Moment od y bore, dal dy lygaid dy hun yn y drych wrth
hanner brwsio dy ddannedd yn ddifynadd dros sinc sydd angen ei llnau. Gweld y
cyfan heb weld dim. Dy dalcen yn hirach nag y bu mewn hen luniau. Y llinellau
newydd fel camlesi’r lleuad, yn ensynio blinder ond yn deillio o oriau maith o
chwerthin a’r hwyl a aeth i garchar y gorffennol; adeg a ddiflannodd ond sy’n
esgor ar yr hyn sydd eto i ddod. A’r hen lygaid na elli ond â syllu iddynt;
lympiau blonegog meddal sy'n cyfleu llond enaid o dân a rhew, o gas a charu. Yr un
teimlad â methu â pheidio ag edrych ar ddamwain car. Gan un edrychiad gweled
cant o bethau a aeth o’u lle, a dychmygu'r un peth hwnnw all unioni’r cyfan.
Y ffordd
anghysurus honno o wybod popeth mewn eiliad hyd at ddyfnion meithaf môr ein bod,
ac anghofio’r cyfan ymhen awr neu fis neu flwyddyn. Y ffordd y mae pob cam yn nesáu
at rywbeth ac yn ymbellhau rhag llall. Y ffordd
y mae meiddio dy roi dy hun i obaith yn fwy o fraw nag o fendith.
Y ffordd y
mae popeth yn y byd mawr crwn yn wrthgyferbyniad llwyr, a’r gwrthgyferbyniadau
hynny sy’n creu pob peth. A’r ffaith fy mod i’n gwybod hyn oll, heb imi erioed ei ddysgu.
Nessun commento:
Posta un commento