lunedì, aprile 16, 2007

Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier.

Â’r etholiad yn dyfod, dw i’n brysur yn chwilio’r we o hyd am y newyddion diweddaraf, er mae’n debyg bod ambell i berson yn rhestru'r blog hwn fel un gwleidyddol. Dydi o ddim, wchi. Bydda i’n dweud rhyw ambell i beth gwleidyddol (e.e. mae Lib Dems i gyd yn bwyta Muesli, Toris yn dirfeddianwyr cas sy’n saethu pobl dlawd a Llafur ... wel, doniol ydynt yn y bôn) o bryd i’w gilydd.

Ond trown o faterion y dydd at bethau pwysicach fel fy mywyd i, a bod yn onest i chi. Roeddwn i yn y Bae ddydd Sadwrn, gyda Rhys y dyn moel a Sioned yr hogan foel (mae hi’n gwisgo wig, medda’ nhw), a does gwell na pheint wrth ddŵr yn yr haf (er gwaetha’r ffaith nad ydyw’n haf a hefyd bod y dŵr wrth ymyl tafarn Y Lanfa yn farwaidd, gyda dim i’w gweld ond am hen long fudur a chraen budur, a gwylanod) ac mi ges liw haul o ryw fath.

Serch hyn, prin fod haul a’r Hogyn yn gyfeillion. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers symud i Gaerdydd a dywedyd y gwir i chi, mae clwy’r gwair wedi fy meddiannu rhywfaint. Ond mae hi’n waeth flwyddyn yma, ac mae’n llygaid i’n goch ac yn fawr ac ar y funud dw i’n edrych yn eithaf tebyg i hyn:

Heb y gwallt sinsir. Diolch i Dduw. Ro’n i’n trio darllen llyfr neithiwr, yn sbectols i gyd, a phrin yr oeddwn yn gallu gweld. Dwy dabled cysgu yn ddiweddarach ac mi gysgais cyn ddyfned ac y byddwn i fwy na thebyg yn ei wneud mewn gig Genod Droog, am unwaith.

Mi es hefyd i chwilio am dŷ ar y wicend heb fath o lwc, felly mae hynny’n pwyso’n drwm arna’ i, gyda llai na thri mis ar ôl ar Newport Road. Digartref byddwyf â chlwy’r gwair. Casáu bywyd; mae o’n dwat.

venerdì, aprile 13, 2007

Prudd-der byw

Rydych chi o’r farn fy mod i’n berson cwynfanllyd, yn dydych chi (er nad yw eich barn o’r mymryn lleiaf o ddiddordeb i mi)? Dw i am gwyno rŵan, a chwyn hir a thrist bydd hwn, a hynny oherwydd nad ydw i’n hapus o gwbl heddiw a dweud y gwir yn onest i chi.

Do, mi es i dorri fy ngwallt neithiwr. Dw i’n ei gasáu â chas perffaith. Mae’n rhy fyr; ac er fy mod i, yn ôl rhai, yn dueddol o edrych ychydig yn well gyda gwallt byr (yn y modd y mae cachu efallai’n edrych ychydig yn neisiach na chwŷd) dydi o jyst ddim yn fi a dydi hi byth wedi bod pan fy mod i un ai wedi cael fy ngorfodi, neu drwy eiliad wallgof wedi ei dorri. A dw i’n drist, a dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun.

Pan dorrwyd gwallt Samson gollodd yntau ei gryfder, ac yn raddol mae fy hyder innau’n diflannu heb wallt. Ac wrth gerdded o’r siop trin gwallt ddoe byth erioed a deimlais y math baranoia ‘mae pawb yn edrych arnaf’. Bu’n syndod i mi mai bron â thagu dagrau a wnes yr holl ffordd adref, a, nadw, dydw i ddim am fynd allan y wicend ‘ma chwaith o’r herwydd fy mod i’n teimlo mor wirion.

Ychwaneger i hynny'r ffaith bod cael teulu i lawr yn sdresio fi allan ac nad ydw i’n cysgu ar y funud, a bod miloedd o eiriau yn syllu arnaf - lle trist a sâl ydyw’r byd i mi ar y funud. Trist, sâl, di-wallt. Newyn Ethiopia a thaith yr Iddewon drwy’r anialwch dyfod drosof cyn hyn. Betia’ i fod ganddyn nhw fwy o wallt. Ond debyg nad ydi rhywun ei angen yn y rhan honno o’r byd, chwaith.

giovedì, aprile 12, 2007

Twat gwallt

Dw i’n teimlo dros y boi RAC ar Heol y Frenhines (Queens Street i chi a mi). Fe fu’r lle yn lloches iddo, ond daeth yr AA yno yn llu a bellach ni welir mohono. Ond does ots gen i, AA ydw i efo.

Medaf i ddim cyfleu fy niflastod llwyr heddiw. Mae’r gwaith yn erchyll. Chefais i mo fy ngeni i gyfieithu. Dw i’m yn siŵr o ddiben fy modolaeth, chwaith, ond mi ddyfalaf ei bod yn cylchdroi o amgylch hufen iâ.

Dw i’n nerfus hefyd. Dw i’n cael fy ngwallt wedi ei dorri wedyn. Ac ni o farbwr. Gyda’r chwaer i lawr mi benderfynodd hithau bod angen makeover arnaf i. Mae hi ‘di dewis steil gwallt newydd i mi. Mae hi ‘di bwcio lle yn Tony & Guy’s p’nawn ‘ma i mi. Edrych fel twat fydda i erbyn diwedd y dydd, mi fetiaf fy holl eiddo arno (sydd yn cynnwys fy CDs Dafydd Iwan a het lwyd o Awstria).

Penderfyniad. Ewyllys. Aberth. Nôl at y gwaith.

mercoledì, aprile 11, 2007

"I'm a Naughty Boy in the World"

Dw i byth yn peidio â rhyfeddu ar sut y mae bywyd yn lluchio rhyfeddodau fel hyn ataf o hyd er mwyn eu hadrodd i bawb; ond dydw i ddim yn ddiolchgar amdani.

Fel rheol mae’n well gen i gerdded na chymryd tacsi. Er hyn, wedi mynd am fwyd efo’r teulu neithiwr, a hwythau i lawr yng Nghaerdydd am sbel, mi gefais dacsi i’r Bae er mwyn gwneud y cwis, fel pob nos Fawrth (aflwyddiant arall y bu er y gwelwyd gwella yn ein safle a’n gwybyddiaeth cyffredinol). Ond tacsi a gefais.

Dyn Arabaidd oedd y gyrrwr. Dim byd annaturiol am hynny, meddyliais. Roedd hynny tan iddo ddechrau taro’i fol a gweiddi “Fat! Fat” – a chymryd dim diddordeb fy ymatebion i (ysywaeth, nid peth angyffredin o mo hynny). Wedyn, dyma fo’n dechrau canu rhyw gân byrfyfyr (mi dybiaf) a gynhwysodd tôn gron o “I’m a Naughty Boy in the World”. Mi fentraf mai cân byrfyfyr ydoedd; wn i ddim pwy ddiawl byddai’n canu y math beth, wrth i mi edrych drwy’r tacsi i’r awyr yn gweddio am achubiaeth rhag y dyn.

Wedi nifer iawn o’r bennill, a phwyntio at butain yn y stryd a gofyn i mi “Do you like these girls?” (ac na oedd fy ateb, a gaf i gadarnhau) dyma fo’n fy ngollwg yn nhafarn Y Wharf. “£500. Not a penny less. Hah! £5. Get out of my taxi. See you next year”.

Ar fy myw na wnei, meddyliais, wrth fynd i brynu peint.

martedì, aprile 10, 2007

Tywynna'r haul drwy'r swyddfa

Amser cinio caf faguette, ac wedi hynny Lucozade a Boost i’m cadw i fynd drwy’r p’nawn. Anghenfil glwcos wyf y prynhawn, yn dyheu am awyr las a gweirydd gwyrddion.

lunedì, aprile 09, 2007

Arogl yr Afon

Fe fu’n benwythnos da. Bu imi ei fwynhau. Does gwell nag ymweliad â Gogledd Cymru, anheddle angylion.

Dw i’n mynd nôl am Gaerdydd heno. Wedi penwythnos mor hir a hapus prin iawn fy mod i isio mynd i’r gwaith yfory, ond ysywaeth 24 awr i rŵan fe fyddaf yn cyfieithu drachefn. Dw i wedi cadw fy hun yn brysur cofiwch. Mi es i Gaernarfon fore Sadwrn i brynu Diwrnod Efo’r Anifeiliaid, yn ogystal â CD Wil Tân i Nain. Fe soniem am y peth ddydd Gwener, wrth iddi fynnu yr hoffai glywed “CD newydd Sam Tân”.

“Dwyt ti’m yn rhy hen i hynny, Nain?” gofynnais
“Nadw i, mae o’n 40,” atebodd hithau, cyn inni ddatrys y pos.

Y prynhawn hwnnw mi es i bysgota gyda’r Dyn a Elwir yn Dyfed (DED). Yn anffodus bu i’r DED ddewis pysgotfan eithriadol o wael, a’r mwyaf a ddaeth i’m rhan oedd sefyll ar granc. O leiaf bu i’r DED ddal cranc - cyn sefyll arno. Eironig ydoedd. Ac nid pleserus oedd gosod y blow-worms ar y bachyn; cânt yr enw oherwydd eu tueddiad i ffrwydro'r munud y cyffyrddant unrhyw beth siarp.

Diog o ddiwrnod y caf cyn dychwelyd i’r ddinas. Bu imi atal yn nhoiledau Ganllwyd nos Iau ar y ffordd i fyny, wrth yr afon a chanfod fy mod yn cofio sut mae afon yn arogli. Dw i’m yn dweud celwydd. Ydych chi bobl y ddinas yn cofio sut arogl sydd ar afon? Anghofiais i.

Casgliad o bethau bychain yw bywyd. Dydi arogl afon fawr o beth, ond pan mae’n rhan annatod o’ch bod sydd yn amlwg wedi’i cholli mae yn dy daro yn dra chaled.

giovedì, aprile 05, 2007

Diwrnod Hira' 'Mywyd

Dw i’m am smalio y medra’ i wneud gwaith heddiw. Mae’n heulog a dw i’n gyrru i’r Gogledd heno yn syth ar ôl gwaith (sbïwch fi’n blogio’n gwaith yn ddrwg i gyd - ond mae diwygiadau i lwybrau troed Ceredigion yn troi ar rywun yn rhyfeddol o sydyn), ac mi fyddaf yno erbyn 11 er mwyn cael gweld pôl piniwn HTV. Mae hyn yn drist.

Mae pobl Metro yn dal i fy hambygio ar y ffordd i’r gwaith. Hyd yn oed pan dw i’n cerdded tu ôl i’r rhywun (côc yn din o agos) maen nhw dal yn llwyddo i stwffio papur o fy mlaen i a datgan “Metro?”. “Dim diolch” bydda i’n ei ddweud bob tro. Fel arfer, wrth ddweud “diolch” yng Nghaerdydd fe fydd ar hyd y llinellau “Thank you diolch yn fawr”, oherwydd mae’n bwysig dweud ‘diolch’, jyst er mwyn dangos bod ‘na Gymry Cymraeg o gwmpas y lle, yn ogystal â Phwyliaid a Somalis. Ond pan fyddaf mewn tymer drwg, rhyw dim diolch hunanfodlon a swta a ddaw o’r genau i ganlyn targed fy llid. Prin iawn fy mod i isio siarad Saesneg pan fo tymer drwg drosof; rhywsut mae naws y Gymraeg yn addasach o lawer o ran llid a dirmyg.


Gas gen i fod yn y gwaith pan fo rhywbeth gennych chi i wneud ar ôl gwaith a ti bron â marw isio’i gwneud hi. Fe fydd yn ddiwrnod hir. Safwch gyda mi yn y bwlch, gyfeillion; deuwch ataf i’r adwy.

mercoledì, aprile 04, 2007

Y Fi Fawr Wleidyddol

Wel, dyna ni. Rhois fy mhen ar y bloc a darogan beth fydd yn digwydd yn 2007, er yn anffodus dydw i ddim yn gweld Plaid Cymru yn curo hyd at 16 sedd. Dw i yn, fodd bynnag, yn gobeithio’n arw na fydd Llafur yn cadw ei mwyafrifoedd enfawr, dall; na fydd y Ceidwadwyr yn torri tir newydd ac y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwalu. Pa ddiffygion bynnag sydd i’r Torïaid a Llafur (ac mae cyfrolau bethau yn hyn o beth, a chrynswth i Blaid Cymru hefyd), o leiaf bod gronyn o egwyddor a choelio yn eu credoau. Dw i’n gwrthwynebu Llafur oherwydd eu hagwedd dirmygus tuag at y Gymraeg; y Toriaid, oherwydd eu bod nhw ar ochr dra gwahanol i’r sbectrwm gwleidyddol imi, ond mae fy ngwrthwynebiad i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn seiliedig ar eu dimbydrwydd llwyr fel mudiad gwleidyddol.

Serch hynny, dw i’n amau mai anghywir oedd y datganiad isod wrth edrych eto bore ‘ma. Ond mi sticia’ i iddo. Mae fy ngwleidyddiaeth i, sydd wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd, wedi ei seilio ar ffydd ddall.

1997 oedd pan ddaru mi dechrau cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth, a buddugoliaeth Llafur. Dw i’n cofio, yn 12 mlwydd oedd, gobeithio o waelod f’enaid mai’r Ceidwadwyr fyddai’n ennill. Tori bach oeddwn i, yn hoff o’r teulu brenhinol a Phrydeindod. Diolch i Dduw y daeth fy nglasoed yn ddigon sydyn.

Mi fflyrtiais gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol am sbel hir (mae ‘fflyrtio gyda Democrat Rhyddfrydol’ yn swnio’n ddiflas iawn, ond yn ddoniol pes gwelir rhywun arall yn gwneud a methu dianc o’r sefyllfa) cyn ymsefydlu’n Bleidiwr wedi imi fynd am brofiad gwaith i swyddfa Dafydd Wigley yn ’99, cyn ymuno efo’r Blaid y flwyddyn wedyn. Dw i’n cofio bryd hynny doeddwn i ddim yn or-hoff o’r syniad o annibyniaeth, ond rŵan dw i gyda’r mwyaf brwd drosti, er y gwreiddiodd fy nghariad yn y Gymraeg yn fuan yn fy mywyd, wrth i mi fynnu i Mam fy mod i’n falch o Chwarel y Penrhyn oherwydd “dyna’r unig reswm fod yr iaith Gymraeg yn fyw”. Ffeithiau anghywir, calon dda (hanes fy mywyd ymhob maes).


Ddim yn ddrwg am hanner Sais efo sblash o Eidalwr, nac ydi?