domenica, giugno 26, 2016

Cyfle euraidd y mudiad cenedlaethol

Dwi ddim am fynd dros y refferendwm; dwi ddim am bwyntio bai ar neb – wnes i hynny cyn y refferendwm a dwi’n sefyll wrth bob gair – a dwi ddim am fyfyrio am fy nheimladau personol i ar y mater y tu hwnt i ddweud fy mod i wedi dod o’r dyfnder ac yn gweld pethau’n gliriach.

Dwi am fentro dweud na’r canlyniad a gafwyd ydi’r cyfle mwyaf fydd gan Gymru o sicrhau annibyniaeth byth. Bydda i’n gryno, achos er bod angen bod yn glyfar wrth gynllunio hyn oll, a bod angen strategaeth ar waith, mae’r ateb yn rhyfeddol o syml.

Mae’r refferendwm drosodd ac fe’i collwyd. Does dim herio’r peth – mae’r ddeiseb ar-lein ‘na efo’i llofnodion lu yn wastraff amser ac mae angen ei hanwybyddu’n llwyr. Gallai honno, o lwyddo, osod cynsail a fyddai’n sicrhau parhad y Deyrnas Unedig am byth, ond blogiad arall ydi hwnnw. Diolch byth na fydd hi’n llwyddo.

Y sefyllfa sydd ohoni ydi hyn: pleidleisiodd 52% o bobl Cymru o blaid gadael yr UE. Ond mae hynny’n gadael bron hanner y boblogaeth sydd eisiau bod yn rhan ohoni. Yn wahanol i’r sefyllfa a fu, mae hynny’n gadael dau ddewis cwbl, diamheuaeth o glir i bobl Cymru – os ydyn nhw eisiau bod yn rhan o’r UE, rhaid ar annibyniaeth i Gymru. Does yna ddim troi’n ôl i’r Deyrnas Unedig. Ond mae gan Gymru’r dewis.

Gallwn roi i’r neilltu gymhlethdodau di-baid a chymleth a diflas datganoli graddol. Dydi’r rheiny ddim yn tanio pobl – ond am y tro cyntaf erioed, gall y posibiliad o Gymru annibynnol yn rhan o’r UE wneud hynny. Dydi ffederaliaeth ddim yn rhan o’r ddadl ychwaith; yr unig ffederaliaeth wirioneddol sydd i’w chael ydi ffederaliaeth fel rhan o Ewrop.

Targedu’r 48% sydd eisiau a chyfleu’r ddadl fel ag y mae hi: Cymru annibynnol ydi’r unig drywydd yn ôl i’r UE. Dydi honno ddim yn ddadl y gellir ei gwrthbrofi – mae hi’n ffaith a does yr un blaid arall yn gallu dadlau fel arall. Mae honno’n law brin o gryf i'w chael mewn gwleidyddiaeth a byddai peidio dadlau’r peth yn ddi-baid efallai’r peth mwyaf twp i’r mudiad cenedlaethol ei wneud erioed.

Dydi’r 48% ddim am heidio i Blaid Cymru i gyd ond i lawer iawn o bobl, mi dybiaf, yn enwedig yng ngwres y foment, byddai annibyniaeth yn yr UE yn opsiwn llawer, llawer mwy atyniadol na bod ynghlwm wrth Loegr y tu allan i’r UE. Ac mae’n mynd i orfodi pobl i ddewis ochr; cyn heddiw, doedd dim angen gwneud hynny i’r fath raddau yng Nghymru achos y gwir ydi roedd gennym ni ormod o opsiynau i’w hochri â nhw.
 
Ond beth am y 52%? Syml hefyd – ond mae angen bod yn ddewr â’r cyhoedd, hyd yn oed, byddwn i’n mentro dweud, yn ymosodol. Dyma sydd angen ei ddweud wrthynt. Bydd eu bywydau nhw’n anos ar ôl inni adael Ewrop, byddan nhw’n dioddef yn sgîl eu camgymeriad, ac mi fyddan nhw’n gweld eisiau’r Undeb Ewropeaidd. Bu Cymru’n unigryw anniolchgar yn ei phleidlais, a buan y byddan nhw’n sylweddoli hynny. Dydi honno ddim yn codi bwganod nac yn dychryn pobl – mae’r ffigurau ar ochr Plaid Cymru yn hyn o beth. Mae angen pwyntio allan i bobl yn union beth fydd yn cael ei golli o’u cymunedau yn sgîl eu penderfyniad. Pan fydd pobl yn sylweddoli bod eu bywydau'n waeth y tu allan i'r UE, mi fydd yn gwrthbwyso'r don o genedlaetholdeb Prydeinig a Seisnig sy'n anochel ar ddod.
 
Y gwir ydi, mae pobl Cymru am ddioddef ar ôl dewis gadael Ewrop. Er bod cynifer o bobl yn meddwl na allai pethau fod yn waeth, maen nhw’n mynd i fod yn waeth, a’r unig, unig olau yn y tywyllwch hwnnw ydi Cymru annibynnol yn Ewrop. Ac maen nhw’n mynd i sylweddoli ar y peth. A bydd modd eu denu i’r gorlan.

Wrth gwrs, byddai pethau’n haws petai Cymru wedi pleidleisio dros aros – ond mae’r ffaith bod y canlyniad mor agos bron gystal a dal yn gyfle euraidd.

Dwi ‘di treulio’r penwythnos yn anobeithio am ganlyniad nos Iau. Ond mae’r niwl wedi codi rhywfaint, ac mi fedra i ddweud yn gwbl onest ar ôl pendroni fy mod i, am y tro cyntaf ers y bûm i’n ifanc a ffôl a llawn gobaith, yn gweld Cymru rydd yn bosibiliad go iawn.

Mae hwn yn gyfle llawer, llawer rhy dda i'w golli.

4 commenti:

Joniesta ha detto...

Cytuno I raddau.Yn anffodus mae yna siawns gwirioneddol na fydd yna UE erbyn 2020 a gyda hynny unryw obaith am annibyniaeth.Di'n teimlo fod na gyfle ir blaid a dylsai hyn ysgogi pobl I weithio yn galed ar ganfasio at yr etholiad mewn 5 mis.

Anonimo ha detto...

Dwi'n cytuno fod hwn yn gyfle euraid i'r achos cenedlaethol.

Mae Plaid Cymru angen peidio a clymbeidio a'r Blaid Lafur i ddechrau, fydd y Blaid Lafur Gymreig byth yn gallu dianc o'r hualau

yn ail ac mewn nifer mawr o rhannau o Gymru mae angen i ddadleuon y Blaid fod yn llawer llawer llai deallusol a progressive. Mae angen bachu etholwyr syfrdanol o dwp Cymru gyda sloganau hynod hynod o syml, poblogaidd ac sydd wedi eu seilio ar manteision ariannol a chymreictod y ddraig goch a peldroed, ac yn bennaf plwyfoldeb diarhebol Y Cymry. Yn wir gallen ni ddim wneud llawer yn waeth na 'let's make wales great again' neu 'Ebbw Vale great again' 'Cymru am byth' ayyb

Anonimo ha detto...

Fel dwedest ti, "Dwi ‘di treulio’r penwythnos yn anobeithio am ganlyniad nos Iau. Ond mae’r niwl wedi codi rhywfaint," . . . . a mae fy mhen yn ol yn y cymylau.

Marconatrix ha detto...

Ond pwy sy´n barod i sefyll a siarad ar blaid rhyw Gymru Rydd tu mewn i´r UE, ´run peth â arweinwyr yr Alban? Ble mae´r lleisiau cryfion i´w clywed?