* * *
CYFWELYDD: Diolch i chi am gytuno i’r cyfweliad hwn, Dr Kate Roberts.
KATE ROBERTS: Dim
problam cont.
CYF: Felly, bwriwn
ati ar unwaith, pa beth a’ch ysbrydolo wrth i chi greu eich straeon?KR: Wel, mae hynny’n syml. Ces i fy magu ar adeg pan oedd pethau’n galed yn yr hen fro. Roeddem mor dlawd y bu ‘mrawd yn gweithio’n chwarel yn ddeufis oed, a’r cartref nid mwy na’r hyn a alwyd bryd hynny’n dŷ torth.
CYF: A pha beth
oedd hynny?
KR: Tŷ wedi’i
wneuthur o fara caled. Toedd yna ddim cerrig bryd hynny yn Rhosgadfan, dim ond
llechi wrth gwrs, a becws shit. Ond allwch chi ddim tŷ o lechi, dim ond to, a pha beth y to
os cyll y tŷ? Dyddiau anodd i’r teulu cyfan, a’r gymuned yn de. Felly treiddiodd
y caledi hwnnw i’m gwaith dilynol, fel surop.
Dr Kate Roberts, 1978, ar ôl ennill Cadair Eisteddfod Ikea |
CYF: Rydych chi’n
hoff o surop?
KR: Ew ydw. Dyna’r
unig beth a gerais erioed.
CYF: Mor ddifyr. Ond wrth gwrs eich gwaith mawr
oedd Traed Mewn Cyffion.
KR: Peidiwch â
siarad am hwnnw, wir.
CYF: Paham felly?
KR: Y golygwyr. Newidion
nhw bopeth. Popeth! Traed mewn Sglodion
oedd y teitl gwreiddiol, yn seiliedig ar yr arfer ym Mhen Llŷn o wisgo esgidiau tatws
fel y mae rhai’n dal i wneud, yn enwedig ymhlith y ffarmwrs a’r cyfieithwyr,
hyd heddiw. Ddywedodd y golygwyr ei fod o’n syniad gwael iawn am nofel. Faddeuaf
i fyth iddynt. Ro’n i’n gwybod bod rhywbeth unigryw gen i’n fanno, ond droeson
nhw’r cyfan yn stori lwyd arall am galedi’r chwareli. Gwnaethon nhw hyd yn oed
dorri’r darn allan am streic fawr y tatws yn llwyr; dydi’r plot ddim yn gwneud
synnwyr heb hwnnw.
CYF: Ydych chi’n
siŵr?
KR: Ydw. Bob dim
a ysgrifennais i erioed newidion nhw bopeth.
CYF: Te yn y Grug?
KR: ‘Te yn y
Gwrych’ oedd o. Yn yr hen Sir Gaernarfon byddai pobl yn aml yn cael te p’nawn
yn y gwrych, i osgoi llosg haul. Pwy gafodd de yn y grug erioed wir? Twpdra
anneallus.
CYF: Tywyll
Heno?
KR: Bydd tad.CYF: Prynu Dol?
KR: Ddim diolch.
CYF: Haul a Drycin?
KR: Be?
CYF: Ond mae’ch
straeon yn amrywiol iawn, yn tydyn, ac yn aml swreal? Roedd Teulu Mari am ddynes yn siarad â’i
hanifeiliaid a mynd ar antur â nhw, Gobaith
am ragrith a pherthynas cyfeillion, Yr
Wylan am wylan, mae’n siŵr, dwi heb ddarllen honno.
KR: Ydyn, dwi
wastad wedi ymfalchïo yn fy ngallu i ysgrifennu pethau mewn unrhyw arddull. Efallai
rhyw ddydd y bydd rhywun yn gallu ei wneud cystal â mi â Chymraeg celfydd a
dychymyg o’r tu hwnt i’r sêr. Ond ‘sgen i’m blog.
CYF: Ie. Wrth
gwrs, mae’ch perthynas agos â Saunders Lewis yn un nodedig yng Nghymru Gymraeg.
Rydych chi’n gyfeillion garw.
KR: O diar mi,
nac ydyn wir. Mae’r sbych yna’n ysgrifennu ata i ers oes pys, ond dwi erioed
wedi ysgrifennu’n ôl. Unwaith fues i’n ei drem ac mi fu’n gwichian ata i’n ofnadwy
fel chwannen frith y llan, sef oen yn nhafodiaith gogledd Llŷn. Mae nhw’n dweud
ei fod o’n gwisgo fel merch ac yn ymateb i’w hun, ond dwi ddim isio meddwl am y
peth a dweud y gwir.
CYF: Beth ydy’ch
hoff fuwch?
KR: Welsh Black.
CYF: Mor ddifyr. I
gloi, sut hoffech chi gael eich cofio gan y genedl?
KR: Byddaf yn
fodlon ar unrhyw atgof ohonof gan y genedl, am fy llenyddiaeth neu fy ngwaith adeiladu trawiadol, oni sernir yr atgof hwnnw ymhen
rhyw, dwnim, rhyw ddeg mlynedd ar hugain gan rywun yn mynd drwy ‘mhethau i ac yn gwneud
honiadau enllibus di-sail amdanaf mewn llyfr neu rywbeth achos rhyw ensyniadau uffernol o wan. Dwi ôl ffôr bach o enllib yn de, ond enllib yn erbyn y meirw? Sgersli bilîf.
CYF: Diolch yn
fawr i chi, Dr Kate Roberts.
KR: Wotevs.