Mae ‘na dristwch
cynhenid ond hyfryd i fachlud nosweithiau’r haf. Fedr rhywun deimlo’r dydd yn
ildio’i le i’r nos yn ddiymdrech, a’r nos hithau’n ei anwesu tua’i derfyn anochel. Nid
oedd ond hanner awr yn ôl barau diddiwedd o wenoliaid yn llithro ac yn prancio
drwy’r awyr yn ddireidus. Y mae rhywbeth gwylaidd iawn yn y peth. Hyd yn oed
yma mae ôl dyn ymhobman, a’n gafael dros y tir yn wydn, o’n gwifrau i’n
cartrefi i’r chwarel borffor; ac eto ni hidia’r gwenoliaid ddim amdanom. Ni wyddant
y sirioldeb maen nhw’n ei roi i mi yn eu gwylio ers pan fûm i’n hogyn bach, a
thydi na’r eithin na’r copaon cas yn gwybod hynny ychwaith. Fy nghyfrinach
wirion i ydi’r peth.
Ond mae’r
gwenoliaid yn mynd i’w nythod – maen nhw’n hedfan yn fwy unionsyth wrth fynd am
adref. A chyn hir ystlumod fydd yn cymryd eu lle, yn chwilio tamaid o wyfyn twp
i de. Ac mi fydda i dal yma’n eu gwylio nhw, wedi gorfod rhoi fy llyfr i’r
naill ochr er mwyn cael eistedd mewn tawelwch ac ymdoddi i’r dyffryn; y clwb
criced ar y dde, mur deiliog o wrych ar y chwith, a’r ffenestri’n goleuo’n
ddifywyd gan belydrau golau’r machlud o’m blaen, ac un chwipiad o gwmwl
uwch Glyder Fawr, fel lwmp o hufen ar gacen.
Ac am ddeg ar y dot, gwelaf ddwy wennol olaf y diwrnod a'r ystlum cyntaf un, fel petai'r peth wedi'i flaengynllunio. Ac yn nyfnaf haen fy nghalon, dwi wir yn coelio ei fod o.
Nessun commento:
Posta un commento