Byddaf hynod,
hynod o gryno yn hwn o flogiad.
Mae’r dull mae Leanne Wood yn benodol (ac, i raddau llai, y Blaid) wedi’i fabwysiadu i drafod annibyniaeth yn wleidyddol hurt. Yn hytrach na rhoi unrhyw ddadl dros annibyniaeth, dyma ddywedodd hi neithiwr – ac yn wir rhywbeth tebyg y mae hi wedi bod yn ei adrodd ers peth amser...
Oes, mae yna
wendidau lu gan economi Cymru – boed hynny’n ymwneud â’n GDP, y cyflogau is sy’n
cael eu hennill yma, ein hanallu i godi trethi, a’r ffaith bod tlodi plant a
diweithdra’n uwch yng Nghymru na gweddill y DU ymhlith, fwy na thebyg, ddegau o
ffactorau eraill; hyd yn oed y ffaith bod mwy o ddibyniaeth ar fudd-daliadau
yma.
Yr hyn mae
Leanne Wood yn ei wneud ydi cytuno
efo'r rhai sy’n dadlau yn erbyn annibyniaeth i Gymru, gan atgyfnerthu’r syniad
ein bod ni yn rhy dlawd i fod yn
annibynnol. Mae’r dacteg yn un gwbl, gwbl anghywir ac eithriadol o niweidiol i’r
achos cenedlaethol.
Yr hyn y
dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd
difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n
cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i
gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.
Syml o ddadl.
Ond dadl wir.
Efallai na ddylai Plaid Cymru ganolbwyntio gormod ar annibyniaeth. Ond dylai hi ddim fod yn ei thanseilio ac atgyfnerthu amheuon pobl yn ei chylch sef yn union y mae’n ei wneud gyda'r ddadl ‘dydyn ni ddim isio annibyniaeth achos mae Cymru’n rhy dlawd ar y funud’. Dylai hi fod yn cyfeirio at lwyddiant gwledydd eraill – mae Estonia’n un da iawn – ac yn gosod y bai am wendidau Cymru ar garreg drws Llundain. Cyfleu’r ffaith mai Llundain sy’n ei cadw rhag ffynnu; nid mai ni sy’n rhy dlawd felly nad oes gobaith.
Mae’r nifer sy’n coelio mewn annibyniaeth yng Nghymru’n isel. Lein y Blaid ydi nad ydi hyn yn syndod am nad oes neb erioed wedi dadlau drosti; sy’n eithaf cadarnhau un o unig ergydion Crabb neithiwr ar QT “Then what’s the point of Plaid Cymru?”
Oce, Blaid Cymru, os dydach chi ddim isio gweiddi’n groch dros annibyniaeth dwi’n dallt hynny’n iawn – a dwi’m yn bod yn goeglyd, dydi’r fantais wleidyddol sydd i’w hennill o wneud hynny efallai ddim yn fawr. Ond drwy, i bob pwrpas, fwydo’r naratif Brydeinllyd yn ei chylch, rydych chi’n cyfrannu nid at ei sicrhau ryw dro, ryw bryd, ond at ei hatal a hynny efallai’n barhaol.
4 commenti:
Cytuno cant y cant. Oedd yn anodd i'w gwylio.
Ble mae Price?
Wel dyna hen hen gan yn yr Alban, ein bod ni "Too Puir, Too Wee, Too Stupid", ond alaw sy'n cael ei chanu gan y rhai erbyn annibyniaeth ydi hi. Rhan fwya o'r ymdrech i annibyniaeth ydi'r frwydr nid am hunanlywodraeth, ond yn hytrach ac yn gynta, am hunan-barch fel pobl a fel cenedl. Hebddo does dim byd.
Druan o Leanne, felly. A druan o Gymru hefyd. Gan mae'r Alban yn mynd ymlaen i annybyniaeth, byddai'n hollol bosib i chi gael eich gadael nôl, yn unig ac yn erbyn holl cadernid canolog Lloegr. Pa fath o Gymru fyddai'n goroesi hynny?
Nid y Gymru sydd ohoni
Hynod, hynod o siomedig oedd clywed a gweld Leanne yn straffaglu i gynnig dadl pendant, positif a chlir dros annibyniaeth blynyddoedd ar ol cael ei hethol fel arweinydd. Mi ddylsai wedi bod yn fwy na pharod gyda'i hateb i'r cwestiwn sylfaenol hwn. Mae'n ymddangos ar hyn o bryd i mi nad yw'r hunan-gred ganddi i arwain yn effeithiol. Be rwan?
Posta un commento