonol.
Nessun commento:
Posta un commento