“the finest trick of the devil is to
persuade you that he does not exist”
Charles Baudelaire
Dros y misoedd diwethaf
mi fûm yn ystyried yn ddigon dwys ar adegau end
game cenedlaetholdeb Cymreig, ac a
fyddwn fyth yn cyflawni rhai, os nad pob un, o’n nodau. Y mae’r nodau hynny
inni’n hysbys. Oce, y dyddiau hyn y cymysgir â nhw ffeministiaeth, amgylcheddiaeth,
cydraddoldeb o bob math, sosialaeth – bob un yn bethau teilwng i raddau tra
wahanol – ond dau nod yn unig sydd i genedlaetholdeb Cymreig: parhad ein hiaith
a rhyddid ein gwlad. Ategwch atynt yr hyn a fynnwch o’ch daliadau personol, ond
o safbwynt gwrthrychol, y ddau nod hynny yw’r alffa a’r omega.
Ond dydi gwybod yr hyn
rydych o’i blaid ddim yn ddigon, ac y mae’r sawl sy’n coelio hynny’n naïf. Gwlad
naïf, ddiniwed ydyn ni gan amlaf, ac mae hynny wedi bod yn rhwystr enfawr i ni wrth
gyrraedd y pen taith a hoffem. Ni wyddom ein gelyn, oherwydd fe’n twyllwyd i
feddwl mai arall yw, gan wlad sydd, ysywaeth, yn llawer craffach a chyfrwys na
ni.
Fe deallai Gwynfor
Evans, dwi’n meddwl. Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â’r dyfyniad adnabyddus
canlynol ganddo:
Britishness...is a political synonym for Englishness which extends English culture over the Scots, the Welsh, and the Irish.
Ond efallai nad ymhelaethodd
ddigon yn hyn o beth – neu efallai, nad amgyffredai lawnder yr hyn a ddywedodd.
Y mae Prydeindod cyfoes yn hunaniaeth artiffisial a grëwyd â dibenion
gwleidyddol yn sail iddi, ond mae’n dwyll ehangach ac yn dwyll y disgynnom i’w
fagl yn llwyr. Roedd yn fwy na modd i gyflawni’n gymharol lwyddiannus ddiben
Seisnigeiddio Ynysoedd Prydain. Fe hoeliodd yn llwyr ein sylw, ac rydym yn dal
i weld Prydeindod fel y gelyn. Fe’n twyllwyd i gasáu a brwydro rhywbeth sydd,
yn ei hanfod, ddim hyd yn oed yn bodoli.
Mae hynny’n glyfar. Ac yn glyfrach nag y meiddem feddwl. Achos mae cenedlaetholwyr yn tueddu i gasáu Prydeindod: yn brwydro'n ei erbyn tra bod gan drwch y Cymru gryn ymdeimlad o uniaethu â hwnnw. Ond Seisnigrwydd? Does gan y Cymry ddim ymberthyn iddo.
Yn ddiweddarach beiom ni
genedlaetholwyr Lundain – un ddinas – hefyd am holl drafferthion ein gwlad, ac
yn ddiweddarach fyth Gaerdydd. Ydyn ni’n bwrpasol, yn fwriadol, camu’n dwp o
amgylch y peth hwnnw sydd am ein troi’n genedl angof?
Achos, yn y bôn, nid
Prydeindod ydi’r gelyn. Dyma’i dweud hi’n onest: Lloegr ydi’r gelyn.
Does pwynt imi fynd drwy
dreigl y canrifoedd ac egluro nad Prydeindod laddodd Llywelyn, na Phrydeindod
ychwaith fynnodd drwy Frad y Llyfrau Gleision ddadwreiddio Cymru o’i hiaith a’n
Seisnigeiddio. Ond mae’r patrwm yn amlwg. Sylweddolodd y Sais ganrifoedd yn ôl
y gallai goncro Cymru drwy arfau a thrais ond na allai lwyr roi ei phobl dan
droed ond drwy gyfrwyster llywodraethu (er gwaetha’n twpdra cynhenid rydyn ni
dal yn rhyfeddol o wydn – efallai bod yna gysylltiad rhwng y ddau. Wedi’r
cyfan, dydi bocsars ddim yn adnabyddus am eu gallu deallusol).
Y broblem oedd sut oedd
gwneud hynny. Yn hyn o beth mae Cymru fu a Cymru sydd yn dra thebyg: dderbyniwn
ni fyth mo’n Seisnigeiddio ddigywilydd. Y mae hunaniaeth Seisnig yn wrthun i’n
gwaed. Ond o’i throsi’n Brydeindod, gwnaed y gwaith yn haws.
Y peth dwl ydi, hyd yn
oed pan ddechreuom ni ddeall taw mwgwd oedd, parhawyd i dargedu’r mwgwd ac nid
y gwisgwr.
Rhyfel i’r farwolaeth
ydi perthynas Cymru a Lloegr. Nid ein nod ydi rhywsut dinistrio Lloegr – y mae
hynny’n amhosib a dydi dinistrio cenedl arall ddim yn beth i’w ddeisyfu beth
bynnag. Ond tydi marwolaeth Cymru wrth law Seisnigrwydd ddim yn amhosib; y mae’n
fygythiad real ac yn rhywbeth sy’n digwydd ag amlygrwydd cynyddol. Brwydr
fythol, ddiflas i barhau yw’r gorau y gallwn obeithio amdano. Ond mae hynny’n
well na’r dewis arall.
Yn y bôn, yr hyn dwi’n
ei ddweud yma ydi hyn: mae’n rhaid i ni bellach efallai cydnabod yn fwy agored
(i ni’n hunain o leiaf) nad Prydeindod ydi’r gwir elyn, eithr Seisnigrwydd, a
hynny y dylid ei frwydro.
Nid rhyw alwad ddifeddwl
ydi hon ychwaith i rywsut feithrin casineb at y Saeson fel pobl nac unigolion;
wedi’r cyfan, mae rhywun i fod i garu ei gymydog, hyd yn oed os ydyn nhw
weithiau’n gwneud y peth yn ddiawledig o anodd. Byddwn i’n mentro dweud taw’r
Saeson hynny sydd yng Nghymru sydd wedi cymryd at ein gwlad a’n hiaith, neu'r
rhai ohonom â gwaed Seisnig ynom, sydd yn fwyaf poenus o ymwybodol o law
Seisnigrwydd yn nirywiad parhaus Cymreictod ac agweddau cynifer o Saeson yng
Nghymru at eu gwlad ddewis. Ysywaeth, mae rhywbeth hanfodol Seisnig am fynnu
aros mewn gwlad rydych wedi dewis byw ynddi a’i chasáu a’i dirmygu’r un pryd.
Mae i Gymru ddau elyn: y
gau elyn a’r gwir elyn. Rhown i’r naill ochr y cyntaf. Fe'n cyflyrwyd fel cŵn gan ein meistri i fod ofn hyd yn oed cydnabod yr ail. Ond does amser i'w wastraffu mwyach. Ei gydnabod sydd raid.
Nessun commento:
Posta un commento