giovedì, dicembre 22, 2016

Eryrod Pasteiog VII: Cyfweliad olaf Kate Roberts

Nid yn unig pobl dda a aned ym 1985, ond bu farw ambell gawr hefyd. Ychydig cyn ei marwolaeth, cafodd Kate Roberts, neu Frenhines ein Trên fel y'i gelwir yn aml heddiw, ei chyfweld am y tro olaf erioed yng nghylchgrawn Barddas neu rywbeth ella. Mae'n ysbrydoliaeth lwyr.

*         *         *


CYFWELYDD: Diolch i chi am gytuno i’r cyfweliad hwn, Dr Kate Roberts.

KATE ROBERTS: Dim problam cont.
CYF: Felly, bwriwn ati ar unwaith, pa beth a’ch ysbrydolo wrth i chi greu eich straeon?

KR: Wel, mae hynny’n syml. Ces i fy magu ar adeg pan oedd pethau’n galed yn yr hen fro. Roeddem mor dlawd y bu ‘mrawd yn gweithio’n chwarel yn ddeufis oed, a’r cartref nid mwy na’r hyn a alwyd bryd hynny’n dŷ torth.

CYF: A pha beth oedd hynny?
KR: Tŷ wedi’i wneuthur o fara caled. Toedd yna ddim cerrig bryd hynny yn Rhosgadfan, dim ond llechi wrth gwrs, a becws shit. Ond allwch chi ddim tŷ o lechi, dim ond to, a pha beth y to os cyll y tŷ? Dyddiau anodd i’r teulu cyfan, a’r gymuned yn de. Felly treiddiodd y caledi hwnnw i’m gwaith dilynol, fel surop.

Dr Kate Roberts, 1978, ar ôl ennill Cadair Eisteddfod Ikea

CYF: Rydych chi’n hoff o surop?
KR: Ew ydw. Dyna’r unig beth a gerais erioed.

CYF:  Mor ddifyr. Ond wrth gwrs eich gwaith mawr oedd Traed Mewn Cyffion.
KR: Peidiwch â siarad am hwnnw, wir.

CYF: Paham felly?
KR: Y golygwyr. Newidion nhw bopeth. Popeth! Traed mewn Sglodion oedd y teitl gwreiddiol, yn seiliedig ar yr arfer ym Mhen Llŷn o wisgo esgidiau tatws fel y mae rhai’n dal i wneud, yn enwedig ymhlith y ffarmwrs a’r cyfieithwyr, hyd heddiw. Ddywedodd y golygwyr ei fod o’n syniad gwael iawn am nofel. Faddeuaf i fyth iddynt. Ro’n i’n gwybod bod rhywbeth unigryw gen i’n fanno, ond droeson nhw’r cyfan yn stori lwyd arall am galedi’r chwareli. Gwnaethon nhw hyd yn oed dorri’r darn allan am streic fawr y tatws yn llwyr; dydi’r plot ddim yn gwneud synnwyr heb hwnnw.

CYF: Ydych chi’n siŵr?
KR: Ydw. Bob dim a ysgrifennais i erioed newidion nhw bopeth.

CYF: Te yn y Grug?
KR: ‘Te yn y Gwrych’ oedd o. Yn yr hen Sir Gaernarfon byddai pobl yn aml yn cael te p’nawn yn y gwrych, i osgoi llosg haul. Pwy gafodd de yn y grug erioed wir? Twpdra anneallus.

CYF:  Tywyll Heno?
KR: Bydd tad.

CYF: Prynu Dol?

KR: Ddim diolch.

CYF: Haul a Drycin?

KR: Be?

CYF: Ond mae’ch straeon yn amrywiol iawn, yn tydyn, ac yn aml swreal? Roedd Teulu Mari am ddynes yn siarad â’i hanifeiliaid a mynd ar antur â nhw, Gobaith am ragrith a pherthynas cyfeillion, Yr Wylan am wylan, mae’n siŵr, dwi heb ddarllen honno.

KR: Ydyn, dwi wastad wedi ymfalchïo yn fy ngallu i ysgrifennu pethau mewn unrhyw arddull. Efallai rhyw ddydd y bydd rhywun yn gallu ei wneud cystal â mi â Chymraeg celfydd a dychymyg o’r tu hwnt i’r sêr. Ond ‘sgen i’m blog.
CYF: Ie. Wrth gwrs, mae’ch perthynas agos â Saunders Lewis yn un nodedig yng Nghymru Gymraeg. Rydych chi’n gyfeillion garw.

KR: O diar mi, nac ydyn wir. Mae’r sbych yna’n ysgrifennu ata i ers oes pys, ond dwi erioed wedi ysgrifennu’n ôl. Unwaith fues i’n ei drem ac mi fu’n gwichian ata i’n ofnadwy fel chwannen frith y llan, sef oen yn nhafodiaith gogledd Llŷn. Mae nhw’n dweud ei fod o’n gwisgo fel merch ac yn ymateb i’w hun, ond dwi ddim isio meddwl am y peth a dweud y gwir.
CYF: Beth ydy’ch hoff fuwch?

KR: Welsh Black.
CYF: Mor ddifyr. I gloi, sut hoffech chi gael eich cofio gan y genedl?

KR: Byddaf yn fodlon ar unrhyw atgof ohonof gan y genedl, am fy llenyddiaeth neu fy ngwaith adeiladu trawiadol, oni sernir yr atgof hwnnw ymhen rhyw, dwnim, rhyw ddeg mlynedd ar hugain gan rywun yn mynd drwy ‘mhethau i ac yn gwneud honiadau enllibus di-sail amdanaf mewn llyfr neu rywbeth achos rhyw ensyniadau uffernol o wan. Dwi ôl ffôr bach o enllib yn de, ond enllib yn erbyn y meirw? Sgersli bilîf.
CYF: Diolch yn fawr i chi, Dr Kate Roberts.

KR: Wotevs.

domenica, dicembre 04, 2016

Un baned



Aeth i mewn i’r siop goffi. Doedd y lle ei hun ddim at ei ddant ond roedd o wedi cael paned yno sawl gwaith, bron pob tro yr âi i’r dre a dweud y gwir, ac wedi penderfynu ei fod yn licio’r coffi o leiaf. Cadw at ei drefn arferol. Yr un archeb bob tro.
            Cappuchino,’ cyfarthai at y weinyddes. Roedd hi’n oer tu allan a doedd o’n teimlo fawr gynhesach ei hun heddiw. Arhosai’n ddiamynedd wrth iddi ffwndro’r archeb yn y til yn ddwl.
            Did you say latte babes?’ meddai hi’n ôl ar ôl amser a deimlai fel awr. “Babes”. Dwi ddeg mlynedd yn hŷn na chdi, feddyliodd. Ac os wyt ti methu cofio un archeb funud ar ôl i mi ei gwneud mewn siop goffi fyddi di am byth, cariad.
            No. Cappuchino,’ meddai’n fwriadol nawddoglyd wrthi. Cafodd hi’r neges, doedd ‘na ddim awydd cwrteisi diangen ar hwn – roedd o jyst isio panad. ‘I’ll sit outside,’ meddai cyn lluchio arian ati a’i heglu am y drws fel petai am adael y lle.

            Cafodd le tu allan ar fwrdd unig. Roedd y dre’n brysur heddiw. Miloedd o bobl ddibwrpas yn dechrau ar eu siopa ‘Dolig. Rhoes ei sbectol haul amdano a’u gwylio’n ddirmygus; rhai’n llusgo traed ac yn gwylltio’r bobl gyflym. Neb ohonynt yn cerdded yn gall fel y gwnâi o, naill ai’n ei malwennu hi’n drwsgl neu’n llamu fel merlod. Twpsod. Pam fod pawb yn gorfod cerdded mor wahanol iddo fo? A ble oedd y blydi panad ‘na?

            Cyrhaeddodd y gweinydd. ‘Cappuchino?’ gofynnodd.
            Yes,’ cyfarthai eto, ond edifar braidd y tro hwn. Gwyddai nad oedd angen bod felly wrth ryw dipyn o weinydd ifanc druan, yn gweithio ar ddydd Sul yn lle gorwedd yn ei wely’n drewi o gwrw’r noson gynt. A dweud y gwir, dyna fyddai’n well ganddo fo wneud, ond ddigwyddodd hynny ddim. Eto. Gorfododd ei hun i ychwanegu, ‘That’s great, thank you very much’ gan daro gwên fawr ddanheddog tuag ato. Gwnaeth hynny’r tric, gwenodd y gweinydd yn ei ôl cyn mynd i glirio bwrdd arall.
            Ymfalchïai yn ei wên yn fawr. Cofiai flynyddoedd yn ôl i ferch brydferth iawn ddweud wrtho fod ganddo wên neis, a daliai at yr un ganmoliaeth fechan honno byth ers hynny. Gwyddai fod hynny’n bitw, ond mor brin y canmoliaethau a dderbyniai'n ddiffuant cadwodd honno yn ei gof. Roedd o’n coelio ei fod wedi perffeithio’i wên i guddio popeth. Ddefnyddiai o mohoni i ddal sylw merched del, budron tafarndai tywyll y ddinas, mor anaml y gweithiai y rhoes y gorau i hynny. Ond fel giât castell ei ben roedd hi’n berffaith am gadw’r cwestiynau draw.
            Trodd at y baned, a chydio ynddi, a chymryd y llymaid cyntaf. Doedd y gwpan gynnes fawr o gysur iddo. Ei glustiau fo oedd yn rhynnu wedi'r cwbl, nid ei ddwylo. 
             Roedd hi’n chwerw. Doedd ganddo fawr o amser i goffi chwerw, ond ddaeth ‘na ddim siwgr efo’r baned diolch i’r gweinydd ifanc gwirion. Trodd y wên yn wg wrth iddo droi’n ôl at syllu ar yr haid o siopwyr. Ymfalchïai yn ei wg hefyd. Dywedai wrth ei hun ei fod yn gwneud iddo edrych yn feddylgar; yn ddoeth hyd yn oed, fel petai’n ystyried dirgelon mawr ac yn eu deall yn iawn. Twyll arall wrth gwrs. Ond dydi hunan-dwyll ddim bob amser y peth gwaethaf, cyn belled â bod rhywun yn gwybod mai dyna ydi o, ac ei fod yn twyllo pawb arall hefyd.

            Cymrodd swigiad arall. Cynnes oedd y baned, yn union fel yr hoffai, a leddfodd rywfaint ar ei chwerwder, a throdd yntau ei sylw’n ôl at y stryd. Wyddai o’m unrhyw un yno. Rholiodd ei lygaid wrth weld un dyn boliog hŷn yn gwisgo hwdi porffor, yr union un yr oedd ganddo fo, a barodd iddo fwmian rhegfeydd dan ei wynt. Roedd yn gas ganddo bobl yn gwisgo’r un dillad, yn enwedig hen ddynion, fynta’n ddim tebyg iddyn nhw yn ei ben. Ddim eto o leiaf. Ac yna cwpwl tew fel dau fynydd yn sglaffio’n farus ar grempogau poeth y cabanau ‘Dolig. Roedden nhw’n edrych yn hapus, ond faliai o ddim am hynny. Mynnodd ei argyhoeddi ei hun taw’r crempogau yn hytrach na’i gilydd oedd pam yr oedden nhw’n gwenu. Wrth gwrs y gwyddai fel arall. Ond pa ots? Jyst dau fasdad tew oedden nhw. Pa hawl oedd ganddyn nhw i fod mor hapus yn edrych fel’na, tra bod o’n rhannu bwrdd â neb ond yr oerfel?

            Syrffedodd braidd ar wylio pobl a phaneidio – gwnâi fawr o les i’w dymer heddiw - a llyncodd weddill y coffi heb roi cyfle i’w hun ei fwynhau. Roedd o wedi gwastraffu deg munud ac roedd hynny’n ddigon. Roedd yn amser rhoi’r cynllun ar waith; crwydro’r dref a’r siopau ei hun, efallai trïo ambell ddilledyn cyn digalonni eu bod ddim yn ei siwtio. Efallai prynu ffilm i wastraffu awr neu ddwy’n nes ‘mlaen am na wyddai beth arall i’w wneud ag amser eithr ei wastraffu. Coffi arall beryg. Unrhyw beth i fyrhau’r munudau maith.
           
A chododd o’i sedd ac ymgorffori’n ddibwrpas i’r bobl ddibwrpas ddiddiwedd, yn un ohonyn nhw.

giovedì, dicembre 01, 2016

Mân wrthgyferbyniadau mawr byw

Dydi bywyd fawr ddim onid ydyw’n gydblethiad godidog ac anghyfforddus o wrthgyferbyniadau. Does fawr ddim nad ydyw’n llwyddo ei groesi ei hun; gwên drist a deigryn hapus, haul oer y gaeaf, eiliadau dyfnion sgwrs ysgafn; rhyddhad aflwyddiant a gwewyr gweld yr un sy’n tanio’th galon; jyst bod yn chdi dy hun heb wybod pwy ddiawl ‘di hwnnw. Y bodlondeb a deimlaf o wneuthur na chlywed dim a gwacter dwfn gorfod gwneud popeth. Unigedd mewn cwmni ac ymberthyn unigedd. Blinder sy’n canlyn paned o goffi mewn tipyn o gaffi ac egni a enynnir gan nofio urddasol elyrch ar ddiwrnod niwlog disymud. Myfyrio am farw a phrysurdeb difeddwl byw. Goleuadau stryd sy’n tywyllu’r enaid; duwch nos yn goleuo’r sêr. Sêr bychain dy ben yw heulwen dy ddydd, tra bod heuliau’th fyd yn gyson ymachlud.

Moment od  y bore, dal dy lygaid dy hun yn y drych wrth hanner brwsio dy ddannedd yn ddifynadd dros sinc sydd angen ei llnau. Gweld y cyfan heb weld dim. Dy dalcen yn hirach nag y bu mewn hen luniau. Y llinellau newydd fel camlesi’r lleuad, yn ensynio blinder ond yn deillio o oriau maith o chwerthin a’r hwyl a aeth i garchar y gorffennol; adeg a ddiflannodd ond sy’n esgor ar yr hyn sydd eto i ddod. A’r hen lygaid na elli ond â syllu iddynt; lympiau blonegog meddal sy'n cyfleu llond enaid o dân a rhew, o gas a charu. Yr un teimlad â methu â pheidio ag edrych ar ddamwain car. Gan un edrychiad gweled cant o bethau a aeth o’u lle, a dychmygu'r un peth hwnnw all unioni’r cyfan.

Y ffordd anghysurus honno o wybod popeth mewn eiliad hyd at ddyfnion meithaf môr ein bod, ac anghofio’r cyfan ymhen awr neu fis neu flwyddyn. Y ffordd y mae pob cam yn nesáu at rywbeth ac yn ymbellhau rhag llall. Y ffordd y mae meiddio dy roi dy hun i obaith yn fwy o fraw nag o fendith.

Y ffordd y mae popeth yn y byd mawr crwn yn wrthgyferbyniad llwyr, a’r gwrthgyferbyniadau hynny sy’n creu pob peth. A’r ffaith fy mod i’n gwybod hyn oll, heb imi erioed ei ddysgu.