Ha-ha-ha!
Hi-hi-hi!
Portffolio
twristiaeth rhowch i mi!
-Dafydd
Elis-Thomas wrth Carwyn Jones, 03.11.2017
Negodwyd y cyfan yn gelfydd a chain, a chyrhaeddodd yr Arglwydd yn ôl i’w
gwt chwain. Fflat foethus a sefid yn rhwysg uwch y Bae, ddi-wae ei gwedd a
lledr ydoedd ar bob sedd. Diwrnod od a darniog fu. Aeth i’r gwaith am saith i’r
Senedd at ei siort, a chyn i’r machlud mud wrido dros Walia, roedd weinidog
dros sbort.
Mawr fyddo’i glod o’r mynydd i’r nant, ac o’i fod y gŵyr y gwnâi
weinidog diwylliant sefydlog. Doedd callach, addasach, ar gyfer yr orchwyl hon
a Leanne dwp bendwmpiodd wrth iddo gyrraedd entrychion. Ond am ddêl i Ddafydd
Êl – D’Êl a alwai'i hun yn awr dros win ar ei fin mewn bwyty yma’n ei gynefin
ger morglawdd mawr Caerdydd. Mor flin fydd Adam Price a’i frechdan aflan ham
ddi-arnais o Tesco bach (“O! Wna un dy hun Adam!” i ddyfynnu Rhun un tro)
o’m gweld ar waith yng nghabinet ein Llywodraeth.
“I ddathlu caf faddon cyn diwedd
y nos, ac yna archebaf i’m hun Ddominôsss,” hisiodd fel sarff, sef yr unig
anifail sy’n debyg i sgarff.
HWBWL BWBWL
HUFEN DWBLLLAID A CHWYS
A BERWI’R CWBL
Yr oedd coginio Eluned Morgan yn mynd o ddrwg i waeth.
Ond gwelsai un llai nag ef yn y twb cyn troi’r tap. Pry cop yn procio’i
goesau gylch y bath. Ceisiai gyrraedd y brig a’i fethiant yn yr arfaeth, dim
llai, ac nid oedd gwe a'i gynorthwyai â’r gwaith. Deigryn ar ruddiau D’Êl
ddisgynnai, ac mewn argyfwng ymddarostyngodd. O’r sgwrs od, un frawddeg adroddir:
“Tydi a myfi -
Pr’un yw’r pry cop?”
Ymsythodd. I’r gegin i goginio macaroni caws ymlwybrodd. Ac yn llygad y
bowlen rhoes y pry cop ac i’w hun fe’i hymborthodd â’r llwyaid cyntaf. Dafydd
Êl, rwyt gnaf!
Nessun commento:
Posta un commento