Merwino’n araf
rhwng y clustogau. Ceisio cysur cynfas. Aflwyddo. Rhy boeth, rhy oer, rhy
anghyfforddus. Rhy fyw. Rhy farw.
Lliwiau a lleisiau’n
llenwi’r duwch, a’r duwch yn eu trechu liw gan liw, lais gan lais. Llithro o’r
byd yn ddi-ffarwél, yn ddi-hiraeth – llithro i gwsg yn ddi-gyfarch, yn ddieisiau.
Cipolwg ar ddiffodd llwyr a llawenydd dimbydrwydd y tu hwnt i rith bodoli. Un sŵn,
un glec, un ysgytiad yn dy gydio’n ôl i fyd y byw a diawlio’r peth. Y galon yn
curo’n ddibwrpas. Y meddwl yn troi’n ddi-gyfeiriad. Ac ar ôl ymdrech y dydd eto
ddisgyn yn araf bach fesul anadl.
Cwsg. Hyfryd gwsg.
Lle i ganlyn breuddwyd. Lle i gyfarch hunllefau a’u cynefindra’n caethiwo. Y fan
lle taro’r cythraul darian gobaith â gwayw gwirionedd, nes hawlio’r nos. Y fan
lle mae dy gryfderau’n adnewyddu eu hunain, yn ymrymuso’n arfwisg amdanat a
thwyll eu ffugfawreddu’n tawelu’r gwaed. Cartref cofleidio cyfyngiadau’r bod –
hwythau iti’n gell, a’th gell sy’n fach o’u herwydd.
Dyna bob nos.
Nessun commento:
Posta un commento