Ymddengys fod y straeon yn wir. Ga’i o ddifrif ymbil ar ddarllennwr y blog hwn – sef fi – i ddod o hyd i Dudley a’i helpu.
Y mae Comisiynydd Twitter Heddlu'r Gogledd wedi trydar yn rhyddhau gwybodaeth am y sefyllfa ac erfyniaf i chi ei ddilyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Os ydych eisiau helpu, cofiwch drydar â'r hashnod #dodohydidudley neu gwnewch un o'r canlynol:
- Ewch i chwilio yn eich cymunedau amdano
- Chwiliwch am olion wyog ar lwybrau'r fro, gallent arwain ato
- Rhowch wybod i'r Heddlu am unrhyw adroddiadau amdano. Y maen nhw hefyd yn derbyn amheuon, honiadau, sïon, sibrydion a chardiau rhodd.
- Os byddwch yn dod ar ei draws, peidiwch â'i gynhyrfu na chyfeirio at y ffaith fod ganddo omled ar dennyn, periff hyn iddo wylo.
- Arhoswch yn eich tŷ nes bod y sefyllfa wedi'i datrys a dilynwch unrhyw ganllawiau a ryddheir gan Lywodraeth Cymru.
Nessun commento:
Posta un commento