domenica, dicembre 04, 2016

Un baned



Aeth i mewn i’r siop goffi. Doedd y lle ei hun ddim at ei ddant ond roedd o wedi cael paned yno sawl gwaith, bron pob tro yr âi i’r dre a dweud y gwir, ac wedi penderfynu ei fod yn licio’r coffi o leiaf. Cadw at ei drefn arferol. Yr un archeb bob tro.
            Cappuchino,’ cyfarthai at y weinyddes. Roedd hi’n oer tu allan a doedd o’n teimlo fawr gynhesach ei hun heddiw. Arhosai’n ddiamynedd wrth iddi ffwndro’r archeb yn y til yn ddwl.
            Did you say latte babes?’ meddai hi’n ôl ar ôl amser a deimlai fel awr. “Babes”. Dwi ddeg mlynedd yn hŷn na chdi, feddyliodd. Ac os wyt ti methu cofio un archeb funud ar ôl i mi ei gwneud mewn siop goffi fyddi di am byth, cariad.
            No. Cappuchino,’ meddai’n fwriadol nawddoglyd wrthi. Cafodd hi’r neges, doedd ‘na ddim awydd cwrteisi diangen ar hwn – roedd o jyst isio panad. ‘I’ll sit outside,’ meddai cyn lluchio arian ati a’i heglu am y drws fel petai am adael y lle.

            Cafodd le tu allan ar fwrdd unig. Roedd y dre’n brysur heddiw. Miloedd o bobl ddibwrpas yn dechrau ar eu siopa ‘Dolig. Rhoes ei sbectol haul amdano a’u gwylio’n ddirmygus; rhai’n llusgo traed ac yn gwylltio’r bobl gyflym. Neb ohonynt yn cerdded yn gall fel y gwnâi o, naill ai’n ei malwennu hi’n drwsgl neu’n llamu fel merlod. Twpsod. Pam fod pawb yn gorfod cerdded mor wahanol iddo fo? A ble oedd y blydi panad ‘na?

            Cyrhaeddodd y gweinydd. ‘Cappuchino?’ gofynnodd.
            Yes,’ cyfarthai eto, ond edifar braidd y tro hwn. Gwyddai nad oedd angen bod felly wrth ryw dipyn o weinydd ifanc druan, yn gweithio ar ddydd Sul yn lle gorwedd yn ei wely’n drewi o gwrw’r noson gynt. A dweud y gwir, dyna fyddai’n well ganddo fo wneud, ond ddigwyddodd hynny ddim. Eto. Gorfododd ei hun i ychwanegu, ‘That’s great, thank you very much’ gan daro gwên fawr ddanheddog tuag ato. Gwnaeth hynny’r tric, gwenodd y gweinydd yn ei ôl cyn mynd i glirio bwrdd arall.
            Ymfalchïai yn ei wên yn fawr. Cofiai flynyddoedd yn ôl i ferch brydferth iawn ddweud wrtho fod ganddo wên neis, a daliai at yr un ganmoliaeth fechan honno byth ers hynny. Gwyddai fod hynny’n bitw, ond mor brin y canmoliaethau a dderbyniai'n ddiffuant cadwodd honno yn ei gof. Roedd o’n coelio ei fod wedi perffeithio’i wên i guddio popeth. Ddefnyddiai o mohoni i ddal sylw merched del, budron tafarndai tywyll y ddinas, mor anaml y gweithiai y rhoes y gorau i hynny. Ond fel giât castell ei ben roedd hi’n berffaith am gadw’r cwestiynau draw.
            Trodd at y baned, a chydio ynddi, a chymryd y llymaid cyntaf. Doedd y gwpan gynnes fawr o gysur iddo. Ei glustiau fo oedd yn rhynnu wedi'r cwbl, nid ei ddwylo. 
             Roedd hi’n chwerw. Doedd ganddo fawr o amser i goffi chwerw, ond ddaeth ‘na ddim siwgr efo’r baned diolch i’r gweinydd ifanc gwirion. Trodd y wên yn wg wrth iddo droi’n ôl at syllu ar yr haid o siopwyr. Ymfalchïai yn ei wg hefyd. Dywedai wrth ei hun ei fod yn gwneud iddo edrych yn feddylgar; yn ddoeth hyd yn oed, fel petai’n ystyried dirgelon mawr ac yn eu deall yn iawn. Twyll arall wrth gwrs. Ond dydi hunan-dwyll ddim bob amser y peth gwaethaf, cyn belled â bod rhywun yn gwybod mai dyna ydi o, ac ei fod yn twyllo pawb arall hefyd.

            Cymrodd swigiad arall. Cynnes oedd y baned, yn union fel yr hoffai, a leddfodd rywfaint ar ei chwerwder, a throdd yntau ei sylw’n ôl at y stryd. Wyddai o’m unrhyw un yno. Rholiodd ei lygaid wrth weld un dyn boliog hŷn yn gwisgo hwdi porffor, yr union un yr oedd ganddo fo, a barodd iddo fwmian rhegfeydd dan ei wynt. Roedd yn gas ganddo bobl yn gwisgo’r un dillad, yn enwedig hen ddynion, fynta’n ddim tebyg iddyn nhw yn ei ben. Ddim eto o leiaf. Ac yna cwpwl tew fel dau fynydd yn sglaffio’n farus ar grempogau poeth y cabanau ‘Dolig. Roedden nhw’n edrych yn hapus, ond faliai o ddim am hynny. Mynnodd ei argyhoeddi ei hun taw’r crempogau yn hytrach na’i gilydd oedd pam yr oedden nhw’n gwenu. Wrth gwrs y gwyddai fel arall. Ond pa ots? Jyst dau fasdad tew oedden nhw. Pa hawl oedd ganddyn nhw i fod mor hapus yn edrych fel’na, tra bod o’n rhannu bwrdd â neb ond yr oerfel?

            Syrffedodd braidd ar wylio pobl a phaneidio – gwnâi fawr o les i’w dymer heddiw - a llyncodd weddill y coffi heb roi cyfle i’w hun ei fwynhau. Roedd o wedi gwastraffu deg munud ac roedd hynny’n ddigon. Roedd yn amser rhoi’r cynllun ar waith; crwydro’r dref a’r siopau ei hun, efallai trïo ambell ddilledyn cyn digalonni eu bod ddim yn ei siwtio. Efallai prynu ffilm i wastraffu awr neu ddwy’n nes ‘mlaen am na wyddai beth arall i’w wneud ag amser eithr ei wastraffu. Coffi arall beryg. Unrhyw beth i fyrhau’r munudau maith.
           
A chododd o’i sedd ac ymgorffori’n ddibwrpas i’r bobl ddibwrpas ddiddiwedd, yn un ohonyn nhw.

Nessun commento: