Eisiau yw gwraidd dioddefaint: un o hanfodion Bwdhaeth. Coeliwch ai peidio (a mwy na thebyg na wnewch), dw i’n eithaf cryf fy ffydd a’m Cristionogaeth, i’r fath raddau na fyddaf yn cytuno â chrefyddau eraill, a wastad efo rhyw deimlad ym mêr fy esgyrn y dylwn fod yn Babydd (wn i ddim pam hynny). Fodd bynnag, mae’r Bwdhyddion wedi taro’r llygad ar ei phen ac yn hoelen eu lle gyda’r dywediad uchod. A dydi’r flog hon ddim yn trafod chwaraeon a chrefydd, maen nhw’n llawer rhy beryg.
Ers gwneud yr adduned na fyddaf yn mynd allan i feddwi ym mis Ionawr dw i wedi syrthio i mewn i dwll o ddigalondid, ac o ystyried nad yw traean y mis wedi mynd rhagddo, nid peth da mo hyn. I raddau helaeth iawn mae fy mywyd yn cylchdroi o amgylch cymdeithasu, a’r llai y byddaf yn cymdeithasu, yr is y byddaf yn ei deimlo. Rŵan, hawdd byddai mynd allan a pheidio â meddwi, ond fel y rhan fwyaf o bobl dw i ddim yn or-hoff o gwmni meddwons ac yn meddu ar yr ymagwedd ‘if you can’t beat them, join them’ yn hyn o beth. Ac i fod yn onest os ydi rhywun am gael noson sobor does lle gwaeth i fod na thafarn.
A p’un bynnag, ymddengys fod pawb arall yn arbed arian ar ôl y Nadolig, a gwn yn iawn nad Myfi yw’r unig un yn y byd sy’n dioddef o’r blŵs blwyddyn newydd. Mae rhywbeth argoelus ac anghysurus am fis Ionawr. Mae’n oer ond heb y cynhesrwydd Nadoligaidd mewnol y caiff rhywun ym mis Rhagfyr, tân gwyllt Tachwedd na Chwe Gwlad Chwefror. Yn wahanol i gyfnod y Flwyddyn Newydd ei hun, bydd rhywun wirioneddol yn sylwi mai ‘blwyddyn nesaf’ yw eleni, ac y byddant hwy a phawb o’u cwmpas flwyddyn yn hŷn.
Yn gyffredinol dw i’n unigolyn optimistaidd o ran sawl peth, ond pan ddaw at faterion personol dw i’n ystyfnig besimistaidd, a hynny o gyfuniad o fod yn realistig a chynnal delwedd, wrth gwrs. Gyda diffyg gweithgareddau Ionawr mae’n anodd peidio â throi at feddwl yn ddu a bod yn gyffredinol hunandosturiol a phrudd.
O wel. Dim ond dau ddiwrnod ar hugain o Ionawr i fynd. Fyddai’n fy nagrau ymhen dim, fe gewch chi weld.