martedì, dicembre 04, 2007

Yr Ellygen

Dw i’n teimlo’n sâl. Fy mrecwast yr hwn fore oedd gellygen. Sut mae pawb yn cymysgu rhwng ‘gellygen’ a ‘garlleg’ a phawb yn mynnu mai ‘garlleg’ ydi ‘gellygen’ yn Gymraeg wn i ddim. Pobl od ydi Cymry Cymraeg, mae’n rhaid. Fodd bynnag, ni chefais arlleg i frecwast, a hynny’n beth od i gael i frecwast pe bawn wedi ei gael, ond gellygen.

Y peth ydi roedd o braidd yn galed a dw i’m yn siŵr os ydi rhywun i fod i fwyta gellygen os ydyw’n galed. Dyma paham fod y salwch arnaf. O bosibl.

Prynais bedair wrth drotian o amgylch Morristons neithiwr. Wedi gwario cymaint y noson gynt ar sgolops (dw i dal yn sâl ar eu hôl - ond gwerth y salwch gant y cant! Wel, hynny neu’r ellygen a grybwyllais gynt. Anodd dweud rili tydi?) a chig eidion a chaws penderfynais gadw at gyllideb ac felly lobsgóws bydd pryd yr wythnos yr wythnos hon. Ni fwytawyd y galon (sy’n swnio’n hynod farddonol pe anwybyddwch y ffaith mai un mochyn ydoedd).

Byddaf yn fodlon fy myd ar ddydd Mawrth. Fel un sydd methu â chael teledu digidol, am ba reswm bynnag, ni wn, roedd yn rhaid dewis rhwng Spooks a Gordon Ramsey. Ond nid mwyach. Byddaf yn mynd i dŷ’r merched i weld y ddau. Channel 4 + 1, yn de. Dw i wrth fy modd efo’r ddwy raglen. Ac wedi’r cyfan, mae’n rhoi rhywbeth i mi wneud ond am goginio a gwylio ‘Bottom’ ar y we.

Anghofiais yn ddiweddar cymaint yr oeddwn i’n hoffi gwylio ‘Bottom’. Mae’n wych, o bosib fy hoff gomedi (byddaf i’n dweud pethau ar hap felly weithiau – nid fy hoff gomedi mohono, ond mae’n peri chwilfrydedd dros dro).

Ew, bywyd yn dda ar y funud. Dwi dal heb â gorffen fy stori fer, chwaith. Efallai y dylwn ei osod fan hyn ac y byddai’r pwysau i’w gorffen yn fy ngorfodi i wneud, a gwneud un arall eto fyth. ‘Sdim gwell na phwysau.

lunedì, dicembre 03, 2007

Bwyd yn y Bae

Bu Kinch yn sâl yn ddiweddar. Sâl go iawn, felly, dim ‘sâl Kinch’, sef llusgo o amgylch ei dŷ yn ei ddresin gown yn snwffian. Felly pan gefais gynnig i fynd am fwyd neithiwr ar gyfer ei ben-blwydd (mae o tua 40 erbyn hyn mae’n siŵr. Mae pawb sy’n hŷn na mi yn “tua 40”) prin y gallais ddweud ‘na’. Ond ni fu’n fwriad gen i wneud hynny achos dw i heb fod allan am fwyd ers cryn dipyn.

Felly bydd yn rhaid i mi flogio am fwyd eto, mae’n debyg. A minnau’n fasdad tew does syndod yn hyn o beth: aethpwyd i’r Bayside Brassiere. Dw i byth wedi bod yno o’r blaen, ac iawn oedd fy mwyd i. Roedd y sgolops yn wych: mae sgolops wastad yn wych ac angau i bawb nas cytunant. Maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n sâl bob tro dw i’n eu bwyta (dw i’n siŵr fod gennai rhyw radd o anoddefgarwch bwyd tuag atynt) ond maen nhw mor neis fel na allaf eu gwrthod, a hwythau’n wincio arnaf o’r plât, yn erfyn arnaf i’w llowcio megis morgi.

Ond dw i’m yn siŵr a oedd y cibab cig eidion yn ddewis gwych, a minnau efo dŵr poeth erbyn hyn. Fel arfer mi fyddaf yn eithaf mentrus wrth fynd am fwyd ond doedd yr awydd ddim yno a dw i heb â chael cig eidion ers talwm.

Ac mi gefais bwdin, sy’n rhywbeth newydd iawn i mi. Caws a chracyrs. Iawn, hen ddyn, mi wn, ond dw i wrth fy modd efo caws a chracyrs (sy’n ddau air a bennir i Lowri Llewelyn yn aml, yn bur eironig, a hithau’n gymaint o faich arnaf). Wel, mi fytish y brie a’r caws Cymreig, ond chyffyrddwn i ddim â stilton fyth. Iych.

A dyna ni felly mi ges lond fy mol; £30 gwerth o lond bol a dweud y gwir. Fel rhywun nad oedd am fynd allan y penwythnos (do, mi es nos Sadwrn) dw i ‘di gwario cachlwyth drachefn. A thri chan punt ar y dreth gyngor. Dwisho gliniadur newydd. Dw i heb brynu anrhegion ‘Dolig i neb, chwaith. O wel; o leiaf dw i’n mynd i gasáu ‘Dolig eto ‘leni.

venerdì, novembre 30, 2007

Calon

Diwrnod arall, rheswm arall i gwyno. Fi? Dim peryg. Fydda’ i’m yn un i gwyno, wyddech chi, dweud hi fel mai dw i.

Mae chwant arnaf am frecwast mawr budur. Dw i heb gael brecwast o wy a thost a ffa pob a bacwn a phwdin gwaed ‘stalwm. Tasa gen i un o’m blaen rŵan y tebygolrwydd ydi y byddwn yn nofio ynddo, gan ymdrybaeddu yn y melynwy a chrensian y bacwn.

Meddwl hynny ydw i, mwy na thebyg, oherwydd dw i wedi bod yn bwyta’n iach. Gwŷr pawb nad peth da mo bwyd iach. Wn i ddim neb sy’n licio ffacbys efo angerdd, nac â diléit annaturiol mewn hadau (dw i’m wedi bod yn bwyta mor iach â hynny, cofiwch chi). Dw i byth wedi bod yn ffan o fwyd llysieuol, chwaith. Dw i’n teimlo bod angen cig (neu bysgod) ar rywun i’w bryd er mwyn cael cinio da, calonogol.

Sôn am galonogol, mae gen i galon mochyn yn yr oergell acw. Na, gwir. Calon ydi un o’m hoff gigoedd, wn i ddim pam nad yw pobl yn ei fyta’n amlach. Dw i’n meddwl mai’r broblem ydi na wyddwn i gyda pha beth i’w bwyta. Beth fyddech chi’n gwneud efo calon?

mercoledì, novembre 28, 2007

Bod yn boblogaidd. Yn naturiol.

Wyddoch chi, mae rhai pethau’n ddirgelwch, ac os ydych chi’n fi mae llawer mwy o bethau’n ddirgelwch. Ni’m ganwyd â meddwl dadansoddol, ac mae’n deg dweud nad yw rhif synnwyr cyffredin ar y ffôn lôn, a phe bai mi fyddai yno fel y degau o bobl eraill sydd arno a byth yn cael galwad ffôn na nodyn bodyn (Cysill newydd awgrymu ‘nodyn bidyn’) ond maent yn chwyddo’r rhestr cysylltiadau ac yn gwneud i rywun deimlo’n boblogaidd.

Yn wahanol i Facebook ni ellir hysbysu eich poblogrwydd i bawb ar ffôn. Tai’m i smalio, dw i’m yn unigolyn poblogaidd, a bydd henoed a chŵn a phlant bach yn rhedeg mewn braw o’m gweled yn rhuthro ar hyd North Clive Road efo ymbarél a steil gwallt sydd wedi bod allan o ffasiwn ers cyhyd na fu’n ffasiwn erioed. Ond mae’n ffaith yn ein dydd a’n hoes po fwyaf o gyfeillion Facebook sydd gennych o dan eich enw, po fwyaf o unigolyn cyflawn yr ydych. Onid wyf yn gywir?

Ond ddim erioed bod neb â thri chant a mwy o ffrindiau. Mi fydd ambell i unigolyn randym iawn yn crwydro i gyfrif rhywun: pobl ar MSN y bu ichi eu hychwanegu o ‘stafell sgwrsio pan fuoch yn bedair ar ddeg, unigolyn y cyfarfuoch chi â hwy unwaith, neu weithiau rhywun na weloch chi fyth, ond maen nhw honni eu bod yn dy adnabod “drwy rywun arall”.

Yn bersonol, dw i’n hoff o docio fy ffrindiau Facebook fel mai dim ond pobl dw i’n eu hadnabod go iawn sydd arno. Caf bleser sinistr o dorri pobl allan o’m bywyd y ffordd hon, pe bai mor hawdd â hynny yn y bywyd go iawn sydd ohono mi fyddai’r grym yn mynd i fy mhen a phrin y byddai ffrindiau gennyf.

Hoffaf brocio, hefyd. Mi fydd y diwrnod rhywsut yn llai tywyll o allu lluchio rhith-ddafad ar Lowri Dwd neu gicio Dyfed neu binsio Gwenan, sydd, yn bur eironig, yn bethau yr wyf yn bwriadu eu gwneud rhyw ben beth bynnag.

Ond mi gyfieithais rywbeth rhywbryd yn dweud bod rhywbeth fel 55% o bobl ifanc yn teimlo eu bod yn rhan o ‘gymuned’ ar-lein. Yn bersonol, fedra’ i ddim dallt hynny. Mae cymdeithas yn ddigon drwg fel y mae hi, a chan gwaith gwaeth o ychwanegu Haydn a bwystfilod tebyg i’r fargen, felly mae cymdeithas sy’n bodoli o bobl dw i’n eu hadnabod yn unig, a’u math, yn arswydus o syniad. Ni hoffwn fod yn aelod o’r fath gymuned fy hun - er, os oes gan Facebook un prif fantais, mae’n galluogi rhywun i gadw mewn cysylltiad efo’u ffrindiau heb y poendod tragwyddol o orfod eu gweld yn y cnawd.

martedì, novembre 27, 2007

Asbaragws. Merllys. Cymraeg. Swpyrb.

Dw i’n hoffi asbaragws. Mi edrychais yng ngeiriadur Bruce a sylwi bod sawl enw yn bodoli, megis merllys(-ion), gwillon a lludwlys, yn ogystal ag asbaragws. Does dadl na fyddech chi’n dyfalu bod i’r Gymraeg pedwar gair am yr asparagus Saesneg. Ni cheir ond un yn Cysgeir, er nad oes syndod yn hyn o beth. Pan ddaw at y frwydr eiriol, Bruce sy’n curo bob tro.

Typical Cymraeg ‘fyd. Wn i ddim p’un i ddefnyddio rŵan. Mae’n rhaid i mi ddweud bod ‘merllys’ yn apelio ataf yn fawr, gyda gwillon yn swnio’n rhy debyg i ‘gwinllan’ (sydd, o reidrwydd, yn well nac asbaragws, ond dibynnu pa chwaeth sydd arnoch) a wn i ddim am ‘lydwlys’ ond mae’n rhy ‘gwrych ar ben mynydd’ o air i mi ei gysylltu ag asbaragws.

Y pwynt oedd fy mod felly yn hoff o ferllys. Maen nhw’n flasus. Ac yn ystod y pum munud diwethaf dw i ‘di dysgu pedwar gair Cymraeg amdano. Pum munud yn ôl dim ond y gair Saesneg a wyddwn i. Byw a dysgu, de.

Mi fyddaf yn gwneud ymdrech benodol i wella fy Nghymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ond hefyd ceisio cadw fy nhafodiaith. Tafodiaith, wedi’r cwbl, ydi iaith safonol y werin. Yn fy marn i, mae tafodiaith yn bwysicach nac iaith safonol: bratiaith ydi’r peth drwg, er, mi fyddaf yn onest, dw i’m yn nabod lot o bobl sy’n siarad bratiaith uffernol, chwaith.

Ond dyna dw i’n ei garu am y Gymraeg. Petaech chi’n gallu cyfri’r holl eiriau Saesneg a’r holl rai Cymraeg sy’n bodoli dw i’n siŵr y buasai i’r Gymraeg uffar o lot mwy. Mae gan y Sais gate: mae gennym ni giât, gât, clwyd, porth, iet a llidiart (efallai bod mwy, wn i ddim); mi gewch lefrith a llaeth a lleuad a lloer a phaned a disgled a bob math mewn Cymraeg ond un gair y mae’r Saeson yn ei ddefnyddio am y cyfan. Diflas, de?

Ond pedwar gair i asparagus? Da wan!


(O.N. Dw i’n cael merllys i de. Dyna sbardunodd hyn i gyd.)

lunedì, novembre 26, 2007

Y Cig Gorau

Mae gen i stamp ar fy llaw. Wn i ddim o ble y daeth. Ers gweithio drwy’r wythnos fel hwran (h.y. gweithio mor galed â hwran oeddwn i’n ei olygu fanna, nid bod yn hwran felly) dw i’n cael y blacowts gwaethaf o’r penwythnos. Ond iych mae gen i lwmp dŵr ar un o fy mysedd rwan. Mae’n afiach, dw i’n disgwyl iddo ffrwydro unrhyw funud, mwy na thebyg pan fyddaf yn cael cinio ac i mewn i fy mrechdan. Pethau felly sy’n digwydd i mi, cofiwch.

Byddai cael cawod yn syniad penigamp, a dywedyd y gwir. Ymdrech gormodol ydi cawod ar ddydd Sul, felly yn y gwaith ddydd Llun mi fyddaf yn unigolyn eithaf ffiaidd. A hithau’n ddydd Llun ac yn ddiwrnod prysur iawn i mi sut ymdopaf ni wn.

Diwrnod siopa ydi dydd Llun. Heb amheuaeth mi fyddaf yn ffendio rhywbeth i fwyta efo nwdls. Yn ddiweddar dw i’n obsesd efo nwdls. Wn i ddim o le ddaeth yr hwn obsesiwn ond mae’n dechrau rheoli fy mywyd i raddau rhy helaeth.

Mi gaf bysgodyn heddiw hefyd. Dw i heb cael pysgodyn ‘stalwm. A chig da.

Teimlaf restr, y cigoedd gorau:

  1. Chwadan
  2. Porc
  3. Cig Oen
  4. Estrys
  5. Stêc
  6. Gwydd
  7. Cyw iâr
  8. Cig Eidion
  9. Iau ac arennau
  10. Twrci

Ni aeth llawer o feddwl i fewn i'r rhestr uchod, rhaid i mi gyfaddef. Ond mae'n gywir.

venerdì, novembre 23, 2007

Versatile, slightly bitter, and rather green

Wel fedra’ i ddim dadlau efo’r ffaith fy mod i ‘di cael uffernol o wythnos boring, a dw i’n ymfalchïo yn fy ngallu i ddadlau dros unrhyw beth.

A dweud y gwir, os nad ydw i’n licio rhywun neu fy mod i yn y tymer iawn, mi fyddaf yn ddigon bodlon dadlau dros rywbeth sy’n gwbl wrthyn i mi, jyst er mwyn bod mewn dadl. Mi fyddaf hefyd yn licio bod yn ystyfnig os byddaf yn amgyffred bod ffrae wrth law. Yn wir ni ataliaf fymryn i fod mor eithriadol o atgas â phosib os bydd y tymer iawn yn fy meddu ac yn mynd â fy mryd.

Ond ni allaf ddadlau y bu’n wythnos ddiflas iawn ar y cyfan. Dw i’m wedi gweld neb, er fy mod i weld bod yn gwylio lot o raglenni ar-lein (sy’n drist iawn a minnau’n mor dalentog ac yn gwastraffu fy amser ar y rhithfyd).

Synfyfyrio a fûm am y rhan helaethaf. Beth fyddai wir ganlyniad bwyta’n iach iawn am gyfnod? Sut wyddoch chi fod stêc wedi’i goginio’n berffaith? A oes unrhyw un yn y byd yn gallu gwneud gwell paned i’m dant na mi fy hun? Melys a chryf; sy’n eithaf eironig a minnau’n bitw a chwerw.

Ebe Facebook, pe bawn lysieuyn, byddwn sbigoglys. Dyfynnaf:

Versatile, slightly bitter, and rather green describes you perfectly. Cooked on the site, wilted, or as part of a salad, you can do it all.

Dw i’n sicr yn amlbwrpas ond gwell gen i gadw fy mywyd personol a’m blog ar wahân o ran hynny. Dw i’n sicr yn unigolyn chwerw (wele uchod) ond byth ac ystyried fy hun yn ‘wyrdd’. Be gythraul ydi hynny?

Pa beth a ddaw i’r meddwl gan wyrdd? Cenfigen, salwch, bara wedi llwydo. A damnia, teg ydyw’r honiad ‘fyd.

I can do it all. Licio hwnna. Methu dadlau efo hwnnw chwaith. Fel fydda i’n dweud, ma Jês ar y cês. Swpyrb.

giovedì, novembre 22, 2007

Damnia'r Saeson...!

Dydi’r flog hon ddim yn rhoi llawer o sylw i chwaraeon; mae hynny oherwydd bod yn well gen i ei wylio a’i drafod yn hytrach na ysgrifennu amdano. Beth bynnag, dw i’m yn gwybod be ‘di maswr. Er, o ran y Saesoniaid, roedd ‘na rhywfaint o gymysgedd yn nwfn fy enaid a hwythau ddim yn mynd drwodd i rowndiau terfynol Ewro 2008.

Roeddwn i, fel pob Cymro pur, yn cefnogi Croatia neithiwr (sori dw i’m yn sôn am Gymru, gêm Cymru roeddwn i’n gwylio am y mwyaf ond doeddwn i methu â helpu edrych ar Loegr hefyd). Ond wedyn mi aeth Lloegr allan. Siocd oeddwn i.

Ac mae gan Loegr y tueddiad o beidio â’m mhlesio waeth bynnag beth â wnânt.

Mi roddodd benbleth: pwy ydw i ddim am eu cefnogi yn Ewro 2008? Yr Eidal yw fy nhîm i bob tro i bob cystadleuaeth, oni bai trwy ryfedd wyrth y bydd Cymru’n cymryd rhan rhyw ddydd, a hwythau y byddaf yn eu cefnogi, ond mae ‘na elfen ohonof sydd wrth fy modd yn peidio â chefnogi Lloegr. Mae’n rhan allweddol o’r gystadleuaeth: gweld Lloegr yn mynd allan.

Bellach, bydd y gystadleuaeth ychydig yn wag. A fedraf i ddim ffieiddio a gwylltio a chwyno am y Saeson yn siarad eu hunain i fyny nac ymhyfrydu pan fydd eu disgwyliadau gwirion yn deilchion mân.

Bu stori am ddyn: carodd ei fam a chas perffaith ganddo’i dad. Pan fu farw’r fam, ni wylodd ddeigryn, ond pan fu farw’r tad mi griodd nerth ei lygaid. Rhywbeth felly ydi hyn, mae’n siŵr. Dw i ‘di arfer cael rhywun i’w casáu mewn pêl-droed rhyngwladol: y dewis amlwg ydi Lloegr. Felly fydd rhaid i mi bigo ffeit efo gwlad arall yn ystod y flwyddyn nesaf i sicrhau bod y teimlad hwnnw’n parhau.


Unrhyw awgrymiadau?