Pan gerddi di
lwybrau’r defaid yng nghrasboethni’r haf, chwys hallt dy dalcen yn llifo’n ddiflas
i losgi dy lygaid a chân arferol erchwyn y mynydd yn fud wrth i’r anifeiliaid
guddio rhag y gwres, fe weli ddefaid. Maen nhw’n gorweddian yng nghysgodion y
waliau neu’r coed neu’r cerrig mwyaf, yn ddistaw dioddef dan eu gwlân gaeaf. Ni
wyddant fod y llwybr a fedyddiwyd ganddynt hyd yn oed yno; rwyt ti’n eiddigeddus
ohonyn nhw. Rwyt ti hyd yn oed yn eiddigeddus o’r ŵyn bach na welant ond un
gwanwyn cyn cael eu boddi mewn grefi ar blât Sul, eu gwaed a’u braster yn ei
flasuso.
Achos dwyt ti fwy
na dafad dy hun; fe’th fagiwyd yn neidio cerrig y caeau, ac rwyt ti dal yn
gallu ei wneud, ac mae gennyt ti o hyd drwyn am snwyro dy ffordd ar hyd y
coridorau culion rhwng pentyrrau’r eithin at lannerch weiriog heb gael dy bigo
ganddynt. Ond yn wahanol i bob dafad go iawn, un goll wyt ti, dy draed rhwng dau
le a dy feddwl rhwng o leiaf ddau fyd yn gyson. Ac er gwellt carpiog beudy dy
ben, wrandewaist ti fyth ar dy galon rhag i honno losgi’r beudy i’r llawr, fel
y mae byth a beunydd yn bygwth ei wneud.
Drwy ymgais ddisynnwyr
i ddenig rhag y cyfan mi wyt ti’n gadael y llwybr defaid weithiau, am newid
bach. Weithiau llonnir dy galon gan y daith, gan wenci fach yn loncian neu’r
adar bach yn chwarae a’r awyr hirfaith las yn ensynio nef – o! mi wyt ti’n
dyheu am y munudau byrion hynny’n fwy na dim – ond yn amlach na heb ymgolli yn
y brwyn fyddi di, yn cael socsan mwdlyd ar glwt o rostir, yn diwallu dy sychder
yn y pyllau llonydd, budron, cyn cropian yn ôl i’r un hen lwybr cyfarwydd, yn
drech na thi dy hun. Ond boed dda neu ddrwg, nid wyt well o’th antur fach ar y
cyrion, oherwydd fel popeth, wedi mynd y mae hi. Fyddet ti ddim mewn lle
gwahanol ar y llwybr pe na baet wedi ymadael ag ef yn y lle cyntaf. Ti’n dod yn
ôl achos bod y cyrion, yn eu hanfod dyfnaf, yr un mor gwbl ddibwynt â’r dro ar
y llwybr defaid, ac mae gwirionedd cas hynny’n dy rwygo’n rhacs.
A dyna ryfeddod
ffiaidd y llwybr. Mi wyddost y ffordd yn ôl, mae dy draed yn lle’r wyt ti, ac
mi wyt ti'n gwybod yn iawn beth sydd o dy flaen. Ac eto, ti dal yn ddafad wrth ei
ddilyn fel deilen ddi-liw yn yr afon; dafad goll sy’n gwybod i le y mae o’n
mynd. A'r unig beth sy'n ysgogi pob cam ydi gwybod bod pawb yn union yr un fath â chdi.
Nessun commento:
Posta un commento